Cyhoeddi trwyddedau newydd Sianel 3 a Sianel 5
Ar 12 Medi 2024, fe wnaethom ni gyhoeddi trwyddedau newydd ar gyfer Sianel 3 a Sianel 5 (a dogfennau cysylltiedig). Daw’r trwyddedau newydd hyn i rym ar 1 Ionawr 2025 a byddant yn parhau mewn grym am ddeng mlynedd, gan sicrhau darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar Sianel 3 a Sianel 5 tan 31 Rhagfyr 2034.
Cyhoeddir y trwyddedau ar ôl i’r trwyddedeion dderbyn y telerau ariannol, a gyhoeddwyd gennym ar 1 Mawrth 2024 ac sy’n nodi diwedd y broses aildrwyddedu.
Crynhoi'r broses aildrwyddedu
Cyn adnewyddu trwyddedau Sianel 3 a Sianel 5, mae gan Ofcom ddyletswydd o dan adran 229 o’r Ddeddf Cyfathrebiadau i gyflwyno adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol, cyn cylch trwyddedu newydd, sy’n nodi ein barn ar allu trwyddedeion Sianel 3 a Sianel 5 i gyfrannu at gyflawni dibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB), ar gost fasnachol gynaliadwy, dros gyfnod y drwydded nesaf o ddeng mlynedd. Fe wnaethom gyhoeddi’r adroddiad hwn ar 29 Mehefin 2022.
Ar ôl derbyn yr adroddiad hwn, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu a ddylid rhwystro adnewyddu trwydded ynteu ddiwygio rhai agweddau ar y drwydded. Ar 29 Mawrth 2023, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Gwladol nad oedd yn bwriadu defnyddio ei phwerau fel hyn, gan ganiatáu i ni fwrw ymlaen â’r broses drwyddedu.
Yn dilyn hyn, rhaid i Ofcom bennu’r telerau ariannol ar gyfer adnewyddu’r trwyddedau, a rhoi gwybod i’r trwyddedeion am ein penderfyniad. Fe wnaethom gyhoeddi ein penderfyniad ar 1 Mawrth 2024, yn dilyn ymgynghoriad ar ein methodoleg, a gyhoeddwyd gennym ar 19 Medi 2023.
Os bydd y trwyddedeion yn derbyn y telerau ariannol, rhaid i Ofcom wedyn gyhoeddi’r trwyddedau newyddu cyn gynted ag bo’n rhesymol yn ymarferol. Roedd pob un o’r trwyddedeion wedi derbyn y telerau ariannol ym mis Mawrth 2024, ac fe wnaethom gyhoeddi’r trwyddedau newydd ar 12 Medi 2024.
Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses aildrwyddedu ar gael isod.
Bydd y trwyddedau Channel 3 a Channel 5 presennol yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2024. O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae gan drwyddedeion yr hawl i wneud cais i Ofcom am adnewyddu eu trwyddedau am gyfnod trwydded deng mlynedd arall (rhwng 1 Ionawr 2025 a 31 Rhagfyr 2034). Mae pob un o’r deiliaid trwydded presennol wedi gwneud cais am adnewyddu eu trwyddedau ac rydym wedi penderfynu eu hadnewyddu am ddeng mlynedd arall.
Ar 1 Mawrth 2024 gwnaethom gyhoeddi ein penderfyniad ar delerau ariannol ar gyfer trwyddedau Channel 3 a Channel 5. Mae'r telerau ariannol wedi'u gosod ar gyfer pob trwydded Channel 3 a Channel 5 ar swm cynnig arian parod enwol o £1,000 y flwyddyn gyda PQR o 0%. Mae swm y cynnig arian parod yn codi'n unol â chwyddiant bob blwyddyn.
Rhaid i ni hysbysu'r trwyddedeion am ein penderfyniad ac os ydynt yn derbyn y telerau, rhaid i ni wedyn roi'r trwyddedau newydd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
Mae gan ymgeiswyr hyd at 22 Mawrth 2024 i dderbyn neu wrthod y telerau ariannol. Byddwn yn diweddaru ein gwefan ar ôl y dyddiad hwn gyda'r canlyniad.
Ym mis Medi 2023, cyhoeddwyd ein datganiad yn nodi ein methodoleg ar gyfer pennu telerau ariannol trwyddedau Channel 3 a Channel 5. Rydym wedi dilyn yr un dull yn fras â'r fethodoleg a ddefnyddiwyd y tro diwethaf y gwnaethom bennu telerau ariannol trwyddedau Channel 3 a Channel 5 yn 2014. Rydym wedi gwneud rhai diweddariadau i adlewyrchu ansicrwydd cyfredol y farchnad a rheoleiddio, megis y newidiadau arfaethedig i’r fframwaith rheoleiddio yn y Bil Cyfryngau drafft, a sylwadau gan randdeiliaid mewn ymateb i’n hymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 28 Gorffennaf 2023.
Methodoleg arfaethedig ar gyfer adolygu telerau ariannol y trwyddedau Channel 3 a Channel 5.
Ar 29 Mawrth 2023, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Gwladol nad yw'n bwriadu rhwystro adnewyddu trwyddedau Channel 3 a Channel 5, na defnyddio ei phwerau i ddiwygio cylch gwaith y gwasanaeth cyhoeddus a/neu ofynion statudol eraill sydd ynghlwm wrth y trwyddedau.
Mae gan y deiliaid trwydded presennol (ITV, STV a Paramount Global) tan 30 Ebrill 2023 i gyflwyno eu ceisiadau am adnewyddu trwydded. Ar ôl derbyn eu ceisiadau, byddwn yn bwrw ymlaen â'r broses adnewyddu trwyddedau, mae hyn yn cynnwys ystyried i ba raddau y bydd y trwyddedeion yn cyflawni eu rhwymedigaethau PSB dros y deng mlynedd nesaf ac rydym yn disgwyl cyhoeddi ein penderfyniad terfynol yn gynnar yn 2024. Byddwn hefyd yn penderfynu ar ba delerau ariannol y bydd trwyddedau Channel 3 a Channel 5 yn cael eu hadnewyddu.
Llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch adnewyddu'r trwyddedau
Mae'n ddyletswydd ar Ofcom o dan adran 229 o'r Ddeddf Cyfathrebiadau i gyflwyno adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol erbyn 30 Mehefin 2022 gan ragweld rownd drwyddedu newydd ar gyfer gwasanaethau Channel 3 a Channel 5.
Mae'r adroddiad yn rhoi ein barn ar allu trwyddedeion Channel 3 a Channel 5 i gyfrannu at gyflawni dibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB), am gost fasnachol gynaliadwy, dros gyfnod y drwydded deng mlynedd nesaf. Mae dibenion PSB wedi'u dylunio i sicrhau darpariaeth ystod eang a chytbwys o raglenni o ansawdd uchel, sy'n diwallu anghenion ac yn bodloni buddiannau cynifer o gynulleidfaoedd ag sy'n ymarferol. Mae'r adroddiad yn rhan o'r broses sy'n arwain at naill ai adnewyddu neu ail-hysbysebu a dyfarnu'r trwyddedau, mewn pryd ar gyfer cyfnod nesaf y drwydded sy'n dechrau ar 1 Ionawr 2025.
Mae pob un o'r 16 o drwyddedau Channel 3 wedi'u dal gan is-gwmnïau naill ai ITV plc neu STV plc. Mae trwydded Channel 5 wedi'i dal gan Channel 5 Broadcasting Limited (is-gwmni i Paramount Global).
Mae Channel 3 a Channel 5 yn rhan bwysig o'r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus, ochr yn ochr â'r BBC, Channel 4 ac S4C. Mae pob un o'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rôl unigryw wrth sicrhau bod gan y system rywbeth at ddant pawb, fel y gallant gyda'i gilydd ddiwallu anghenion a diddordebau cynifer o wahanol gynulleidfaoedd â phosibl.
Ein canfyddiadau allweddol
- Y rhwymedigaethau trwydded cyfredol yw'r lleiafswm cyfraniadau at ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yr ydym yn ei ddisgwyl ar gyfer cynulleidfaoedd, ac mae gan Channel 3 a Channel 5 hanes da wrth eu cyflawni.
- Yn ychwanegol at y rhwymedigaethau trwydded penodol, mae trwyddedeion Channel 3 a Channel 5 yn cyfrannu'n ehangach at ddibenion ac amcanion darlledu gwasanaeth cyhoeddus, er enghraifft trwy fuddsoddi mewn ystod eang o gynnwys gwreiddiol yn y DU sy'n diwallu anghenion a diddordebau cynulleidfaoedd gwahanol. Mae ein hymchwil yn dangos bod y sianeli'n parhau i gael eu gwerthfawrogi gan gynulleidfaoedd.
- Gallai'r rhwymedigaethau presennol fod yn fasnachol gynaliadwy, gan olygu y gall y trwyddedeion barhau i'w cyflwyno dros gyfnod y drwydded nesaf. Byddai'r sefyllfa hon yn cael ei chryfhau trwy weithredu diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig Llywodraeth y DU i sefydlu rheolau amlygrwydd ac argaeledd newydd ar gyfer gwasanaethau teledu darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar-lein.
Am y rhesymau hyn, credwn fod achos da dros fwrw ymlaen ag adnewyddu, ac nid ydym yn gwneud argymhelliad, yn ein hadroddiad, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn defnyddio ei bwerau gwneud gorchmynion i ddiwygio neu ddileu'r amodau y mae'n rhaid eu cynnwys yn y trwyddedau neu i rwystro adnewyddu'r trwyddedau.
Adroddiad Adran 229
Adroddiad Adran 229 - dogfennau ategol
Llythyr Agored wrth Kate Biggs, 29 Hydref 2021 (PDF, 222.4 KB)