Two people working in the control room of a television studio

Hanner o weithwyr darlledu'r DU bellach wedi'u lleoli y tu allan i Lundain

Cyhoeddwyd: 15 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 15 Rhagfyr 2023

Mae tua hanner y gweithwyr darlledu teledu a radio bellach wedi’u lleoli y tu allan i Lundain, ond mae angen gwneud mwy i gynyddu amrywiaeth mewn rolau uwch, yn ôl astudiaeth ddiweddaraf Ofcom o gyfansoddiad y diwydiant.

Mae seithfed adroddiad blynyddol Ofcom ar degwch, amrywiaeth a chynhwysiad ym maes darlledu hefyd yn dangos bod menywod, gweithwyr anabl a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn parhau i adael y diwydiant mewn niferoedd anghymesur.

Lleoliad, lleoliad, lleoliad

Am y tro cyntaf, diolch i ymagwedd newydd at gywain data, rydym yn adrodd ar amrywiaeth ystod o ddarlledwyr yn ôl ardal ddaearyddol, gan roi’r darlun cliriaf hyd yma i ni o bwy sy’n gweithio yn niwydiant darlledu’r DU ac ymhle.

Mae data gan ddarlledwyr y DU, sy'n cynnwys y BBC, Sky a Global, yn dangos bod bron i hanner (44%) y gweithwyr teledu yn y DU a thros hanner (54%) y gweithwyr radio bellach wedi'u lleoli y tu allan i Lundain. Mae un o bob chwech (17%) o weithwyr darlledu wedi'u lleoli yng ngogledd Lloegr.

Heriau cadw doniau amrywiol

Mae cynrychiolaeth dda o fenywod a phobl o grwpiau ethnig lleiafrifol mewn darlledu'n gyffredinol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir ar lefelau uwch, lle mae nifer y menywod (teledu 42%, radio 36%) a phobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig (teledu 13%, radio 7%) yn is na chyfartaleddau'r boblogaeth weithio o 48% a 14% yn y drefn honno.

Er gwaethaf recriwtio cyfrannau uwch o bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, mae darlledwyr yn parhau i’w chael hi'n anodd cadw’r staff hyn, y maent yn anghymesur o debygol o adael eu swyddi.

Mae gweithwyr ag anableddau yn dal i gael eu tangynrychioli ar yr holl lefelau swydd ar draws y diwydiant. Ar ddim ond 10% mewn teledu ac 8% mewn radio, mae'r ddau yn is o lawer na chyfartaledd y DU o 16%. Ar lefelau uwch, mae pobl sydd ag anableddau'n cyfrif am 8% yn unig o'r uwch reolwyr mewn teledu a radio.

Mae pobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol hefyd wedi'u tangynrychioli yn y sector darlledu cyfan. Ar draws teledu a radio, mae ychydig dros chwarter (28%) o weithwyr yn dod o gefndir dosbarth gweithiol, sy'n is na chyfartaledd y boblogaeth o bedwar o bob deg (39%).

Rhaid i newid ddod o'r brig

Er bod gan lawer o ddarlledwyr ystod eang o fentrau i gefnogi amrywiaeth ar draws eu sefydliadau, heb ddylanwad digonol gan uwch arweinwyr, mae'n anoddach iddynt  yrru newid pwrpasol o ddifri. Gall diffyg amrywiaeth ar lefelau uwch waethygu hyn hefyd.

At hynny, mae'n rhaid i gywain data barhau i fod yn brif flaenoriaeth i ddarlledwyr. Dengys ein canfyddiadau fod y sefydliadau hynny sydd ag arferion cywain data gwell yn tueddu i fod â gweithluoedd mwy cynrychioliadol.

Yn ôl i'r brig