Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad mewn darlledu

Cyhoeddwyd: 15 Rhagfyr 2023

Mae Ofcom o'r gred y dylai rhaglenni teledu adlewyrchu profiadau pawb yn ein cymdeithas, waeth beth fo'u cefndir. I helpu cyflawni hyn, rydym yn edrych ar degwch, amrywiaeth, cynhwysiad a hygyrchedd, o flaen ac y tu ôl i'r camera.

Rydym hefyd yn gweithio'n galed i wella amrywiaeth a chynhwysiad yn ein sefydliad ni.

Mae'r adran hon o'n gwefan yn cynnwys ein hadroddiadau blynyddol ar degwch, amrywiaeth a chynhwysiad mewn darlledu. Gallwch chi ddod o hyd i adnoddau defnyddiol hefyd, fel ein harweiniad i ddarlledwyr a dolenni i beth mae sefydliadau eraill yn ei wneud.

Byddwn yn diweddaru'r tudalennau hyn gyda'r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant.

Yn ôl i'r brig