Mae Ofcom wedi rhoi ei gydsyniad i gais gan Sky UK Limited ("Sky") i ddarparu darllediadau byw ar eu sianeli hwy yn unig o Gwpan Criced y Byd ICC y Dynion 2023 ("Cwpan Criced y Byd’).
Cynhelir Cwpan Criced y Byd rhwng 5 Hydref a 19 Tachwedd 2023. Mae Sky yn bwriadu darparu darllediadau byw o bob gêm yng Nghwpan Criced y Byd ar ei sianeli Sky Sports. Mae Channel 5 Broadcasting Limited wedi caffael hawliau darlledu eilaidd ac yn bwriadu dangos uchafbwyntiau dyddiol y twrnamaint, a darllediadau byw o’r Rownd Derfynol, ar Channel 5. Bydd Channel 5 hefyd yn sicrhau bod ei rhaglen uchafbwyntiau ddyddiol ar gael ar My5, ei gwasanaeth ar-alw, yn fuan ar ôl ei darlledu. Mae’r BBC wedi caffael hawliau radio ar gyfer y twrnamaint ac yn bwriadu darparu darllediadau radio byw ar orsaf sy'n cyrraedd ar hyd a lled y wlad.
Mae'r “Rownd Derfynol, Rowndiau Cynderfynol a Gemau sy'n cynnwys Timau Gwledydd Cartref” a chwaraeir fel rhan o Gwpan Criced y Byd yn ddigwyddiadau rhestredig Grŵp B at ddibenion Deddf Darlledu 1996 (“y Ddeddf”). Mae angen caniatâd Ofcom i ddarparu darllediadau teledu byw o ddigwyddiadau rhestredig ar sianeli darlledwr penodol yn unig o dan adran 101 o'r Ddeddf.
Fodd bynnag, pan fo ail ddarlledwr sy’n darparu gwasanaeth yn y categori arall i’r gwasanaeth(au) y mae’r darllediad byw i'w ddarparu arno/arnynt yn unig yn darparu darllediad eilaidd digonol o ddigwyddiad rhestredig Grŵp B, a bod hawliau i ddarparu darllediadau radio cenedlaethol byw hefyd wedi'u caffael, gall Ofcom roi caniatâd 'awtomatig' i ddarlledu, heb ymgynghoriad. Gweler paragraffau 1.18 i 1.21 o God Ofcom ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill sy'n nodi mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n gyfystyr â darpariaeth eilaidd ddigonol. Yn yr achos hwn, mae sianeli Sky Sports Sky yn “wasanaethau nad ydynt yn cymhwyso” at ddibenion y Ddeddf, tra bod Channel 5 a’r BBC yn “wasanaethau sy’n cymhwyso”.
A ninnau wedi ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd gan Sky, a'r wybodaeth atodol a ddarparwyd gan Channel 5 a'r BBC, mae Ofcom yn fodlon bod darpariaeth ddigonol wedi'i gwneud ar gyfer darpariaeth eilaidd a radio fel y nodir uchod ac mae wedi penderfynu rhoi caniatâd awtomatig i'r cais gan Sky.