Datganiad: Adnewyddu trwyddedau amlblecs radio cenedlaethol

Cyhoeddwyd: 9 Mehefin 2022
Ymgynghori yn cau: 21 Gorffennaf 2022
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Rydym wedi gwneud y penderfyniadau canlynol, ar ôl ystyried y safbwyntiau a gawsom gan randdeiliaid.

  • Ni fyddwn yn gosod unrhyw rwymedigaethau darpariaeth ychwanegol nac yn mynnu bod cynllun technegol newydd yn cael ei ddarparu wrth adnewyddu’r trwyddedau.
  • Ni fyddwn yn mynnu bod y trwyddedeion yn darparu cynigion newydd o ran sut byddent yn hyrwyddo neu’n helpu gyda phrynu cyfarpar radio digidol.
  • Ni fyddwn yn gosod cyfradd PMR ar gyfer tymor newydd y trwyddedau.
  • Y dyddiad cau statudol i drwyddedai amlblecs radio wneud cais i adnewyddu trwydded yw ‘dyddiad perthnasol’ y drwydded dan sylw. Y dyddiad perthnasol ar gyfer trwydded Digital One fydd 15 Tachwedd 2022. Ar gyfer trwydded Sound Digital, 28 Chwefror 2027 fydd y dyddiad perthnasol. Caiff y trwyddedeion wneud cais i adnewyddu unrhyw bryd ar y dyddiadau hyn neu cyn hynny.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad

Broadcast Licensing
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig