Datganiad wedi'i gyhoeddi 25 Hydref 2021
Heddiw, mae Ofcom yn gwahodd ceisiadau am Drwydded 'Gwasanaeth Ychwanegol' radio cenedlaethol o fis Mawrth 2022 tan fis Ebrill 2031.
Mae gwasanaethau ychwanegol yn defnyddio'r capasiti dros ben o fewn signalau sy'n cludo gwasanaethau darlledu sain ar amleddau penodol. Mae Ofcom yn trwyddedu un drwydded Gwasanaethau Ychwanegol: y drwydded a ddelir gan INRIX UK Ltd - yn defnyddio capasiti dros ben o'r amleddau a ddefnyddir i ddarlledu Classic FM i drawsyrru gwybodaeth am draffig a theithio ar ffyrdd i ddyfeisiau llywio mewn ceir. Bydd y drwydded hon yn dod i ben ar ddiwedd mis Chwefror 2022.
Rydym yn bwriadu darparu trwydded newydd pan ddaw'r drwydded bresennol i ben. Heddiw, yn dilyn ymgynghoriad, rydym wedi nodi telerau a nodweddion y drwydded newydd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 3:00pm ar 12 Ionawr 2022.