Dyluniwyd ein hofferyn cywain data ansoddol newydd ar y cyd â Radius Networks, a gomisiynwyd gennym i ddatblygu ymagwedd newydd at gywain data gweithlu ansoddol.
Mae sawl nod i'r model:
- gyrru a monitro gwelliannau i amrywiaeth a chynhwysiad y gweithlu;
- deall blaenoriaethau newidiol y sector darlledu; a
- chefnogi dysgu, gwerthuso, a chydweithio o fewn y sector.
Crynodeb o sut mae'r model newydd yn gweithio
Mae'r offeryn newydd ar ffurf model aeddfedrwydd, sy'n asesu effeithiolrwydd darlledwr wrth gyflawni amcan EDI penodol ar draws cyfres o lefelau. Mae'r model yn galluogi darlledwyr i ddeall gradd aeddfedrwydd eu hymagwedd at EDI ac yn rhoi awgrymiadau iddynt helpu datblygu eu hymagwedd ymhellach.
Caiff cwestiynau eu grwpio yn ôl themâu, sy'n mapio drosodd i Arweiniad EDI Ofcom.
Gofynnir cwestiynau i ddarlledwyr o fewn pob thema i asesu a ydynt yn 'dechrau', 'ymrwymo', 'cyflawni' neu'n 'rhagori' ym mhob maes.
Unwaith y bydd darlledwr wedi ateb cwestiwn, byddant yn cael awgrymiadau ar sut y gallent symud ymlaen â'u trefniadau. Bydd darlledwyr yn cael asesiad o sut maen nhw'n perfformio ym mhob maes, yn ogystal ag asesiad a sgôr yn seiliedig ar sut maen nhw'n perfformio'n gyffredinol. Mae hyn yn galluogi nhw i nodi meysydd sydd angen mwy o ffocws.
Gellir gweld holl gwestiynau a themâu'r model yn y ddolen isod.
Os hoffai darlledwr ddarparu rhagor o ddata am unrhyw agwedd ar eu gwaith neu esbonio unrhyw un o'u hatebion ymhellach, mae croeso iddynt gyflwyno'r wybodaeth hon.
Gweithredu'r model
Caiff y model ei anfon at ddarlledwyr i'w gwblhau ochr yn ochr â'r arolwg cywain data amrywiaeth y gweithlu meintiol blynyddol. Bydd yn disodli'r cwestiynau ansoddol blaenorol. Gan y bydd rhai cwestiynau yn y model hwn yn helpu Ofcom i asesu cydymffurfiaeth â'u hamodau trwydded, bydd yn cael ei anfon at bob darlledwr â mwy nag 20 o weithwyr sydd â thrwydded i ddarlledu am fwy na 31 diwrnod y flwyddyn.
Bydd cwestiynau sy'n ymwneud ag amodau'r drwydded yn orfodol i'w hateb; mae'r cwestiynau eraill yn y model yn wirfoddol. Os bydd darlledwr yn dewis peidio ag ateb y cwestiynau gwirfoddol, bydd y model yn cyfrif yr ymateb fel pe bai'r darlledwr ar y lefel isaf o ddatblygiad yn y maes hwnnw. Bydd hyn yn effeithio ar sgôr cyffredinol y darlledwr o'r model. Er nad ydym yn bwriadu cyhoeddi sgorau manwl, bydd Ofcom yn adrodd ar lefelau cwblhau.
Bydd y model yn cael ei ddarparu fel offeryn ar-lein a gaff ei anfon at ddarlledwyr ym mis Ebrill 2023. Byddwn yn trin y flwyddyn gyntaf o gyflwyniadau data gan ddefnyddio'r offeryn hwn fel cam 'beta', sy'n golygu y byddwn yn agored i adborth gan ddefnyddwyr i'n helpu i fireinio'r model, os oes angen, ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Bydd Ofcom yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i nodi tueddiadau ar draws y diwydiant, ac i gyfeirio sut rydyn ni'n blaenoriaethu ein gwaith yn y dyfodol. Byddwn ni'n cyhoeddi'r tueddiadau hyn, yn ogystal â mewnwelediadau allweddol eraill, yn flynyddol.
Nid ydym yn bwriadu cyhoeddi tabl o sgorau, ond efallai y byddwn yn adrodd am ba gategori o aeddfedrwydd y mae rhai darlledwyr yn cyfateb iddo ar gyfer rhai cwestiynau neu themâu. Os byddwn yn gweld bod rhai darlledwyr penodol yn rhagori, efallai y byddwn yn amlygu eu gwaith ac yn awgrymu eu bod yn cydweithio ar draws diwydiant i rannu eu syniadau neu arferion gorau. Yn yr un modd, os oes gennym bryderon bod darlledwyr penodol yn methu â bodloni ein disgwyliadau, byddwn yn cysylltu â nhw ynglŷn â sut y gallant wella eu hymagwedd at hyrwyddo EDI.
