Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei fod yn ehangu'r ystod o ddata a gasglwn yn flynyddol gan ddarlledwyr teledu a radio i'n helpu i hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad ar draws y diwydiant darlledu.
Daw hyn yn sgil adolygiad pum mlynedd o gynnydd, a nododd ble y gallem helpu i symbylu gwelliannau pellach fel bod y sector wir yn adlewyrchu'r cynulleidfaoedd amrywiol y mae'n eu gwasanaethu.
Gyda mwy o bobl yn gadael y diwydiant teledu a radio, ni fydd y cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf i gynyddu amrywiaeth yn gynaliadwy - oni bai bod mwy o ymdrechion yn cael eu gwneud i gadw, ac nid yn unig i ddenu, ystod amrywiol o weithwyr ar bob lefel.
Mae ein hymagwedd, felly, yn canolbwyntio'n gadarn ar symbylu tegwch a chynhwysiad, a helpu darlledwyr i ymwreiddio amrywiaeth ar bob lefel o'u sefydliad. Heddiw, rydym yn cyhoeddi cyfres o newidiadau i'r ffordd yr ydym yn cywain gwybodaeth amrywiaeth gan ddarlledwyr, yn ogystal ag adnewyddu ein harweiniad i'r diwydiant i adlewyrchu'r arferion gorau diweddaraf.
Yng ngwanwyn 2023, byddwn yn lansio pecyn cymorth cywain data newydd ar gyfer darlledwyr. Mae'n cynnwys:
- offeryn hunan-asesu tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad newydd sbon ar gyfer cywain data ansoddol, gwerthuso ac adborth;
- holiadur cywain data meintiol estynedig, sy'n hawdd ei ddefnyddio; ac
- arweiniad wedi'u diweddaru ar gyfer darlledwyr, gan gynnwys argymhellion penodol ar arferion gweithio cynhwysol.
Hefyd heddiw, rydym yn cyhoeddi ein hadroddiad ar amrywiaeth y gweithluoedd teledu a radio 2021-2022. Mae hyn yn cynnwys data amrywiaeth lefel uchel, wedi ei ddarparu'n wirfoddol, gan wyth o'r darlledwyr mwyaf. Mae'n datgelu'r canlynol, ar draws gweithluoedd yr wyth darlledwr:
- yn gyffredinol cynyddodd cynrychiolaeth o grwpiau ethnig lleiafrifol i 15% o weithwyr. Mae hyn yn rhagori ar y gynrychiolaeth ym mhoblogaeth oedran gweithio'r DU (13%) ond yn parhau'n is nag ar gyfer dinasoedd mawr lle mae gan nifer o'r darlledwyr hyn bresenoldeb cryf (Llundain ar 37% a Manceinion yn 28%). Cododd y gynrychiolaeth o bobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ar lefel rheoli uwch hefyd i 9%, er bod angen gwelliant parhaus;
- mae pobl anabl yn parhau i gael eu tangynrychioli'n sylweddol, gan ffurfio dim ond 9% o'r holl weithwyr ac 8% o uwch reolwyr, o'i gymharu â 21% o boblogaeth oedran gweithio'r DU; ac
- mae pobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol wedi'u tangynrychioli. Roedd 13% o weithwyr wedi mynychu ysgol breifat, o'i gymharu â 7% o boblogaeth oedran gweithio'r DU, ac roedd gan 62% o weithwyr rieni mewn galwedigaeth broffesiynol pan oeddent yn 14 oed, o'i gymharu â meincnod y DU o 33%.
Am y tro cyntaf eleni, gallwn gyhoeddi rhywfaint o ddata gweithlu amrywiaeth wedi'i ddadansoddi yn ôl ardal ddaearyddol. Mae'r BBC wedi darparu data ar gyfer Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy'n dangos bod 81% o weithlu'r BBC wedi'i leoli yn Lloegr, o'i gymharu ag 8% yn Yr Alban, 7% yng Nghymru a 4% yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar gyfansoddiad y gweithlu ym mhob ardal. Rydym yn annog darlledwyr eraill yn gryf i ddilyn esiampl y BBC wrth ddarparu'r data hwn yn ôl lleoliad.