Heddiw, mae Ofcom yn gwahodd gorsafoedd cymwys i wneud cais am gyllid o ail rownd Cronfa Radio Cymunedol 2024-25.
Mae'r Gronfa Radio Cymunedol yn cael ei dyrannu gan yr Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac yn cael ei rheoli gan Ofcom. Y cyfanswm sydd ar gael yn ystod 2024-25 yw £411,759. Yn y rownd derfynol, roedd y grantiau a ddyfarnwyd yn amrywio o £4,320 hyd at £33,854.
Mae gorsafoedd radio cymunedol yn rhoi llais newydd i gannoedd o gymunedau lleol ar hyd a lled y DU. Mae gorsafoedd fel arfer yn gwasanaethu ardal ddaearyddol fach ac yn cael eu rhedeg ar sail dim-er-elw. Maen nhw’n gallu darparu ar gyfer cymunedau cyfan neu feysydd diddordeb gwahanol – fel grŵp ethnig, grŵp oedran neu grŵp diddordeb penodol.
Mae’r Gronfa Radio Cymunedol yn helpu i dalu am gostau craidd rhedeg gorsafoedd radio cymunedol sy’n cael eu trwyddedu gan Ofcom, gan gynnwys:
- Rheoli
- Codi arian i gefnogi’r orsaf (e.e. grantiau, cyllid masnachol)
- Gweinyddu
- Rheolaeth ac adroddiadau ariannol
- Allgymorth cymunedol
- Trefnu a chefnogi gwirfoddolwyr
Ni ellir ond dyfarnu grantiau i orsafoedd radio cymunedol yn y DU sy’n cael eu trwyddedu gan Ofcom ac sy’n darlledu ar AM, FM neu drwy drwydded Rhaglenni Sain Digidol Cymunedol ar amlblecs radio digidol.
Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau am 5pm ddydd Sul 8 Rhagfyr 2024. Rydym yn disgwyl i Banel y Gronfa Radio Cymunedol gyfarfod yn fuan ym mis Chwefror 2025 i ystyried y ceisiadau a ddaw i law.