Mae Ofcom wedi cael ceisiadau gan y BBC ac ITV am ganiatâd i ddarlledu Pencampwriaeth Rygbi Chwe Gwlad y Dynion yn fyw ac yn ecsgliwsif yn 2025.
Mae gemau’r Chwe Gwlad i’r gwledydd cartref wedi’u dynodi’n ddigwyddiadau rhestredig Grŵp B. Yn unol â Deddf Darlledu 1996, mae angen caniatâd Ofcom er mwyn i ddarlledwr ddarparu darllediadau teledu byw, ecsgliwsif.
Mae'r BBC ac ITV/STV yn bwriadu rhannu darllediadau o'r Chwe Gwlad 2025. Mae’r BBC yn bwriadu darlledu darpariaeth fyw lawn o Gemau Cartref Cymru a’r Alban ar BBC One neu BBC Two. Mae ITV ac STV yn bwriadu darlledu darllediadau byw o gemau cartref Lloegr, Iwerddon, Ffrainc a’r Eidal ar draws rhwydwaith Channel 3.
Bydd y BBC hefyd yn darlledu darllediadau byw ar y radio o’r holl gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2025 ar BBC Radio 5 Live a BBC Radio 5 Sports Extra.
Rydym yn bwriadu rhoi caniatâd dros dro i geisiadau’r BBC ac ITV ac rydym yn gwahodd cyflwyniadau gan bartïon sydd â diddordeb erbyn 5pm ar 16 Ionawr 2025.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad.
Cynnwys cysylltiedig
Sut i ymateb
Listed Events
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA