Newidiadau i drwyddedau darlledugwasanaethau teledu

Cyhoeddwyd: 27 Mehefin 2024

Edrychwch ar fanylion y newidiadau y mae Ofcom wedi cytuno arnynt i wahanol fathau o drwyddedau darlledu gwasanaethau teledu.

Television Licensee Update Form (PDF, 178.5 KB)
I’w chwblhau yn unol ag Amod 12 eich Trwydded ‘Darparu gwybodaeth i Ofcom yn gyffredinol’.

Mae Ofcom wedi cydsynio i gais That’s TV i gyfuno stiwdios/prif ganolfannau cynhyrchu rhai o’i sianeli teledu lleol, a’u lleoli y tu allan i’r Ardal Drwyddedig, ond o fewn saith ‘rhanbarth’ mwy o faint ledled y DU. Bydd yn ofynnol i That’s TV gael safle ffisegol ym mhob un o’r rhanbarthau hyn o hyd.

L-DTPS Licences: Consent pursuant to Licence Condition 3(2) to certain changes in the location of main production bases and/or studios (PDF, 226.4 KB) Published 9 July 2019
Cyhoeddwyd 9 Gorffennaf 2019

Rydym wrthi’n gwneud newidiadau i’r band 700 MHz i sicrhau ei fod ar gael ar gyfer band eang symudol.

Bwriad Ofcom yw na ddylai unrhyw ostyngiad yn y sbectrwm sydd ar gael i deledu daearol digidol effeithio’n sylweddol ar y ddarpariaeth na’r sianel na tharfu’n sylweddol ar wylwyr. Er bod ein gwaith cynllunio rhagarweiniol wedi dangos y dylai hyn fod yn bosibl, ar hyn o bryd mae ansicrwydd ynghylch y cynlluniau amledd terfynol y bydd angen i ni gytuno arnynt gyda’n gwledydd cyfagos. O ystyried yr ansicrwydd hwn, nid ydym yn credu y byddai’n briodol i Ofcom gytuno ar unrhyw estyniadau i ddarpariaeth na defnyddio amleddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau teledu lleol ar ôl 1 Ionawr 2018. Dyma’r dyddiad cynharaf tebygol pan fydd newidiadau amledd yn dechrau. Byddai hyn yn golygu, pan fydd ceisiadau o’r fath yn cael eu cymeradwyo a’u caniatáu ar ôl ystyriaeth briodol gan Bwyllgor Trwyddedu Darlledu Ofcom, y byddai trwyddedau Deddf Darlledu a Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr a Chynllun Technegol Comux yn cael eu hamrywio i gynnwys yr amleddau a’r ddarpariaeth ychwanegol tan 1 Ionawr 2018 yn unig. Byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa hon ond rydym yn disgwyl ystyried pob cais sy’n gyson â’r dull hwn nes bydd gennym ddigon o sicrwydd ynghylch cynlluniau amledd yn y dyfodol.

Yn unol â hynny, mae Ofcom wedi gofyn i Comux a’r trwyddedeion lleol perthnasol gadarnhau a ydynt yn dal yn dymuno bwrw ymlaen â’u ceisiadau i Ofcom ar y sail mai dim ond tan 1 Ionawr 2018 y byddai Ofcom yn gallu cymeradwyo unrhyw estyniadau i ddarpariaeth neu ddefnyddio amleddau ychwanegol. Mae Ofcom hefyd wedi gofyn i’r ddwy ochr gadarnhau y byddent yn ymrwymo i weithredu’r cynigion ar y sail hon.


Statement on L-DTPS coverage area - York (PDF, 15.9 KB)
Gorffennaf 2016

Statement on L-DTPS coverage change – Reading (PDF, 17.1 KB)
Rhagfyr 2015

Statement on L-DTPS coverage change – Basingstoke  (PDF, 16.4 KB)
Rhagfyr 2015

Statement on L-DTPS coverage change – York (PDF, 17.2 KB)
Tachwedd 2015

Statement on L-DTPS coverage area extension – Cambridge (PDF, 191.5 KB)
Mawrth 2015


Older coverage extension information is available at the National Archives.

O bryd i’w gilydd, bydd trwyddedeion amlblecs yn gofyn i Ofcom am ganiatâd i amrywio amodau eu trwydded, er enghraifft wrth rannu capasiti ar amlblecs penodol am gyfnod byr i ddarlledu digwyddiad chwaraeon penodol.

Letter to Arqiva on launch of Sky Arts on DTT, 26 March 2020 (PDF, 143.7 KB)
Cyhoeddwyd 7 Awst 2020

Letter from Arqiva on launch of Sky Arts on DTT, 25 March 2020 (PDF, 50.0 KB)
Cyhoeddwyd 7 Awst 2020

Older information can be found at the National Archives.

Pan fydd trwyddedai Channel 3 neu Channel 5 yn “newid rheolaeth”, mae’n rhaid i Ofcom adolygu effeithiau tebygol hyn ar faterion amrywiol a restrir yn y Ddeddf o dan adrannau 351 a 353 Deddf Cyfathrebiadau 2003. Mae’r rhain yn cynnwys cynyrchiadau gwreiddiol, newyddion, materion cyfoes, cynyrchiadau rhanbarthol ac yn achos rhaglenni rhanbarthol Channel 3, cyflogaeth yn y rhanbarthau ac ansawdd ac amrywiaeth y rhaglenni sydd ar gael gan drwyddedeion i’r rhwydwaith.

Ar ôl cwblhau'r adolygiadau, rhaid i Ofcom gyhoeddi adroddiad yn nodi ei gasgliadau ac unrhyw gamau y mae’n bwriadu eu cymryd i ddiogelu’r sefyllfa a oedd yn bodoli cyn newid rheolaeth. Nodir ar ba sail y gall neu y mae’n rhaid iddo gymryd camau o’r fath yn adrannau 352 a 354 o’r Ddeddf.

Change of control – notification form (DOCX, 90.9 KB)


Channel 5: change of control review (PDF, 190.2 KB)
Cyhoeddwyd 28 Tachwedd 2019 28 

Change of control of the Channel 3 Licence for Northern Ireland (PDF, 105.3 KB)
Cyhoeddwyd 4 Mai 2016

Older reviews are available at the National Archives

Yn ôl i'r brig