Datganiad: Diweddaru offer cywain data meintiol

Cyhoeddwyd: 7 Ebrill 2022
Ymgynghori yn cau: 19 Mai 2022
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 2 Tachwedd 2022

Ym mis Ebrill eleni, gwnaethom gyhoeddi cais am fewnbwn ar ddatblygu ein holiadur cywain data meintiol sy'n mesur amrywiaeth y gweithlu darlledu. Defnyddiwyd yr wybodaeth a ddarparwyd mewn ymateb, yn ogystal â mewnbwn gan arbenigwyr mewnol ac allanol, i gyfeirio'r newidiadau a nodir yn y datganiad hwn.

Mae'r holl newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n cywain y data hwn wedi'u gwneud i'n helpu i gyflawni ein hamcanion i nodi lle gall tangynrychioliaeth ar gyfer rhai grwpiau o bobl fodoli mewn darlledu a nodi rhwystrau y gall unigolion neu grwpiau eu hwynebu wrth fynd i mewn a/neu symud ymlaen yn y diwydiant.

Bydd yr holiadur data meintiol wedi'i ddiweddaru yn cael ei anfon at ddarlledwyr ym mis Ebrill 2023 i'w gwblhau.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig