Datganiad: Trwyddedu DAB ar raddfa fach - Sut byddai Ofcom yn gweithredu ei swyddogaethau newydd

Cyhoeddwyd: 5 Gorffennaf 2019
Ymgynghori yn cau: 4 Hydref 2019
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad a gyhoeddwyd 7 Ebrill 2020

Mae DAB ar raddfa fach yn ffordd newydd o drawsyrru radio digidol. Mae’n defnyddio datblygiadau mewn meddalwedd a thechnoleg gyfrifiadurol rad i ddarparu dull hyblyg a fforddiadwy o ddarlledu gwasanaethau radio digidol yn diriogaethol i ardal ddaearyddol gymharol fach.

Mae’r datganiad hwn yn egluro sut bydd Ofcom yn trwyddedu DAB ar raddfa fach, gan ddefnyddio’r pwerau rydym wedi’u cael gan y Llywodraeth o dan Orchymyn Amlblecs Radio ar Raddfa Fach a Radio Digidol Cymunedol 2019. Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar drwyddedu DAB ar raddfa fach, a gynhaliwyd rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2019, wedi cael eu hystyried wrth i ni lunio ein casgliadau.

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Small-scale DAB consultation
Broadcast Licensing team (Second Floor)
Ofcom
Riverside House
2a Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA
Yn ôl i'r brig