Cyhoeddwyd: 14 Awst 2020
Ymgynghori yn cau: 25 Medi 2020
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)
Mae’r ddogfen hon yn nodi ein penderfyniad i gadw rheolau cystadleuaeth ar ddarparwyr cyfeiryddion rhaglenni electronig (EPG) er mwyn parhau i gefnogi cystadleuaeth deg ac effeithiol.
Mae cyfeiryddion teledu ar y sgrin, neu EPGs, yn galluogi gwylwyr i ddod o hyd i raglenni teledu a’u dewis ar deledu sy’n cael ei ddarlledu, sef teledu ‘llinol’. Mae ein Cod EPG yn pennu rheolau ar gyfer darparwyr EPG, gan gynnwys rheolau i ddiogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol.
Cyflwynodd Deddf yr Economi Ddigidol 2017 ofyniad i ni adolygu’r Cod EPG cyn 1 Rhagfyr 2020. Gwnaethom gyhoeddi casgliadau dros dro o’n hadolygiad ym mis Awst 2020. Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno casgliadau terfynol ein hadolygiad.
Ymatebion
Sut i ymateb
Ebost: EPGcompetition@ofcom.org.uk