Nid atebion darlledwyr i'r cwestiynau gorfodol fydd ein hunig ddull o asesu cydymffurfiaeth ag amodau eu trwydded, ond bydd yn rhoi dangosydd cychwynnol da i ni a allai fod angen i ni gymryd camau pellach i werthuso a yw darlledwr yn gwneud digon i gyflawni ei rwymedigaethau trwydded i hyrwyddo cyfle cyfartal.
Byddwn ni hefyd yn sicrhau bod y model ar gael yn agored i'w ddefnyddio ar-lein fel y gall sefydliadau ar draws y diwydiannau creadigol a thu hwnt ei ddefnyddio i fesur eu trefniadau EDI eu hunain. Gobeithiwn y bydd y cynnwys a'r cwestiwn a ofynnir yn yr offeryn hwn yn cynnig ysbrydoliaeth ar gyfer sgyrsiau cydweithredol ar draws y diwydiant a sectorau eraill.
Ers 2016, mae Ofcom wedi cywain data tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad ("EDI") ansoddol gan ddarlledwyr i'n helpu i asesu effeithiolrwydd a chynnydd y trefniadau sydd ganddynt.
Mae'r cwestiynau y gwnaethom eu gofyn yn adran ansoddol ein harolwg data blynyddol wedi esblygu dros amser i addasu i flaenoriaethau ac amgylchiadau newidiol, er enghraifft yn 2020 a 2021 gwnaethom ofyn am drefniadau EDI darlledwyr mewn perthynas â'u hymateb i'r pandemig Covid-19. Mae'r cwestiynau hefyd ar y cyfan wedi bod yn benagored.
Bu i ni dderbyn amrywiaeth o wybodaeth tra werthfawr gan ddarlledwyr yn ystod y cyfnod hwn, ond mae manylder ac amrywiaeth y data hwn wedi ei gwneud hi'n heriol i dynnu cymariaethau cyson ar draws y diwydiant ac olrhain cynnydd gwaith darlledwyr yn gadarn dros amser. Er mwyn helpu i safoni'r mewnbwn gan y darlledwyr bu i ni gyflogi Radius Networks, ymgynghoriaeth sy'n arbenigo mewn EDI, i ddatblygu offeryn cywain data ansoddol newydd, gan ddefnyddio ein data a'n Harweiniad presennol.
Mae Radius Networks yn ymgynghoriaeth sy'n arbenigo mewn EDI, maent wedi cefnogi dros 600 o sefydliadau rhyngwladol i adeiladu eu strategaethau a'u hoffer EDI. Yn flaenorol maent wedi adeiladu modelau aeddfedrwydd, gan gynnwys eu model 'Canllaw ac Adrodd ar Aeddfedrwydd Rhwydweithiau' sy'n galluogi arweinwyr rhwydweithiau gweithwyr a thimau EDI i olrhain ac asesu eu datblygiad a'u cynnydd drwy gydol y flwyddyn, gan ddarparu meincnodau ac awgrymu allbynnau ac argymhellion er mwyn cynyddu effaith rhwydweithiau.
Bu i ni ofyn i Radius Networks ymchwilio i addasrwydd asesiadau aeddfedrwydd tebyg (gan gynnwys Canllaw Aeddfedrwydd Rhwydwaith Radius Networks ei hun) ar ein cyfer. Gwelsant fod y modelau hyn yn dda o ran darparu offeryn cyson a yrrir gan ddata ar gyfer hunan-asesu ac ar gyfer darparu awgrymiadau ymarferol ar sut y gallai darlledwyr ddatblygu eu haeddfedrwydd.
Gyda'n gilydd fe wnaethom ddatblygu themâu i grwpio'r cwestiynau asesu i: ‘arweinyddiaeth a strategaeth’; ‘monitro data’; ‘recriwtio’; ‘cadw, datblygu a dilyniant’; ‘diwylliant a llais', 'comisiynu’; a 'gweithwyr llawrydd’. Mae'r rhain yn cynrychioli'r meysydd polisi craidd yn Arweiniad EDI Ofcom. Nhw hefyd yw'r colofnau y mae Radius Networks yn ystyried y dylid adeiladu fframwaith EDI llwyddiannus ar gyfer darlledwyr o'u cwmpas.
Datblygodd Radius Networks gwestiynau sydd wedi'u halinio â gofynion ac argymhellion penodol y manylir arnynt yn Arweiniad EDI Ofcom ar gyfer pob thema yn y model, gan ddefnyddio eu harbenigedd EDI eu hunain, ymchwil ddesg a mewnbwn gan Ofcom, arbenigwyr a rhanddeiliaid ar draws y diwydiant darlledu. Datblygwyd y cwestiynau i helpu darlledwyr i ddeall aeddfedrwydd eu trefniadau EDI, helpu Ofcom i asesu ac olrhain cynnydd y diwydiant a, lle bo'n berthnasol, helpu i asesu cydymffurfiaeth darlledwyr â'u hamodau trwydded. Bydd cwestiynau sydd â'r nod o helpu Ofcom i asesu cydymffurfiaeth yn orfodol.
Yna, cynhaliodd Radius Networks brofion defnyddwyr gydag ymarferwyr EDI ym maes darlledu, gan edrych ar y cysyniad, negeseuon rhagarweiniol, categorïau, cwestiynau, ac argymhellion ar sut y gallai darlledwyr ddatblygu a gwneud cynnydd. Yna cymhwyswyd canfyddiadau'r cyfnod hwn o brofion i'r model.
Strategaeth ac arweinyddiaeth
- A oes gennych ddatganiad polisi neu strategaeth tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad (EDI) a ddiwedderir yn rheolaidd, gyda threfniadau penodol yn ymwneud ag anabledd, hil a rhyw, ac amcanion 'C.A.M.P.U.S.' yn ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiad y gweithlu?
- Oes gennych chi strwythurau llywodraethu EDI?
- A oes gan uwch arweinwyr amcanion EDI?
- Ydych chi'n cyfathrebu eich strategaeth EDI yn glir i weithwyr a rhanddeiliaid eraill?
- Oes gennych chi uwch hyrwyddwyr neu noddwyr EDI neu fecanwaith arall i ddarparu arweinyddiaeth weladwy ar EDI?
Cywain, monitro ac adrodd data
- Ydych chi'n monitro amrywiaeth eich gweithlu, gan gynnwys y rhai mewn rolau uwch, i nodi unrhyw dangynrychioliaeth fesul anabledd, hil a rhyw?
- Ydych chi'n monitro amrywiaeth eich gweithlu, gan gynnwys y rhai mewn rolau uwch, i nodi unrhyw dangynrychioli fesul nodweddion eraill, megis oedran, crefydd/cred, tueddfryd rhywiol, cefndir economaidd-gymdeithasol neu leoliad daearyddol?
- Ydych chi'n gallu nodi'n glir lle mae tangynrychioliaeth yn bodoli yn eich uwch dîm o'i gymharu â meincnod perthnasol, e.e., data ar gyfer y DU gyfan neu ar gyfer y ddinas/dinasoedd neu ranbarth(au) lle rydych chi wedi'u lleoli, a beth yw eich trefniadau ar gyfer ymdrin â'r dangynrychioliaeth hon?
- Ydych chi wedi ymgymryd â chyfathrebiadau neu unrhyw fenter arall i gynyddu cyflawnrwydd data amrywiaeth y gweithlu a gasglwyd gan eich sefydliad?
- A yw uwch arweinwyr yn adolygu data a thueddiadau gweithlu 'byw' a gasglwyd yn ddiweddar yn rheolaidd, ac yn cymryd camau amlwg i yrru tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad?
- A yw uwch arweinwyr a rheolwyr yn adolygu tueddiadau mewn data amrywiaeth o ran absenoldeb, disgyblu, cwynion a honiadau o aflonyddu, bwlio a gwahaniaethu?
- A yw monitro a gwerthuso EDI yn bwydo i mewn i drefniadau EDI diwygiedig?
Recriwtio
- Ydych chi'n hyrwyddo eich ymagwedd at EDI yn eich recriwtio?
- Wrth recriwtio ydych chi'n cymryd ystod eang o ddangosyddion cefndir, profiad neu hunaniaeth i ystyriaeth, megis statws economaidd-gymdeithasol a chefndir daearyddol i helpu i nodi tangynrychioliaeth ar ei holl ffurfiau?
- Ydych chi'n adolygu eich proses recriwtio yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn deg ac yn gynhwysol, gan alw ar arfer gorau presennol?
- Ydych chi'n darparu hyfforddiant ar arferion hurio cynhwysol?
- Ydych chi'n cynnal arolygon wrth groesawu gweithwyr neu i ddechreuwyr newydd?
- Os nad yw amrywiaeth eich gweithlu yn gyffredinol yn cael ei efelychu ar lefelau uwch, ydych chi'n cymryd camau ar sail tystiolaeth yn eich ymagwedd at bolisi recriwtio i ymdrin â hyn?
Cadw, datblygu a dilyniant
- Ydych chi'n ymgymryd ag unrhyw fentrau datblygu gyrfa penodol ar gyfer grwpiau a dangynrychiolir, megis rhaglenni arweinyddiaeth, mentora neu gynlluniau nawdd?
- Oes gennych chi unrhyw drefniadau i ymdrin â thangynrychioliaeth grŵp penodol mewn perthynas â chynllunio olyniaeth a recriwtio mewnol, yn enwedig mewn rolau uwch?
- Ydych chi'n sicrhau bod gweithwyr o grwpiau a dangynrychiolir yn cael cyfle cyfartal i gyrchu cyfleoedd dysgu a datblygu?
- A yw rheolwyr llinell yn mynd ati'n rhagweithiol i annog cyfleoedd dysgu a datblygu?
- Ydych chi'n gosod targedau yn ymwneud â chadw a/neu ddilyniant?
- Oes gennych bolisi a/neu weithdrefn addasiadau gweithle?
- Oes gennych bolisi a/neu weithdrefn gweithio hyblyg?
- Ydych chi'n cynnal proses ymadael ddienw i bawb sy'n gadael?
- Oes gennych bolisi a/neu weithdrefn iechyd a lles yn y gwaith?
Diwylliant a llais
- Ydych chi'n cynnal arolygon yn rheolaidd i asesu profiadau gweithwyr amrywiol ac a dangynrychiolir?
- Ydych chi'n cymryd camau'n seiliedig ar safbwyntiau a phrofiadau gweithwyr, yn enwedig pan ymddengys fod gan gydweithwyr o grwpiau a dangynrychiolir safbwyntiau a phrofiadau gwahanol?
- A oes cyfleoedd i leisiau amrywiol, gan gynnwys y rhai o grwpiau a dangynrychiolir, fwydo i mewn i strategaeth, cynllunio a gwerthuso EDI, er enghraifft drwy rwydweithiau gweithwyr neu fforwm staff?
- Ydych chi'n darparu adnoddau i gefnogi unrhyw rwydweithiau gweithwyr?
- A oes gan eich gweithwyr sianeli effeithiol i godi pryderon am eich allbwn darlledu?
- Ydych chi'n darparu hyfforddiant ar EDI i'r holl weithwyr?
- Oes gennych ddogfen sy'n diffinio ymddygiadau disgwyliedig yn y gweithle?
- Oes gennych bolisi a phroses ar gyfer ymdrin â bwlio, aflonyddu ac erledigaeth?
Comisiynu
- Oes gennych bolisi amrywiaeth ar gyfer comisiynu cynnwys sy'n cwmpasu meysydd megis cynrychiolaeth amrywiol ar yr awyr/sgrîn neu amrywiaeth o bynciau sy'n debygol o apelio at ystod eang o gynulleidfaoedd?
- Oes gennych bolisi comisiynu amrywiaeth sydd wedi'i ddylunio i gynyddu EDI mewn timau cynhyrchu. Er enghraifft, ydych chi'n pennu unrhyw beth am grwpiau a dangynrychiolir yn eich contractau gyda phartneriaid cynhyrchu neu'n monitro amrywiaeth timau cynnwys (e.e., drwy Diamond ar gyfer y diwydiant teledu)?
- Ydych chi'n clustnodi cyllid amrywiaeth mewn comisiynu amrywiol ar gyfer cynnwys sgrîn/ar yr awyr a doniau a/neu bartneriaid cynhyrchu neu greu cynnwys? Rhowch wybod i ni am unrhyw feini prawf EDI y mae angen i bartneriaid cynhyrchu eu bodloni er mwyn derbyn cyllid a glustnodir.
Gweithwyr llawrydd
- Oes gennych chi unrhyw bolisïau a/neu ydych chi'n cymryd unrhyw gamau i hyrwyddo EDI ymhlith gweithwyr llawrydd, naill ai'r rhai sy'n contractio â chi'n uniongyrchol neu â'ch partneriaid cynhyrchu? Defnyddiwch y cyfleuster uwchlwytho ar ddiwedd yr adran hon i ddweud wrthym am unrhyw enghreifftiau penodol yr hoffech eu rhannu.
- Ydych chi'n gosod unrhyw ofynion EDI ar bartneriaid cynhyrchu mewn perthynas â gweithwyr llawrydd sydd wedi'u contractio i weithio ar eich comisiynau?
- A oes gennych weithdrefn gwyno ar gyfer gweithwyr llawrydd sy'n gweithio ar eich cynyrchiadau i roi gwybod am aflonyddu, bwlio, gwahaniaethu neu erledigaeth?