Mae gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus le unigryw yng nghymdeithas y DU. Maent yn darparu newyddion cywir a dibynadwy, ac ystod amrywiol o gynnwys o ansawdd uchel gan, ar gyfer, ac am bobl yn y DU sy'n dod â chynulleidfaoedd ynghyd. Mae’n hollbwysig felly bod gwylwyr yn gallu dod o hyd i gynnwys gwasanaeth cyhoeddus a’i ddarganfod yn hawdd.
Mae’r fframwaith rheoleiddio presennol wedi sicrhau bod sianeli teledu llinol y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi bod ar gael yn eang ac yn hawdd dod o hyd iddynt mewn canllawiau rhaglenni electronig ers degawdau. Fodd bynnag, tan i Ddeddf y Cyfryngau 2024 gael ei phasio, nid oedd unrhyw reolau i sicrhau eu hamlygrwydd mewn amgylcheddau cyfryngau ar-lein.
Mae Deddf y Cyfryngau 2024 yn llenwi’r bwlch hwn drwy gyflwyno trefn argaeledd ac amlygrwydd ar-lein newydd ar gyfer apiau teledu darlledu gwasanaeth cyhoeddus a ddosberthir ar lwyfannau teledu cysylltiedig. Bydd y drefn newydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r llwyfannau hynny a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sicrhau bod apiau teledu darlledu gwasanaeth cyhoeddus a ddynodwyd gan Ofcom a’u cynnwys, ar gael, yn amlwg, ac yn hawdd eu cyrraedd.
Mae cam cyntaf y gweithredu felly yn canolbwyntio ar ddynodi'r gwasanaethau hynny sy'n dod o fewn y gyfundrefn.
O ran llwyfannau teledu, y cyfeirir atynt yn y Ddeddf fel ‘gwasanaethau dewis teledu’, ein rôl ni yw darparu adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol yn nodi ein hargymhellion ar ddynodi’r gwasanaethau hyn. Cyn gwneud hynny, rhaid inni gyhoeddi datganiad am yr egwyddorion a’r dulliau y byddwn yn eu defnyddio wrth baratoi ein hadroddiad, ac rydym yn ymgynghori ar ddatganiad o’r fath yn awr.
Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn croesawu mewnbwn ar y dulliau a’r egwyddorion arfaethedig y bwriadwn eu cymhwyso yn ein hadroddiad. Rydym hefyd yn ceisio barn a thystiolaeth ar ein syniadau newydd ar sut y byddwn yn ymdrin â'n hadroddiad cyntaf os caiff yr egwyddorion a'r dulliau a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn eu gweithredu.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad.
Sut i ymateb
Tîm Polisi Cynnwys
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA