Dyfarnu grantiau 2022-23 Rownd 2

Cyhoeddwyd: 24 Chwefror 2023
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Cyfarfu Panel Cronfa Radio Cymunedol Ofcom ('y Panel') ddydd Mawrth 7 Chwefror 2023 i ystyried ceisiadau yn yr ail rownd gyllido ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23.

Bu i'r Panel ystyried pob cais a dyfarnu cyllid yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd, a chan gyfeirio at nodiadau arweiniad y Gronfa Radio Cymunedol ('y Gronfa'). Ar gyfer pob cais am grant, penderfynodd y Panel a oedd am roi dyfarniad llawn, dyfarniad rhannol neu beidio â dyfarnu unrhyw gyllid o gwbl.

Yn y cyfarfod:

  • Ystyriwyd 46 o geisiadau am grant;
  • Y cyfanswm cyllid y gofynnwyd amdano yn y ceisiadau hyn oedd £854,085
  • Dyfarnwyd grantiau i 17 o ymgeiswyr, cyfanswm o £251,421 ac
  • Ni ddyfarnwyd grant i 29 o ymgeiswyr.

Amrywiodd y grantiau a ddyfarnwyd o £1,500 hyd at £24,570 ar gyfer swyddi unigol, gyda swm cyfartalog o £14,789. Ceir crynodeb o'r dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad hwn.

Mae'r Panel yn ystyried, gymaint ag sy’n bosib, y dylai grantiau gan y Gronfa helpu i ddatblygu sefydlogrwydd ariannol a chynaladwyedd yn y dyfodol. Felly, roedd cynigion i hyrwyddo sefydlogrwydd ariannol hir dymor a swyddi a allai ddatblygu i fod yn hunangynhaliol wedi'u ffafrio gan y Panel dros geisiadau am rolau cymorth eraill.

Mewn perthynas â'r ceisiadau a ystyriwyd yn y rownd gyllido hon, hoffai'r Panel wneud y pwyntiau a ganlyn:

Adborth

Nid yw'r Panel yn darparu adborth unigol fel mater o drefn. Bydd adborth ar gael ar lafar, os yw gorsafoedd am gysylltu ag Ofcom. Byddai'r Panel yn argymell yn gryf i orsafoedd ofyn am adborth os byddant yn ailgyflwyno ceisiadau am yr un swydd neu brosiect yn y dyfodol.  Yn y rownd hon roedd y Panel eisoes wedi gwrthod un cais ar dri achlysur blaenorol.

Darllen y nodiadau arweiniad

Gofynnodd nifer fach o orsafoedd am grantiau ar gyfer eitemau fel gwariant cyfalaf, er i'r arweiniad egluro nad yw'r Gronfa'n cefnogi'r fath geisiadau.

Darparwch yr holl wybodaeth y gofynnir amdani

Mae'r ffurflen gais safonol yn esbonio'n glir y dylid cynnwys disgrifiad swydd, wrth wneud cais am gyllid ar gyfer swydd. Methodd rhai ymgeiswyr â darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, gan gynnwys disgrifiadau swydd a gwybodaeth ariannol. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at y nodiadau arweiniad am ragor o fanylion ynghylch yr hyn y dylid ei ddarparu.

Eglurder ynghylch swyddi

Wrth wneud cais am gyllido swydd, dylai ymgeiswyr esbonio sut y maent wedi pennu'r cyflog arfaethedig. Methodd nifer fach o ymgeiswyr â nodi a oedd swyddi'n amser llawn neu'n rhan-amser, neu a oedd y swm arfaethedig yn cynnwys Yswiriant Gwladol, taliadau pensiwn etc.

Anogir ymgeiswyr i ystyried costau tebygol ar adeg y gyflogaeth hefyd. Er enghraifft, seiliodd nifer o ymgeiswyr eu costau cyflog arfaethedig ar y Cyflog Byw Cenedlaethol, ond byddai'r ffigurau a ddefnyddiwyd wedi dyddio ar adeg penodi i'r rôl.

Ffocws clir ar gyfer swyddi

Ffafriodd y Panel geisiadau am swyddi yr oedd eu disgrifiadau swydd yn dangos ffocws. Y ceisiadau aflwyddiannus oedd y rhai lle'r oedd gan ddeiliad y swydd ystod anferth o gyfrifoldebau gan gynnwys rheoli gwirfoddolwyr, rhaglennu a hyd yn oed cyflwyno rhaglenni dyddiol, ochr yn ochr â datblygu refeniw.  Roedd y rhain yn aml yn geisiadau ar gyfer swyddi Rheolwr Gorsaf.  Roedd y Panel yn annhebygol o ffafrio'r fath geisiadau gan nad oedd deiliad y swydd yn debygol o fedru neilltuo digon o amser i gynhyrchu incwm, gan wneud y buddsoddiad yn anghynaliadwy.

Ceisiadau am ailgyllido

Gwnaeth nifer fach o orsafoedd geisiadau am gyllid estynedig ar gyfer swyddi a gyllidwyd yn flaenorol. Mae'r Panel yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarperir gan bob ymgeisydd. Mewn ceisiadau am ailgyllido, byddai'r Panel yn disgwyl gweld tystiolaeth fel perfformiad deiliad y swydd hyd yma (gan gynnwys incwm a godwyd, er enghraifft).

Eglurder ynghylch sefyllfa ariannol yr orsaf

Roedd rhai ceisiadau'n cynnwys gwybodaeth ariannol a oedd i'w gweld yn dangos cronfeydd wrth gefn anghyfyngedig mawr neu elw masnachu sylweddol o flynyddoedd blaenorol.  Yn ddoeth, bu i rai ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth naratif am y fath eitemau ond bu i rai eraill fethu â'i gwneud. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai unrhyw diffyg eglurder o bosib beri anfantais i'w cais, gan y gall roi argraff gamarweiniol o'u cyflwr ariannol.  Nododd y Panel hefyd fod rhai gorsafoedd yn rhan o sefydliadau ehangach a allai gynnig cymorth ariannol iddynt; nid oedd rhai gorsafoedd yn glir ynghylch eu perthynas â'r sefydliadau mwy hyn.

Gwerthwch eich straeon llwyddiant

Roedd y Panel yn mwynhau darllen ceisiadau a fu'n disgrifio'r orsaf yn gryno ac yn effeithiol, yn enwedig y gorsafoedd hynny a oedd yn gallu dangos eu gwaith rhagorol a'u gwerth cymdeithasol.

Gorsaf

Diben

Swm a ddyfarnwyd

Calon FMSwyddog Ymgysylltu Cymunedol£16,000
Jambo RadioRheolwr Twf£23,188
CamGlen RadioGweithiwr Digwyddiadau£13,874
EmbraceRheolwr Datblygu Busnes£24,570
Flex FMRheolwr Datblygu Busnes£20,500
Radio WimborneHyfforddwr£1,500
Tone FMRheolwr Datblygu Busnes ac Ymgysylltu£16,000
Wey Valley RadioAsiantaeth Farchnata Allanol£4,000
Awaaz FMRheolwr Datblygu Busnes£16,255
Black Country RadioSwyddog Gwerthiannau£15,000
Cannock Chase RadioSwyddog Allgymorth Cymunedol a Chodi Arian£14,876
Cross Rhythms PlymouthSefydliad Codi Arian Allanol£9,180
Future RadioCydlynydd Gwerthu Hysbysebu£17,935
Hillz FMSwyddog Datblygu£10,875
Oldham Community RadioRheolwr Datblygu Technegol a Chynaladwyedd£10,656
Platform BRheolwr Busnes Cymunedol a Phartneriaethau£22,477
Sheppey FMRheolwr Hyfforddi Ieuenctid£14,535
Yn ôl i'r brig