
Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi bod grantiau wedi cael eu dyfarnu i 15 o orsafoedd radio cymunedol radio cymunedol ar ôl i ail rownd y Gronfa Radio Cymunedol ddod i ben.
Mae gorsafoedd radio cymunedol yn rhoi llais i gannoedd o gymunedau lleol ar hyd a lled y DU. Gwaith caled a brwdfrydedd gwirfoddolwyr sy'n sbarduno'r gorsafoedd hyn, ac maent yn adlewyrchu amrywiaeth o ddiwylliannau a diddordebau, yn ogystal â darparu cymysgedd cyfoethog o gynnwys a gynhyrchir yn lleol yn bennaf.
Mae’r Gronfa Radio Cymunedol yn cael ei dyrannu gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac yn cael ei gweinyddu gan Ofcom.
Sefydlwyd y gronfa i helpu gyda’r costau craidd o redeg gorsafoedd radio cymunedol, sy’n gweithredu ar sail dim-er-elw i ddarparu buddion cymdeithasol penodol i ardal ddaearyddol neu gymuned fuddiant benodol.
Yn y rownd gyllid hon, dyfarnwyd gwerth £261,476 o grantiau i 15 o orsafoedd radio cymunedol. Roedd symiau’r grantiau a ddyfarnwyd yn amrywio o £5,752 i £30,000, a £17,432 oedd y dyfarniad cyfartalog. Ystyriodd y panel 80 o geisiadau, a oedd yn gofyn am gyfanswm o £1,852,282.
Dyfarnwyd grantiau i’r canlynol:
- 1BTN – gorsaf sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth danddaearol yn Brighton.
- B Radio – gorsaf radio i oedolion ifanc yn Reading.
- Bedford Radio – gorsaf sy’n darlledu cymysgedd o raglenni, gan gynnwys rhaglenni llafar, trafod, adloniant, a materion cyfoes, i gymuned Bedford ar y llwyfan digidol.
- CamGlen Radio – gorsaf sy’n darlledu cynnwys perthnasol i'r ardal leol yn Rutherglen, South Lanarkshire.
- Cando FM – gwasanaeth ar gyfer pobl 16-40 oed yng nghymuned Barrow-in-Furness.
- Celtic Music Radio – gorsaf radio arbenigol sy’n darlledu i bobl sy’n byw yn ardal Glasgow Fwyaf.
- Crescent Community Radio – gorsaf radio cymunedol ar lawr gwlad sy’n targedu’r gymuned Fwslimaidd Asiaidd yn Rochdale.
- Devon Air Radio – gorsaf sy’n darlledu newyddion a rhaglenni wedi’u gwneud yn lleol yn Exmouth, Caerwysg, Torbay a Teignmouth.
- Hope FM – gorsaf sy’n arbenigo mewn darlledu cerddoriaeth Gristnogol gyfoes a rhaglenni i gymunedau Cristnogol yn Bournemouth, Poole a Christchurch.
- Radio Dawn – gorsaf sy’n darlledu i’r gymuned Fwslimaidd sy’n byw yn Nottingham.
- Radio Newark – gorsaf sy’n targedu’r boblogaeth gyffredinol yn Newark on Trent.
- Radio Sangam – gwasanaeth sy’n targedu cymunedau Indiaidd, Pacistanaidd a Bangladeshaidd yn Huddersfield, gan ddarparu rhaglenni lleol sy’n hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol yn yr ardal leol.
- Sheppey FM – gorsaf radio gymunedol a chanolfan hyfforddi ar Ynys Sheppey.
- Soar Sound – gorsaf sy’n darlledu cerddoriaeth a rhaglenni ar y llwyfan digidol i bobl sy’n byw yng Nghaerlŷr a’r maestrefi cyfagos.