Cyhoeddwyd:
14 Chwefror 2023
Mae DAB ar raddfa fach yn dechnoleg arloesol sy'n darparu llwybr cost isel i wasanaethau cerddoriaeth masnachol, cymunedol ac arbenigol lleol ei ddarlledu ar radio digidol daearol i ardal ddaearyddol gymharol fach.
Mae nifer o ganolfannau amlblecs DAB ar raddfa fach wedi bod yn rhedeg ar sail prawf dros y pum mlynedd diwethaf, ond mae Ofcom bellach yn hysbysebu trwyddedau radio amlblecs nad ydynt yn dreialon ar raddfa fach. Rhaid i orsafoedd radio sy'n dymuno darlledu eu gwasanaeth drwy amlblecs DAB ar raddfa fach wneud cais ar yr adeg briodol naill ai am drwydded Rhaglen Sain Ddigidol ('DSP') neu drwydded Rhaglen Sain Ddigidol Gymunedol ('C-DSP').