Datganiad: Adolygiad o reolau cystadleuaeth yn y Cod Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig (EPG)

Cyhoeddwyd: 14 Awst 2020
Ymgynghori yn cau: 25 Medi 2020
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Mae’r ddogfen hon yn nodi ein penderfyniad i gadw rheolau cystadleuaeth ar ddarparwyr cyfeiryddion rhaglenni electronig (EPG) er mwyn parhau i gefnogi cystadleuaeth deg ac effeithiol.

Mae cyfeiryddion teledu ar y sgrin, neu EPGs, yn galluogi gwylwyr i ddod o hyd i raglenni teledu a’u dewis ar deledu sy’n cael ei ddarlledu, sef teledu ‘llinol’. Mae ein Cod EPG yn pennu rheolau ar gyfer darparwyr EPG, gan gynnwys rheolau i ddiogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol.

Cyflwynodd Deddf yr Economi Ddigidol 2017 ofyniad i ni adolygu’r Cod EPG cyn 1 Rhagfyr 2020. Gwnaethom gyhoeddi casgliadau dros dro o’n hadolygiad ym mis Awst 2020. Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno casgliadau terfynol ein hadolygiad.

Sut i ymateb

Yn ôl i'r brig