Gweithredu'r Ddeddf Cyfryngau

An abstract image with hundreds of floating screens displaying TV-like content (istockphoto-1301983459)

Ein hymagwedd

Ym mis Mai 2024, derbyniodd Deddf y Cyfryngau Gydsyniad Brenhinol a daeth yn gyfraith. Y ddeddfwriaeth hon yw’r newid mwyaf i’r fframwaith cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ers dau ddegawd. Mae’n gwneud newidiadau i gyfrifoldebau presennol Ofcom fel rheoleiddiwr cyfryngau darlledu’r DU, – gan gynnwys:

  • Diweddaru'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer radio masnachol i sicrhau cynnwys lleol pwysig.
  • Sicrhau y gall darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU (‘PSB’) gyflawni rhwymedigaethau, megis cwotâu, lle bynnag y mae cynulleidfaoedd yn eu disgwyl ac nid ar deledu llinol yn unig.
  • Cyflwyno dyletswyddau newydd i sicrhau amlygrwydd i gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus a hygyrchedd radio’r DU drwy gynorthwywyr llais.

Ers cyhoeddi ein map ffordd, rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â diwydiant a’r llywodraeth i baratoi ar gyfer ein dyletswyddau newydd. Bydd yr adran hon o’n gwefan yn darparu diweddariadau rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid wrth i ni symud ymlaen â’n gwaith a gweithredu fel cartref i’r ymgynghoriadau a chyhoeddiadau eraill y byddwn yn eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf.

Isod fe welwch y llinellau amser rydym yn gweithio tuag atynt ar hyn o bryd ar draws gwahanol rannau’r Ddeddf. Lle mae'n bosibl gwneud hynny, byddwn yn ceisio cyflymu ein hamserlen a diweddaru'r dudalen we hon yn unol â hynny.

Diweddariad diweddaraf - Rhagfyr 2024

Cyhoeddwyd dau ymgynghoriad - darllenwch ein diweddariad diweddaraf wrth inni ddechrau gweithredu deddfau newydd o dan Ddeddf y Cyfryngau. 

Ein gwaith

Ymgynghoriad: Adnewyddu trwyddedau radio masnachol lleol

Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr 2024

Rydym yn croesawu safbwyntiau gan randdeiliaid ar ein cynigion ac unrhyw ffactorau eraill sy’n werth eu hystyried wrth benderfynu a yw amlblecs yn addas ar gyfer anghenion trwyddedai o dan y Llwybr Adnewyddu Newydd a nodir yn ein hymgynghoriad.

Ymgynghoriad: dynodi gwasanaethau dewis teledu - egwyddorion a dulliau ar gyfer argymhellion Ofcom

Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr 2024

Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn croesawu mewnbwn ar y dulliau a’r egwyddorion arfaethedig y bwriadwn eu cymhwyso yn ein hadroddiad.

Update on implementing the Media Act - December 2024

Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr 2024

Ofcom is today publishing two consultations as we continue to implement new laws under the Media Act 2024.

Cais am Dystiolaeth: Digwyddiadau Rhestredig Gweithredu’r Ddeddf Cyfryngau 2024

Cyhoeddwyd: 18 Gorffennaf 2024

Diweddarwyd diwethaf: 7 Tachwedd 2024

Yn yr alwad hon am dystiolaeth, rydym yn ceisio mewnbwn i'n helpu i weithredu newidiadau i'r drefn digwyddiadau rhestredig a gyflwynwyd gan Ddeddf y Cyfryngau.

Diweddariad ar weithredu’r Ddeddf Cyfryngau - Hydref 2024

Cyhoeddwyd: 17 Hydref 2024

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi gwneud rheoliadau cychwyn sy’n dod â Rhan 5 o Ddeddf Cyfryngau 2024 i rym, yn ogystal ag adran o Ran 1, er mwyn i ni allu bwrw ymlaen â’n gwaith paratoi ar ddiwygio darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Secretary of State letter requesting Ofcom to report on the operation of the market in the United Kingdom for on-demand programme services and non-UK on-demand programme services

PDF ffeil, 131.8 KB

Cyhoeddwyd: 26 Medi 2024

Diweddariad ar weithredu’r Ddeddf Cyfryngau - Awst 2024

Cyhoeddwyd: 20 Awst 2024

Mae’r Ddeddf Cyfryngau wedi’i llunio i ddiogelu darlledu gwasanaeth cyhoeddus ac i feithrin arloesedd, er mwyn i gynulleidfaoedd y DU allu mwynhau’r gwasanaethau, y cynnwys fideo a’r rhaglenni maen nhw’n eu mwynhau.

Y Bil Cyfryngau: Map Ofcom tuag at reoleiddio

Cyhoeddwyd: 26 Chwefror 2024

Mae Ofcom wedi nodi ei gynlluniau ar gyfer rhoi’r Bil Cyfryngau ar waith, unwaith y daw’n gyfraith.

Yn ôl i'r brig