Cais wedi'i gymeradwyo: Rownd Derfynol Cwpan Her Rygbi'r Gynghrair 2024-26

Cyhoeddwyd: 17 Mai 2024

Mae Ofcom wedi rhoi caniatâd i’r BBC ddarlledu Rownd Derfynol Cwpan Her Rygbi’r Gynghrair yn 2024, 2025 a 2026 (“y Rowndiau Terfynol”) yn fyw ac yn egsgliwsif.

Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad rhwng 8 Ebrill a 6 Mai 2024 ynghylch cais y BBC am ganiatâd i ddangos Rowndiau Terfynol 2024, 2025 a 2026 yn fyw ac yn egsgliwsif. Bydd Rownd Derfynol 2024 yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 8 Mehefin 2024. Nid yw dyddiadau’r Rownd Derfynol ar gyfer 2025 a 2026 wedi cael eu cadarnhau eto.

Mae Rownd Derfynol Cwpan Her Rygbi’r Gynghrair wedi’i dynodi’n ddigwyddiad rhestredig Grŵp A at ddibenion Deddf Darlledu 1996. O dan y Ddeddf, rhaid cael caniatâd Ofcom er mwyn dangos y digwyddiadau rhestredig yn fyw ac yn egsgliwsif.

Mae’r BBC yn bwriadu darlledu darpariaeth fyw lawn o Rowndiau Terfynol 2024, 2025 a 2026 ar BBC One neu BBC Two. Mae gan y BBC yr hawl i ddarlledu’n fyw ar y radio hefyd.

Roedd ein hymgynghoriad yn esbonio ein bod yn bwriadu rhoi caniatâd i’r BBC, ac yn nodi mai ein barn dros dro yw bod darlledwyr gwasanaethau “cymwys” a rhai “nad ydynt yn gymwys” (at ddibenion y Ddeddf) wedi cael cyfle i gaffael yr hawliau i ddarlledu’r Rowndiau Terfynol yn fyw ar delerau teg a rhesymol. Gan nad yw hawliau’r BBC yn egsgliwsif, roeddem wedi nodi hefyd ei bod yn dal yn bosib i ddarlledwr arall gaffael hawliau i’r Rowndiau Terfynol.

Cawsom un ymateb i’r ymgynghoriad, gan unigolyn, a oedd o blaid darpariaeth arfaethedig y BBC oherwydd ei bod hi’n bwysig bod y digwyddiad ar gael i’r gynulleidfa fwyaf bosib.

Rydym wedi penderfynu rhoi caniatâd i’r BBC ddarlledu’r Rowndiau Terfynol yn fyw ac yn egsgliwsif, gan nodi bod y cynlluniau darlledu yn sicrhau bod y Rowndiau Terfynol ar gael yn fyw ac yn ddi-dâl i gynulleidfaoedd ar draws y DU.

Yn ôl i'r brig