Dyfarnu grantiau 2024-5: Rownd 2

Cyhoeddwyd: 24 Chwefror 2025

Cyfarfu Panel Cronfa Radio Cymunedol Ofcom (‘y Panel’) ddydd Mawrth 28 Ionawr 2025 i ystyried ceisiadau yn y ail rownd o gyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-2025.

Ystyriodd y Panel bob cais a dyfarnu’r cyllid ar sail yr wybodaeth a oedd wedi cael ei chyflwyno, a gan gyfeirio at nodiadau cyfarwyddyd y Gronfa Radio Cymunedol (‘y Gronfa’). Ar gyfer pob cais am grant, penderfynodd y Panel a oedd am roi dyfarniad llawn, dyfarniad rhannol neu beidio â dyfarnu unrhyw gyllid.

Yn y cyfarfod:

  • Cafodd 80 o geisiadau am grantiau eu hystyried;
  • Roedd cyfanswm y cyllid roedd y ceisiadau hyn yn gofyn amdano yn £1,852,282;
  • Dyfarnwyd grantiau i 15 o ymgeiswyr a oedd yn rhoi cyfanswm o £261,476;
  • Ni ddyfarnwyd grantiau i 65 o ymgeiswyr; ac,
  • Roedd y grantiau a ddyfarnwyd yn amrywio o £5,752 i hyd at £30,000 ar gyfer swyddi unigol, ac roedd y cyfartaledd yn £17,432. Mae crynodeb o’r dyfarniadau ar gael ar ddiwedd y datganiad hwn.

Roedd y Panel o’r farn y dylai grantiau’r Gronfa helpu, cymaint ag y bo modd, i ddatblygu sefydlogrwydd ariannol gorsaf a’i chynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol. Felly, roedd y Panel yn ffafrio cynigion i hybu diogelwch ariannol tymor hir a swyddi a allai gynnal eu hunain yn ystod oes y grant ar draul ceisiadau ar gyfer swyddi cefnogaeth eraill.

Gwariant Grant ac Adrodd

Os dyfernir grant i'ch gorsaf rhaid darllen yr amodau'n ofalus. Dim ond at y diben dynodedig y gellir gwario'r grant fel yr amlinellir yn y cytundeb. Ni ellir defnyddio'r arian ar gyfer gweithgareddau nad ydynt wedi'u nodi yn y cytundeb, oni bai bod y Panel yn cymeradwyo hyn ymlaen llaw. Os bydd unrhyw beth yn digwydd yn ystod y cyfnod deiliadaeth sy'n effeithio ar wariant y grant o fewn diben y grant dynodedig neu gyfnod y grant fel y nodir yn y cytundeb, h.y. anhawster recriwtio, yr unigolyn a recriwtiwyd yn gadael y swydd, neu os ydych am wneud cais i ail-ddefnyddio peth o'r arian ac ati, mae'n rhaid i chi ysgrifennu at Ofcom gyda chais ffurfiol. Yna byddai Ofcom yn anfon eich cais at y Panel i'w ystyried. Mae’n ofynnol i ddyfarnwyr gyflwyno community-radio-fund-grant-report-form (ODT, 37.83 KB) i Ofcom wyth wythnos ar ôl dyddiad diwedd y daliadaeth ac ar unrhyw adeg arall y mae Ofcom yn gofyn amdani; cyfrifoldeb deiliad y drwydded yw cyflwyno hwn.

O ran y ceisiadau a gafodd eu hystyried ar gyfer y rownd hon o gyllid, hoffai’r Panel wneud y pwyntiau canlynol:

Adborth

Nid yw’r Panel yn rhoi adborth unigol fel mater o drefn. Bydd adborth llafar ar gael os ydy'r gorsafoedd yn dymuno cysylltu ag Ofcom. Byddai’r Panel yn awgrymu’n gryf bod y gorsafoedd yn gofyn am adborth os ydynt yn bwriadu ailgyflwyno cynigion ar gyfer yr un swydd neu brosiect yn y dyfodol. Dylai ailgyflwyno o'r fath ddangos sut y defnyddiwyd yr adborth hwnnw yn y cais newydd.

Darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd

Roedd nifer fach o orsafoedd wedi gofyn am grantiau i dalu am eitemau fel rhent, biliau cyfleustodau, costau rhaglennu neu wariant cyfalaf. Mae'r canllawiau'n ei gwneud yn glir nad yw'r Gronfa yn cefnogi'r ceisiadau hyn. Nid oes unrhyw eithriadau.

Rhowch yr holl wybodaeth y gofynnir amdani

Roedd rhai ymgeiswyr wedi methu darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn y ffurflen gais, gan gynnwys disgrifiadau swydd, gwybodaeth ariannol ac adroddiadau ar grantiau blaenorol y Gronfa Radio Cymunedol. Roedd ymgeiswyr eraill ond wedi rhoi amlinelliad amwys o’r swydd arfaethedig. Dylai’r ymgeiswyr ddarllen y nodiadau cyfarwyddyd i gael rhagor o fanylion ynghylch beth ddylid ei ddarparu.

Eglurder am swyddi a chyflogau

Wrth wneud cais am swydd i’w chyllido, dylai’r ymgeiswyr egluro sut maent wedi cyrraedd y cyflog a gynigir.

Roedd nifer fach o ymgeiswyr wedi methu datgan a oedd y swyddi yn rhai rhan amser neu lawn amser, ac a oedd y swm a nodwyd yn cynnwys Yswiriant Gwladol, taliadau pensiwn ac ati.

Dylai ymgeiswyr sy’n bwriadu cyflogi aelod o staff sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r ddeddfwriaeth Cyflog Byw Cenedlaethol ac unrhyw gynnydd sydd i ddod. Dylai ymgeiswyr sy’n bwriadu cyflogi rhywun yn llawrydd fod yn gyfarwydd â rheolau CThEF ar hunangyflogaeth.

Roedd nifer o ymgeiswyr a oedd yn dymuno cyflogi aelod o staff heb gynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr yn eu costau neu wedi'u camgyfrifo.

Cyflog ar sail comisiwn

Bydd y Panel ond yn ystyried cyllido swydd sydd ag oriau clir a chyflog sylfaenol sy’n cyrraedd y cyflog byw cenedlaethol.  Dylai ceisiadau gyfiawnhau unrhyw “Enillion Ar Darged” a hawlir.

Ffocws clir ar gyfer swyddi

Roedd y Panel yn ffafrio ceisiadau am swyddi yr oedd gan eu disgrifiadau swydd ddiben wedi'i ddiffinio’n glir. Roedd hefyd yn help i’r Panel pan roedd yr ymgeiswyr yn dangos sut bydd llwyddiant y swydd a oedd yn cael ei chynnig yn cael ei fesur ee gosod targedau.

Roedd rhai ceisiadau aflwyddiannus yn awgrymu swyddi lle’r oedd gan ddeiliad y swydd ystod enfawr o gyfrifoldebau gan gynnwys rheoli gwirfoddolwyr, rhaglennu a hyd yn oed cyflwyno rhaglenni bob dydd, ochr yn ochr â datblygu refeniw. Ceisiadau ar gyfer swyddi Rheolwyr Gorsafoedd oedd y rhain yn aml. Nid oedd y Panel yn debygol o ffafrio ceisiadau o’r fath gan nad oedd deiliad y swydd yn debygol o roi digon o amser i gynhyrchu incwm, gan wneud y buddsoddiad yn anghynaladwy.

Ceisiadau am fwy nag un swydd

Gwelodd y Panel nifer o geisiadau am fwy nag un swydd. Argymhellir bod yr ymgeiswyr yn penderfynu pa swydd fyddai fwyaf gwerthfawr a gwneud cais am yr un swydd honno.

Ceisiadau am gyllid sy’n ailadrodd

Roedd nifer fach o orsafoedd wedi gwneud cais am gyllid estynedig ar gyfer swyddi sydd wedi cael eu cyllido yn y gorffennol. Mewn ceisiadau am gyllid sy’n ailadrodd, byddai’r Panel yn disgwyl gweld tystiolaeth fel perfformiad deiliad y swydd hyd yma (gan gynnwys yr incwm a godwyd, er enghraifft). Byddai angen i’r Panel hefyd weld rheswm da dros roi cyllid sy’n ailadrodd ac ystyried y galw am y Gronfa.

Pan roedd ffactorau a oedd yn cael effaith negyddol ar ddefnyddio cyllid blaenorol, byddai’r Panel yn disgwyl gweld manylion er mwyn iddo allu gwneud asesiad mor deg â phosibl.

Eglurder ynghylch sefyllfa ariannol gorsaf

Byddai’n helpu’r Panel petai’n cael gweld yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyfrifon – nid yw cyfrifon o ganol 2023 o reidrwydd yn adlewyrchu'r sefyllfa gyfredol yn gynnar yn 2025 felly mae’n gallu bod yn anodd i’r Panel eu hystyried.

Roedd rhai ceisiadau yn cynnwys gwybodaeth ariannol a oedd i bob golwg yn dangos cronfeydd mawr anghyfyngedig neu elw mawr o flynyddoedd blaenorol. Yn ddoeth, roedd rhai ymgeiswyr wedi darparu gwybodaeth am eitemau o’r fath, ond nid oedd rhai eraill wedi gwneud hynny. 

Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai unrhyw ddiffyg eglurder fod yn anfantais i’w cais, gan y gallai roi argraff gamarweiniol o gyflwr eu cyllid. 

Roedd y Panel hefyd yn nodi bod rhai gorsafoedd yn rhan o sefydliadau ehangach a allai gynnig cymorth ariannol iddynt, ond nid oedd gorsafoedd eraill yn glir am eu perthynas â’r sefydliadau mwy hyn.

Ffioedd rheoli

Roedd nifer o geisiadau wedi gofyn am ganran fawr o’r grant ar gyfer “ffioedd rheoli”.  Nid yw’r Gronfa yn talu’r rhain. Lle gofynnir am “argostau” eraill dylid rhestru'r rhain yn llawn a dylai ymgeiswyr sicrhau nad ydynt yn cynnwys eitemau nad yw'r gronfa yn eu cefnogi.

Gofynnwch i rywun ddarllen dros eich cais

Roedd un neu ddau o geisiadau yn aneglur mewn rhai llefydd, neu’n anodd eu darllen.  Mae hefyd yn helpu cais os bydd rhywun nad oedd yn ymwneud ag ysgrifennu’r cais yn wreiddiol yn “prawfddarllen” y cais cyn ei gyflwyno.

Rhowch eich llwyddiannau

Roedd y Panel wedi mwynhau darllen disgrifiadau cryno o hanes gorsafoedd a’u gweithgareddau cyfredol, yn enwedig y gorsafoedd hynny a oedd yn gallu dangos eu gwaith gwych a'u gwerth cymdeithasol.

Trwyddedai Gorsaf Pwrpas Swm a Ddyfarnwyd
Alias Music and Community Projects C.I.C. 1BTN Allgymorth Cymunedol, Rheolwr Codi Arian a Chynaliadwyedd £21,099
B Radio Ltd B Radio Swyddog Gweithredol Datblygu Busnes £19,200
Bedford Radio C.I.C. Bedford Radio Swyddog Gweithredol Datblygu Busnes £11,000
Celtic Music Radio Limited Celtic Music Radio Ymgynghorydd Hyfforddiant a Datblygiad ac Ymgynghorydd Ymgysylltu â'r Gymuned £30,000
Communities Together Radio Sangam Swyddog Datblygu Busnes £12,138
Community Ethical Media Ltd Radio Dawn Rheolwr Codi Arian a Nawdd £26,000
Crescent Community Radio Ltd Crescent Community Radio Rheolwr Datblygu Busnes £15,077
Devonair Ltd Devon Air Radio Swyddog Cynhyrchu Arweiniol a Swyddog Ymgysylltu â Chleientiaid £24,180
Furness Broadcast Media CIC Cando FM Rheolwr Masnachol £18,900
Healthy N Happy CamGlen Radio Gweithiwr Prosiect £5,752
Radio Newark Limited Radio Newark Swyddog Strategaeth Busnes ac Ymgysylltu â'r Gymuned £23,000
Sheppy Matters Sheppy FM Rheolwr Codi Arian £10,530
Soar Sound C.I.C. Soar Sound Rheolwr Datblygu Busnes Effaith Cymunedol £12,000
Ujima Radio CIC Ujima Radio Gweithiwr Allgymorth Cymunedol a Swyddog Codi Arian £17,600
Voice of Hope Radio Hope FM Rheolwr Datblygu Busnes ac Ymgysylltu â'r Gymuned £15,000
Yn ôl i'r brig