Mae gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (‘PSBs’) le unigryw yng nghymdeithas y DU. Mae eu rôl yn cynnwys darparu amrywiaeth eang o raglenni difyr a llawn gwybodaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth gwledydd a rhanbarthau’r DU ac sydd ar gael am ddim i bawb.
Mae’r fframwaith rheoleiddio sy’n sail i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus dros y ddau ddegawd diwethaf wedi’i nodi yn Neddf Cyfathrebiadau 2003. Mae Deddf Cyfryngau 2024 wedi diwygio’r fframwaith hwn, gan ddiweddaru’r gofynion a’r cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus trwyddedig (trwyddedeion Sianel 3, Sianel 4 a Sianel 5). Mae’r Ddeddf Cyfryngau yn rhoi mwy o hyblygrwydd a rhyddid i’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus hyn o ran y gwasanaethau y gallant eu defnyddio i gyflawni eu rhwymedigaethau mewn ffordd sy’n gwasanaethu buddiannau cynulleidfaoedd, gan gynnwys – am y tro cyntaf – wasanaethau ar-alw a gwasanaethau ar-lein eraill. Er mwyn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd parhaus, mae’r newidiadau a gyflwynir gan y Ddeddf Cyfryngau yn mynnu bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn nodi’r cyfraniad y bydd pob gwasanaeth y maent yn bwriadu ei ddefnyddio yn ei wneud tuag at gyflawni eu rhwymedigaethau. /p>
Un o effeithiau’r newidiadau hyn oedd ehangu’r rôl a chwaraeir gan y Datganiadau Polisi Rhaglenni (‘SOPPs’) lle mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus trwyddedig yn nodi sut y maent yn bwriadu cyflawni eu rhwymedigaethau rheoleiddiol. Mae gan Channel 4 ddyletswyddau ychwanegol ar gyfer cynnwys cyfryngau, y mae’n adrodd arnynt mewn Datganiadau Polisi Cynnwys Cyfryngau (‘SMCPs’). Mae gan y BBC ofynion cynllunio ac adrodd blynyddol ar wahân o dan Siarter a Chytundeb Fframwaith y BBC, ac nid oes yn rhaid iddo gynhyrchu datganiad polisi rhaglenni.
Bydd datganiadau polisi rhaglenni nawr yn chwarae rhan allweddol yn y broses a gyflwynir gan y Ddeddf Cyfryngau i ganiatáu i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus trwyddedig ac S4C sicrhau bod eu cynnwys ar gael, a’i fod yn amlwg ac yn hygyrch ar amrywiaeth o lwyfannau teledu cysylltiedig. Os bydd darlledwr gwasanaeth cyhoeddus trwyddedig, S4C, neu rywun sy’n gysylltiedig ag ef yn dymuno elwa o’r drefn argaeledd ac amlygrwydd newydd ar gyfer ei ap teledu – a elwid gynt yn ‘wasanaeth rhaglenni rhyngrwyd’ (‘IPS’) o dan y Ddeddf Cyfryngau – rhaid iddo wneud cais i Ofcom am ei wasanaeth rhaglenni rhyngrwyd. Ochr yn ochr â’r cyhoeddiad hwn, rydym wedi cyhoeddi ein cynigion ar wahân i roi’r broses ddynodi ar waith ar gyfer gwasanaethau rhaglenni rhyngrwyd y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.
Mae’r newidiadau a gyflwynir gan y Ddeddf Cyfryngau yn mynnu ein bod yn diweddaru ein canllawiau ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus trwyddedig ynghylch yr amrywiaeth o wybodaeth y maent yn ei darparu yn eu datganiadau polisi rhaglenni, a Channel 4 yn ei ddatganiad polisi cynnwys cyfryngau.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Rydym yn gwahodd sylwadau gan randdeiliaid ar ein cynigion, fel y nodir yn Response Form (ODT, 98 KB), erbyn 25 Mawrth 2025.
Prif ddogfennau
Sut i ymateb
Content Policy Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA