debate

Mwy o hyblygrwydd i Orsafoedd Radio Cymunedol i wasanaethu gwrandawyr lleol

Cyhoeddwyd: 13 Tachwedd 2024

Mae Ofcom yn symleiddio rhai o ofynion rheoleiddio gorsafoedd radio cymunedol, er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar ddarparu budd cymdeithasol i'w cymunedau lleol.

Yn dilyn ymgynghoriad, byddwn ni nawr yn amrywio trwyddedau radio er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i orsafoedd yng nghyd-destun eu Hymrwymiadau Allweddol - sy’n disgrifio’r math o wasanaeth y mae disgwyl iddyn nhw ei roi i bobl.  

Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod gan drwyddedeion yr hyblygrwydd i roi'r gwasanaeth gorau i’r gymuned, gan wneud yn siŵr ar yr un pryd bod rheolau priodol yn dal ar waith i ddiogelu cymeriad cyffredinol y gwasanaeth.  I wneud hyn, rydym ni’n cynnig cael gwared ar gwotâu penodol ar gyfer:  

  • y mathau o raglenni i'w darlledu - e.e. y prif fathau o allbwn cerddoriaeth a llafar;
  • nifer yr oriau o allbwn gwreiddiol sy’n cael eu darlledu bob wythnos; a
  • nifer yr oriau o allbwn sydd wedi ei gynhyrchu’n lleol.  

Byddwn ni’n cyflwyno mesurau diogelu penodol ar gyfer rhai gorsafoedd sy’n darlledu mewn ieithoedd ar wahân i’r Saesneg, er mwyn sicrhau bod yr ieithoedd hyn yn cael eu nodi yng nghymeriad eu gwasanaeth.  

Ar ôl ystyried adborth gan ymatebion i’r ymgynghoriad, byddwn ni’n datblygu egwyddorion ychwanegol i gydymffurfio â’r gofynion o ran buddion cymdeithasol nad ydynt yn ymwneud â darlledu.  Dylai’r newidiadau hyn ddarparu mwy o arweiniad i drwyddedeion wrth iddynt ystyried a ydynt yn cydymffurfio â’u Hymrwymiadau Allweddol.

Y camau nesaf

Byddwn ni’n mynd ati i ysgrifennu at holl drwyddedeion radio analog cymunedol i ddechrau ar y broses o amrywio trwyddedau’n ffurfiol a chyflwyno disgrifiad drafft newydd o gymeriad y gwasanaeth. Bydd y rhain yn seiliedig ar y disgrifiad o gymeriad y gwasanaeth sydd eisoes wedi eu cynnwys ym mhob trwydded unigol. Maent yn nodi unrhyw agweddau ar raglenni yr ydym ni’n ystyried eu bod yn rhan bwysig o gymeriad yr orsaf, ac wedi eu hysgrifennu mewn geiriad safonol.

Yn ôl i'r brig