Mae’r cyfnod ymgeisio wedi agor ar gyfer y seithfed rownd o drwyddedau amlblecs radio DAB ar raddfa fach mewn 29 ardal ar hyd a lled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Mae pob amlblecs ar raddfa fach y mae Ofcom yn ei drwyddedu yn galluogi gwasanaethau cymunedol ar lawr gwlad, gorsafoedd cerddoriaeth arbenigol, a gwasanaethau sydd wedi’u hanelu at grwpiau lleiafrifol a chynulleidfaoedd eraill nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, i gael presenoldeb ar y tonnau awyr digidol.
Bydd y rhaglen DAB ar raddfa fach yn golygu bod modd lansio dros 100 o amlblecsau i gyd. Hyd yma, mae 70 o amlblecsau wedi lansio darlledu i wrandawyr ar draws pedair gwlad y DU.
Bydd hyd yn oed mwy o wrandawyr yn gallu gwrando ar orsafoedd radio lleol digidol newydd cyn bo hir, wrth i Ofcom heddiw wahodd ceisiadau am amlblecsau yn yr ardaloedd canlynol:
- Arbroath, Carnoustie a Montrose
- Bridgwater
- Bromsgrove, Kidderminster a Redditch
- Cirencester
- Ely a March
- Enniskillen
- Exmouth a Dawlish
- Caerloyw
- Caerhirfryn
- Llanelli
- Loughborough a Coalville
- Malton
- Market Harborough
- Midlothian
- De Arfordir Moray
- Newark-on-Trent
- Gogledd Berkshire a De Swydd Rydychen
- Gogledd Norfolk
- Gogledd Gwlad yr Haf
- Oban
- Ringwood, Verwood a Fordingbridge
- Rugby a Daventry
- Stockton-on-Tees
- Wellingborough
- Gorllewin Swydd Rydychen
- Gorllewin Gwlad yr Haf a Lynton
- Ynysoedd y Gorllewin
- Weston-Super-Mare
- Caerwrangon
Rydym hefyd yn ailhysbysebu trwyddedau i wasanaethu’r ardaloedd canlynol:
- Penrhyn Ards
- Banbury a Bicester
- Taunton
- Wakefield a Castleford
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 5pm ddydd Mawrth 29 Ebrill 2025.
Rydym hefyd wedi ailgyhoeddi a diweddaru ein nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer amlblecsau DAB ar raddfa fach heddiw.