Mae Ofcom wedi cael cais gan y BBC am ganiatâd i ddarlledu darpariaeth fyw ecsgliwsif o Gemau’r Gymanwlad 2018 (“y Gemau”). Mae’r rhain i fod i gael eu cynnal yn ninas Gold Coast, Awstralia rhwng 4 ac 15 Ebrill 2018.
Mae’r BBC yn bwriadu darlledu’r Gemau ar BBC One a/neu BBC Two (a’u ffrydiau rhyngweithiol). Hefyd, mae’r BBC yn bwriadu darparu sylwebaeth fyw a gohiriedig ar BBC Radio 5 Live. Bydd Eurosport yn darparu uchafbwyntiau dyddiol o'r Gemau, a’r bwriad yw bod Eurosport yn dangos darpariaeth ohiriedig hefyd.
Mae Gemau’r Gymanwlad yn ddigwyddiad rhestredig i ddibenion adran 97 o Ddeddf Darlledu 1996 (fel y’i diwygiwyd). Mae Cod Ofcom ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill (PDF, 71.2 KB) yn berthnasol i ddigwyddiadau o’r fath. Mae Gemau Gymanwlad yn ddigwyddiad rhestredig Grŵp B dan Ddeddf Darlledu 1996. Yn unol ag adran 101 o Ddeddf Darlledu 1996, rhaid cael caniatâd Ofcom er mwyn dangos y digwyddiad hwn yn fyw ac ecsgliwsif.
Os yw partïon sydd â diddordeb yn dymuno cyflwyno unrhyw sylwadau am y ceisiadau, dylen nhw anfon y rhain i Ofcom, drwy e-bost neu lythyr, erbyn 21 Mawrth 2018 fan bellaf. Oni ofynnir am gyfrinachedd, bydd yr holl sylwadau yn cael eu darparu ar wefan Ofcom ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.
Manylion cyswllt
Ofcom
Riverside House
2a Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA