Channel 4 logo

Trwydded darlledu gwasanaeth cyhoeddus newydd am ddeng mlynedd i Channel 4

Cyhoeddwyd: 15 Hydref 2024

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ein penderfyniadau ar gyfer trwydded ddarlledu newydd i Channel 4, i gefnogi ei thwf digidol a sicrhau darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar y sianel hon am ddeng mlynedd arall. 

Mae ein hymchwil cynulleidfa yn dangos bod Channel 4 yn dal i fod yn rhan werthfawr o dirwedd darlledu’r DU. Mae hefyd yn parhau i ddarparu cynnwys sy’n hyrwyddo lleisiau a safbwyntiau newydd ac amrywiol, ac mae’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi’r economi greadigol y tu allan i Lundain. 

Ers i drwydded Channel 4 gael ei hadnewyddu ddiwethaf yn 2014, mae’r sector darlledu wedi newid yn sylweddol. Mae lefelau gwylio teledu darlledu traddodiadol wedi gweld gostyngiad sylweddol a hirdymor, ac mae pobl iau – sy’n draddodiadol yn ffurfio cynulleidfa graidd Channel 4 – yn troi at wasanaethau ffrydio fideos ar-lein.

Mae Channel 4 hefyd yn wynebu heriau ariannol – o ystyried ei chysylltiad penodol ag amrywiadau yn y farchnad hysbysebu – yn ogystal â gostyngiad yng nghyfran y gynulleidfa a llai o gydnabyddiaeth o frand ymysg cynulleidfaoedd iau. 

Mewn ymateb i’r heriau hyn, mae Channel 4 wedi nodi strategaeth i drawsnewid ei hun yn “ffrydiwr gwasanaeth cyhoeddus digidol yn gyntaf” erbyn 2030.

Trwydded sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa ac sy’n addas ar gyfer dyfodol digidol Channel 4

Yn y cyd-destun hwn, rydyn ni’n cyhoeddi trwydded 10 mlynedd newydd ar gyfer Channel 4 – sy’n deillio o ddadansoddiad dwfn, ymchwil i gynulleidfaoedd a thystiolaeth arall. Rydyn ni hefyd wedi ymgynghori’n eang â’r diwydiant ac amrywiaeth o randdeiliaid eraill ledled y DU dros y naw mis diwethaf.

Mae’r drwydded newydd wedi’i llunio i gefnogi strategaeth dosbarthu a chynnwys digidol Channel 4, gan ddiogelu ei buddsoddiad mewn cynnwys unigryw yn y DU a diogelu buddiannau gwylwyr sy’n dibynnu ar deledu darlledu traddodiadol wedi’i amserlennu. 

Yn gryno, mae’r drwydded newydd yn gwneud y canlynol:

  • sicrhau rôl unigryw Channel 4 o ran lluosogrwydd newyddion yn y DU
  • galluogi materion cyfoes ymchwiliol Channel 4 i gael mwy o effaith  
  • rhoi mwy o hyblygrwydd i gefnogi trawsnewidiad digidol Channel 4
  • cynyddu gofynion Channel 4 o ran cynhyrchu y tu allan i Loegr.

Cefnogi cynhyrchu yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae’r drwydded newydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer presenoldeb cryf a pharhaus ar gyfer Channel 4 ym mhob un o’r Gwledydd, a chomisiynu amrywiaeth eang o raglenni, gan harneisio doniau a sgiliau creadigol lleol.  

Ar ôl ymgynghoriad ychwanegol, rydyn ni heddiw yn cadarnhau ein penderfyniad i gynyddu, o draean, gofynion blynyddol Channel 4 o ran gwariant ar gynyrchiadau ac oriau rhaglenni a wneir yn y DU y tu allan i Loegr - o 9% i 12%.

Mae’r drwydded yn mynnu bod yn rhaid i Channel 4 gyflawni’r cwotâu uwch hyn o 2030 ymlaen, er mwyn gallu darparu rhaglenni o ansawdd mewn ffordd gynaliadwy. Ar ôl ymgysylltu â Channel 4, rydyn ni heddiw’n cyhoeddi llythyr gan y darlledwr yn rhoi sicrwydd ysgrifenedig y bydd yn ceisio cyrraedd y lefelau uwch hyn yn gynharach, ond mae llawer o heriau ac ansicrwydd yn dal i fodoli wrth iddo newid yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus digidol yn gyntaf. 

Yn ystod y broses aildrwyddedu, clywsom bryderon a rannwyd gan randdeiliaid yn y diwydiant am ddarpariaeth Channel 4 yn y Gwledydd hyd yma a’i hymrwymiad i’r agenda hon. Felly, rydyn ni hefyd yn glir bod yn rhaid i’r darlledwr fod yn llawer mwy agored a thryloyw am ei ddull o gomisiynu a’i effaith ym mhob gwlad unigol yn y dyfodol. 

Yn unol â chanllawiau newydd a gyhoeddir gan Ofcom, dylai Channel 4 gyhoeddi data a gwybodaeth yn rheolaidd yn nodi:

  • sut mae ei dull o gomisiynu y tu allan i Loegr yn cefnogi ac yn ysgogi’r sector cynhyrchu teledu yn y gwledydd 
  • ei strategaeth ar gyfer comisiynu ym mhob gwlad unigol dros y flwyddyn nesaf a sut mae wedi cyflawni ei strategaeth ar gyfer y flwyddyn flaenorol 
  • ei chynlluniau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a chynulleidfaoedd yn y gwledydd yn ystod y flwyddyn nesaf a sut mae wedi ymgysylltu â nhw dros y flwyddyn flaenorol, gan gynnwys sut mae’n galluogi mynediad i gomisiynwyr. 

Byddwn yn mynd ati’n ofalus i fonitro cynnydd Channel 4 at gyrraedd y lefelau cwota newydd, yn ogystal â chraffu ar ei pherfformiad a’i darpariaeth ehangach yn erbyn ei strategaeth, drwy ein hadroddiad blynyddol ar y Datganiad Polisi Cynnwys Cyfryngau.

Dywedodd Cristina Nicolotti Squires, Cyfarwyddwr Grŵp Ofcom, Darlledu a’r Cyfryngau: 

“Y drwydded newydd hon yw’r canlyniad gorau i gynulleidfaoedd ac i Channel 4.

“Mae’n sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng rhoi’r hyblygrwydd i Channel 4 gefnogi ei thrawsnewidiad digidol, gan ddiogelu rhaglenni unigryw â gwerth uchel ar ei sianel draddodiadol yn y tymor hir.

“Mae’r drwydded newydd hefyd yn cynyddu gofyniad Channel 4 am gynnwys wedi’i gynhyrchu yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Bydd Ofcom yn monitro ei pherfformiad yn y maes hwn yn ofalus ac yn ei dal i gyfrif.”

Dywedodd Alex Mahon, Prif Weithredwr, Channel 4:

"Rydym yn croesawu adnewyddiad Ofcom o drwydded ddeng mlynedd Channel 4 a chefnogaeth i'n strategaeth i fod y ffrydiwr gwasanaeth cyhoeddus gyntaf. Mae'r drwydded newydd yn rhoi eglurder ar gyfer y degawd nesaf wrth i ni gyflawni ein cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus unigryw – gan fuddsoddi mewn cynnwys Prydeinig nodedig a newyddion dibynadwy i gynulleidfaoedd a chefnogi twf yr economi greadigol ledled y DU. Mae argymhellion Ofcom yn cefnogi ein hymgyrch am hyd yn oed mwy o hynodrwydd, gan ein galluogi i adeiladu ar ein safle fel yr unig ddarlledwr masnachol mawr i dyfu cofnodion gwylio cyffredinol eleni a pharhau â'n trawsnewidiad digidol sy'n arwain y diwydiant.

“Rydym hefyd yn croesawu penderfyniad Ofcom i gynyddu cwotâu gwledydd Channel 4 o draean – o 9% i 12% o’n gwariant ac oriau ar gynnwys ein prif sianel– yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru erbyn 2030. Credwn fod hyn yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng yr hyblygrwydd masnachol sydd ei angen arnom fel busnes a chyflawni ein nod i gefnogi twf cynhyrchu cynaliadwy ar draws y gwledydd. Bydd Channel 4 yn ymdrechu i gyrraedd y lefel 12% erbyn 2028 – dwy flynedd o flaen y targed. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio’n agos gydag Ofcom i gryfhau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus y DU a chyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd Prydeinig yn y blynyddoedd i ddod.”

Yn ôl i'r brig