Ymgynghoriad: Diffiniad cerddoriaeth newydd ar Radio 1 a Radio 2

Cyhoeddwyd: 23 Ionawr 2018
Ymgynghori yn cau: 20 Chwefror 2018
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Mae cyfrifoldebau Ofcom yn cynnwys dal y BBC i gyfrif i gyflawni ei genhadaeth a hyrwyddo ei dibenion cyhoeddus. Un o’r ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw gosod trwydded weithredu ar gyfer y BBC sy’n cynnwys set o amodau rheoleiddiol y mae’n rhaid i’r BBC gydymffurfio â nhw.

Yn y drwydded weithredu wnaethon ni gyhoeddi yn Hydref 2017, fe wnaethon ni osod gofyniad ar y BBC i sicrhau bod cyfran sylweddol o allbwn cerddoriaeth Radio 1 a Radio 2 yn “gerddoriaeth newydd”. Hyd yn hyn, fodd bynnag, mae gwerthiannau ffisegol wedi lleihau gyda lawrlwythiadau a gwasanaethau ffrydio yn cymryd eu lle. Rydym felly yn meddwl ei bod yn addas i newid diffiniad “cerddoriaeth newydd” i gymryd i ystyriaeth y newidiadau hyn i sut mae cerddoriaeth yn cael ei dosbarthu.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau ynglŷn â’n cynigion i ddiweddaru diffiniad ‘cerddoriaeth newydd’ a ddefnyddir i asesu cydymffurfiaeth Radio 1 a Radio 2 gyda’u hanghenion ‘cerddoriaeth newydd’ priodol ac i newid y drwydded weithredu i adlewyrchu’r diffiniad terfynol.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Max Owens
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig