Ymgynghoriad: Digwyddiadau Rhestredig - Rownd Derfynol Cwpan Her Rygbi'r Gynghrair 2024-26

Cyhoeddwyd: 8 Ebrill 2024
Ymgynghori yn cau: 6 Mai 2024
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae Ofcom wedi cael cais gan y BBC am ganiatâd i ddarlledu darpariaeth fyw egsgliwsif o Rownd Derfynol Cwpan Her Rygbi’r Gynghrair yn 2024, 2025 a 2026 (“y Rowndiau Terfynol”). Mae Rownd Derfynol 2024 yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 8 Mehefin 2024.

Mae Rownd Derfynol Cwpan Her Rygbi’r Gynghrair wedi’i dynodi’n ddigwyddiad rhestredig Grŵp A at ddibenion Deddf Darlledu 1996. O dan y Ddeddf, rhaid cael caniatâd Ofcom er mwyn dangos y digwyddiadau rhestredig yn fyw ac yn ecsgliwsif.

Mae Ofcom yn bwriadu rhoi’r caniatâd hwn dros dro ar gyfer Rowndiau Terfynol 2024, 2025 a 2026, yn amodol ar ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 98.2 KB).

Contact information

Cyfeiriad

Listed Events
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig