Mae Ofcom wedi cadarnhau heddiw, gyda thymor presennol Cadeirydd Channel 4, Syr Ian Cheshire, yn dod i ben flwyddyn nesaf, y bydd yn dechrau’r broses i recriwtio ei olynydd cyn bo hir.
Mae Syr Ian wedi bod yn Gadeirydd Channel 4 ers mis Ebrill 2022 a bydd ei dymor yn dod i ben ar 10 Ebrill 2025.
Bydd y penodiad yn cael ei wneud am gyfnod o dair blynedd hyd at fis Ebrill 2028 a bydd yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Dywedodd Syr Ian Cheshire:
Mae hi wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd aruthrol cael bod yn Gadeirydd Channel 4 ac rwy’n hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd i sicrhau perchnogaeth gyhoeddus Channel 4, lansio strategaeth Fast Forward wirioneddol flaengar sy’n cyflymu trawsnewid y sianel i fod y ffrydiwr gwasanaeth cyhoeddus cyntaf, a chynyddu cyfraniad y sefydliad at fywyd yn y DU, gyda’r ymyrraeth fwyaf erioed gan y sianel yn niwydiannau creadigol y DU.
Heddiw, mae Channel 4 yn arwain y ffordd o ran tarfu digidol, yn cystadlu’n rhyngwladol ac yn lansio rhaglenni a ffilmiau sy’n ennill gwobrau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd y sianel wedi mwynhau ei blwyddyn fwyaf llwyddiannus erioed am wobrau teledu, gyda sawl gwobr gan yr Academy i Film 4, y Gemau Paralympaidd mwyaf a mwyaf cynhwysol hyd yma a lansio cyfres o raglenni newydd a rhai sy’n dychwelyd o The Piano i Big Boys, The Jury i The Couple Next Door.
Mae cynulleidfa ffrydio Channel 4 yn tyfu’n gyflymach na gweddill y farchnad ac mae’n parhau i fod yn esiampl o greadigrwydd aflonyddol ac yn unigryw o ran ei gallu i wthio ffiniau, meithrin lleisiau newydd, a chyrraedd ac ysbrydoli cynulleidfaoedd amrywiol.
Mae gan Channel 4 dîm rheoli cryf, dan arweiniad y rhyfeddol Alex Mahon, Bwrdd sy’n llawn gwybodaeth am y diwydiant a brwdfrydedd, a strategaeth glir i’r dyfodol. Rwyf yn gwbl ffyddiog y bydd Channel 4 yn mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd nesaf ac rwy’n teimlo’n ffodus dros ben fy mod wedi cael cyfle i gyfrannu at hanes anhygoel Channel 4.
Dywedodd yr Arglwydd Grade, Cadeirydd Ofcom:
Mae Channel 4 yn gonglfaen diwylliannol unigryw ym Mhrydain. Mae rôl ei Gadeirydd yn hanfodol i sicrhau ei gynaliadwyedd parhaus a’i allu i wasanaethu cynulleidfaoedd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Hoffwn ddiolch o galon i Syr Ian am ei dair blynedd ragorol o wasanaeth ymroddedig.