Ymgynghoriad: Cynnig i wneud newidiadau i’r amodau sydd wedi’u cynnwys mewn trwyddedau Gwasanaethau Ychwanegol Teledu Digidol

Cyhoeddwyd: 21 Chwefror 2024
Ymgynghori yn cau: 17 Ebrill 2024
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi’r newidiadau y mae Ofcom yn cynnig eu gwneud i’r amodau sydd wedi’u cynnwys mewn trwyddedau Gwasanaethau Ychwanegol Teledu Digidol (‘DTAS’). Mae’r gwasanaethau hyn yn darlledu ar amlblecsau teledu daearol digidol ac fel arfer yn cynnwys gwasanaethau testun neu ddata.

Byddai rhai o’r amodau presennol sydd wedi’u cynnwys mewn trwyddedau Gwasanaethau Ychwanegol Teledu Digidol yn elwa o gael eu diweddaru. Mae hyn yn rhannol oherwydd y cynnydd diweddar mewn gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar y rhyngrwyd sydd ar gael i wylwyr yn y DU, lle mae defnyddio amodau presennol y drwydded yn arwain at ganlyniad a allai fod yn ddryslyd i wylwyr. Mae rhai newidiadau gweinyddol yr hoffem eu cyflwyno hefyd.

Ymateb i’r ymgynghoriad hwn

Anfonwch eich ymatebion drwy ddefnyddio’r ffurflen ymatebion i ymgynghoriad (ODT, 98.8 KB)

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Ymgynghoriad ar y cynnig i wneud newidiadau i amodau’r drwydded
Tîm Trwyddedau Darlledu
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA
Yn ôl i'r brig