Rheoleiddio darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus

Cyhoeddwyd: 19 Medi 2023
Diweddarwyd diwethaf: 10 Medi 2024

Mae gan ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus hanes hir a balch yn y DU. Mae’n darparu newyddion diduedd a dibynadwy, rhaglenni sy’n cael eu gwneud yn y DU a chynnwys unigryw.

Darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yw'r rheini sy’n darparu gwasanaethau Channel 3, Channel 4, Channel 5, S4C a’r BBC. Er bod pob sianel deledu y BBC yn sianeli gwasanaeth cyhoeddus, dim ond prif sianeli’r darlledwyr eraill sydd â’r statws hwn.

Sut ydym ni’n rheoleiddio’r BBC

Fel rheoleiddiwr allanol y BBC, ein gwaith ni yw gwneud yn siŵr bod y gorfforaeth yn cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd, a’i dwyn i gyfrif am gyflawni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rheoleiddio'r BBC.

Mae gan Ofcom rai rheolau a chanllawiau sy’n berthnasol i bob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus. Rydym hefyd yn monitro pa mor dda maent yn perfformio ac yn cyhoeddi ein canfyddiadau. Daliwch ati i ddarllen i gael rhagor o wybodaeth.

Ar wahân, gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth sy’n benodol i sut rydym yn rheoleiddio:

Polisïau a chanllawiau pwysig ar gyfer Darlledwyr Gwasanaethau Cyhoeddus

Cynyrchiadau a rhaglenni rhanbarthol

Mae cynhyrchu rhaglenni teledu y tu allan i Lundain yn hanfodol i sector cynhyrchu teledu’r DU. Mae’n helpu i ysgogi buddsoddiad a chreu cyfleoedd gwaith ar draws y wlad.

Er mwyn annog cynyrchiadau teledu yn y gwledydd a’r rhanbarthau, mae Ofcom yn gosod cwotâu ar bob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus fel eu bod yn gorfod cynhyrchu cyfran deg o raglenni y tu allan i Lundain. Mae gan drwyddedau’r BBC a Channel 3 gwotâu rhanbarthol hefyd, sy’n golygu bod yn rhaid iddynt wneud rhaglenni sydd o ddiddordeb i bobl yng ngwledydd a rhanbarthau gwahanol y DU.

Rhagor o wybodaeth am raglenni a chynyrchiadau teledu rhanbarthol

Digwyddiadau sydd wedi’u rhestru

Mae ein rheolau ynglŷn â digwyddiadau sydd wedi’u rhestru yn sicrhau bod rhai digwyddiadau o ddiddordeb cenedlaethol (fel digwyddiadau chwaraeon mawr) yn gallu cael eu gwylio gan y gynulleidfa fwyaf bosibl a hynny am ddim.

Dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus

Mae gan gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus (PSM) le unigryw yng nghymdeithas y DU. Mae’n darparu newyddion dibynadwy a chywir, cynnwys sy’n adlewyrchu’r DU gyfan ac sy’n dod â chynulleidfaoedd at ei gilydd. Ond, wrth i ddefnydd cynulleidfaoedd barhau i symud ar-lein, mae risgiau difrifol i swmp y cynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a ddarperir yn y dyfodol yng ngoleuni’r heriau ariannol sy’n wynebu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. 

Mae llawer o’r argymhellion a wnaethom yn ein hadolygiad diwethaf o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus – sgrin fach: trafodaeth fawr – wedi cael eu mabwysiadu yn Neddf Cyfryngau 2024. Rydym yn croesawu’r diwygiad rheoleiddio hanfodol hwn, ond mae cyflymder y newid yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i asesu pa ddiwygiadau pellach y gallai fod eu hangen i ddiogelu cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus hanfodol ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU.

Mae’r ddogfen hon yn nodi cylch gorchwyl ein hadolygiad nesaf o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Bydd cam cyntaf yr adolygiad yn egluro sut mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd y DU dros y pum mlynedd diwethaf ac yn edrych ar yr heriau i’w ddarpariaeth dros y degawd nesaf a’r tu hwnt. Bydd yr ail gam yn ystyried cyfleoedd i gefnogi cynaliadwyedd cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol ac argaeledd newyddion cywir o ansawdd uchel y gall cynulleidfaoedd ymddiried ynddynt.

Adroddiadau ac adolygiadau eraill

Mae cwotâu yn mynnu bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn dangos nifer sylfaenol o fathau penodol o raglenni. Mae’r cwotâu hyn wedi’u nodi yn y gyfraith a gwaith Ofcom yw eu gorfodi.

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu pa mor dda mae darlledwyr wedi bodloni’r gofynion hyn.

(Mae’r isod ar gael yn Saesneg yn unig).

Mae adroddiadau hŷn ar gael drwy’r Archifau Gwladol.

Dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus (Gorffennaf 2019)

Ar 4 Gorffennaf 2019, fe wnaethom gyhoeddi dogfen yn dangos ein dull gweithredu arfaethedig ar gyfer rheoleiddio darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn yr oes ddigidol (PDF, 145.7 KB). Mae hyn yn ystyried sut gellid diffinio, darparu a darganfod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol, gan flaenoriaethu safbwynt y gynulleidfa.

Adolygiad o amlygrwydd i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (Gorffennaf 2019)

Yn 2018 fe wnaethom ymgynghori ar p’un ai oedd angen deddfwriaeth newydd i'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus barhau i fod yn hawdd i'w canfod wrth i wylwyr fynd ati fwyfwy i wylio’r teledu ar-lein. Cawsom farn y darlledwyr a rhanddeiliaid eraill a gwnaethom nodi ein hargymhellion Llywodraeth ar gyfer fframwaith newydd a fydd yn sicrhau bod cynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn hawdd i’r gwylwyr ei ganfod mewn byd ar-lein.

Adolygiad o gynnwys i blant (Gorffennaf 2018)

Roedd ein hadolygiad o gynnwys i blant yn canolbwyntio ar sut mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU yn darparu amrywiaeth o raglenni i blant ar adeg lle mae arferion cynulleidfaoedd yn newid a lle mae plant yn gwylio mwy a mwy o fideos ar-lein ac ar-alw.

Darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn yr oes ddigidol (Mawrth 2018)

Ar 8 Mawrth 2018, gwnaethom gyhoeddi dogfen hon sy’n nodi’r heriau sy’n wynebu’r darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PDF, 383.6 KB) yng nghyd-destun mwy o ddefnydd ar-lein a chystadleuaeth gan chwaraewyr byd-eang newydd.

Sgorio’r dudalen hon

Diolch am eich adborth.

Rydym yn darllen yr holl adborth ond ni allwn ymateb. Os oes gennych ymholiad penodol dylech weld ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?
Yn ôl i'r brig