Ymgynghoriad: Adnewyddu trwyddedau Channel 3 a Channel 5

Cyhoeddwyd: 26 Mehefin 2023
Ymgynghori yn cau: 28 Gorffennaf 2023
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae'r ddogfen hon yn rhan o'r broses i adnewyddu trwyddedau darlledu gwasanaeth cyhoeddus Channel 3 a Channel 5, sydd i fod i ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2024. Fel rhan o'r broses o adnewyddu'r trwyddedau hyn, mae'n ofynnol i ni osod y telerau ariannol sy'n daladwy gan y trwyddedwyr.  Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi'r fethodoleg yr ydym yn bwriadu ei defnyddio i benderfynu ar delerau ariannol trwyddedau Channel 3 a Channel 5 ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr 2025 i 31 Rhagfyr 2034. Rydym yn cynnig cymhwyso'r un fethodoleg a ddefnyddiwyd gennym i raddau helaeth pan adnewyddwyd y trwyddedau ddiwethaf yn 2014.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd y Llywodraeth Fesur y Cyfryngau drafft, sy'n cynnig newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer darlledu gwasanaethau cyhoeddus. Mae amseriad y Mesur drafft a ffurf derfynol unrhyw fesurau y byddai'n eu cyflwyno yn parhau'n ansicr. Mae'r effaith y gallai'r fath fesurau ei chael ar brisio trwyddedau at ddiben gosod telerau ariannol hefyd yn ansicr. Yn y ddogfen hon, rydym yn nodi'r dull yr ydym yn bwriadu ei fabwysiadu mewn perthynas â Mesur y Cyfryngau.

Rydym yn croesawu sylwadau gan randdeiliaid ynghylch y fethodoleg a gynigir yn y ddogfen hon erbyn 28 Gorffennaf 2023.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 49.5 KB) (yn Saesneg).

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
C3/C5 Relicensing Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig