Dyfarnu grantiau 2021-22 Rownd 1

Cyhoeddwyd: 2 Medi 2021
Diweddarwyd diwethaf: 2 Medi 2023

Cyfarfu Panel Cronfa Radio Cymunedol Ofcom (‘y Panel’) ddydd Mercher 11 Awst 2021 i ystyried ceisiadau yn y rownd gyntaf o gyllid ar gyfer 2021-22.

Ystyriodd y Panel bob cais a dyfarnu’r cyllid ar sail yr wybodaeth a oedd wedi cael ei chyflwyno, a gan gyfeirio at nodiadau cyfarwyddyd y Gronfa Radio Cymunedol (‘y Gronfa’). Ar gyfer pob cais am grant, penderfynodd y Panel a oedd am roi dyfarniad llawn, dyfarniad rhannol neu beidio â dyfarnu unrhyw gyllid.

Yn y cyfarfod:

  • Cafodd 72 o geisiadau am grantiau eu hystyried;
  • Roedd cyfanswm y cyllid roedd y ceisiadau hyn yn gofyn amdano yn £1,044,517
  • Dyfarnwyd grantiau i 23 o ymgeiswyr a oedd yn rhoi cyfanswm o £221,467
  • Ni ddyfarnwyd grantiau i 49 o ymgeiswyr

Roedd y grantiau a ddyfarnwyd yn amrywio o £2,000 i hyd at £19,760 ar gyfer swyddi unigol, ac roedd y cyfartaledd yn £9,629. Mae crynodeb o’r dyfarniadau ar gael ar ddiwedd y datganiad hwn.

Yn 2020-21, cafodd grantiau eu rhoi fel cyllid brys i gynorthwyo gorsafoedd a oedd yn wynebu trafferthion ariannol difrifol o ganlyniad i’r coronafeirws. Bellach mae'r Gronfa wedi mynd yn ôl i dalu am gostau craidd rhedeg gorsafoedd radio cymunedol sydd wedi cael eu trwyddedu gan Ofcom, fel y nodir yn y nodiadau cyfarwyddyd hyn.

Roedd y Panel o’r farn y dylai grantiau’r Gronfa helpu, cymaint ag y bo modd, i ddatblygu sefydlogrwydd ariannol gorsaf a’i chynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol. Felly, roedd y Panel yn ffafrio cynigion i hybu diogelwch ariannol tymor hir a swyddi a allai gynnal eu hunain ar draul ceisiadau ar gyfer swyddi cefnogaeth eraill.

O ran y ceisiadau a gafodd eu hystyried ar gyfer y rownd hon o gyllid, hoffai’r Panel wneud y pwyntiau canlynol:

Adborth

Nid yw’r Panel yn rhoi adborth unigol fel mater o drefn. Efallai y bydd rhywfaint o adborth llafar ar gael os ydy'r gorsafoedd yn dymuno cysylltu ag Ofcom. Fodd bynnag byddai’r Panel yn awgrymu bod y gorsafoedd yn gofyn am adborth os ydynt yn bwriadu ailgyflwyno cynigion ar gyfer yr un swydd neu brosiect yn y dyfodol.

Darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd

Cyflwynodd nifer o orsafoedd geisiadau am gyllid arian brys, er bod y canllawiau’n nodi’n glir na fyddai grantiau o’r fath yn cael eu hystyried yn y Rownd hon.

Darparu'r holl wybodaeth y gofynnir amdani

Dylai ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth ategol y gofynnir amdani, gwybodaeth ariannol berthnasol o’r fath neu ddisgrifiad swydd os ydynt yn gwneud cais am gyllid ar gyfer swydd.  Dylai’r ymgeiswyr ddarllen y nodiadau cyfarwyddyd i gael rhagor o fanylion ynghylch beth ddylid ei ddarparu.

Eglurder ynghylch sefyllfa ariannol gorsaf

Roedd rhai ceisiadau yn cynnwys gwybodaeth ariannol a oedd i bob golwg yn dangos cronfeydd wrth gefn mawr neu incwm sylweddol.  Nid oedd bob amser yn glir y gallai’r cronfeydd hyn gynnwys asedau sefydlog mawr fel eiddo neu offer, neu y gallai gorsafoedd fod wedi cynnwys ewyllys da neu oriau gwirfoddoli yn eu cyfrifiadau.  Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai’r diffyg eglurder hwn fod yn anfantais i’w cais, gan y gallai roi argraff gamarweiniol o gyflwr eu cyllid.  Roedd y Panel hefyd yn nodi bod rhai gorsafoedd yn rhan o sefydliadau ehangach a allai gynnig cymorth ariannol iddynt. Nid oedd rhai gorsafoedd y glir am eu perthynas â’r sefydliadau mwy hyn.

Cronfeydd anghyfyngedig

Gwnaeth sawl gorsaf geisiadau i’r Gronfa ar gyfer swyddi a oedd â photensial masnachol cryf, ond roedd yn ymddangos bod ymgeiswyr yn gallu ariannu’r swyddi hyn o gronfeydd anghyfyngedig.  Dywedodd rhai ymgeiswyr wrthym mai eu polisi oedd cadw cronfeydd mawr wrth gefn. Mater polisi i’r gorsafoedd hynny yw hwn ond, gan fod y sector yn dod i’r amlwg o gyfnod lle mae refeniw masnachol wedi gostwng, roedd y Panel yn fwy tebygol o gynnig cyllid i’r gorsafoedd hynny yr oedd yn ymddangos eu bod yn llai hunangynhaliol.

Rhwydweithiau

Mewn cylchoedd blaenorol, mae’r Panel wedi ariannu nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio sydd wedi bod yn boblogaidd ac yn llwyddiannus.  Dylid canmol y ffaith bod y rhwydweithiau hyn yn tyfu erbyn hyn, ac mae’n debygol y bydd gorsafoedd nawr yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau rhwydweithio: rhai ar-lein a wyneb yn wyneb.  Mae’r Panel yn gobeithio y bydd rhwydweithiau o’r fath yn hunangynhaliol yn y dyfodol.  Mae’n debygol mai’r rownd hon fydd y tro olaf i’r Gronfa gefnogi digwyddiadau rhwydweithio.

Cyllid dro ar ôl tro ar gyfer swyddi

Nod y Panel yw cefnogi ceisiadau am swyddi y bwriedir iddynt fod yn hunangynhaliol. Am y rheswm hwn, anaml y bydd y Panel yn cynnig cyllid sy’n cael ei ailadrodd, oni bai fod ymgeiswyr yn cyflwyno sail resymegol gref.  Yn y Rownd hon, roedd y Panel wedi ystyried nifer o geisiadau o’r fath ac wedi penderfynu cynnig estyniadau tymor byr i’r grant er mwyn rhoi cyfle i orsafoedd roi hwb i’w refeniw wrth iddyn nhw ddod allan o gyfyngiadau’r pandemig.  Nododd y Panel hefyd fod nifer fach o orsafoedd yn honni, yn anghywir, nad oedd swyddi wedi cael eu hariannu o’r blaen gan y Gronfa Radio Cymunedol.  Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod y Panel yn rhoi sylw manwl i’w benderfyniadau cyllido blaenorol.

Ffocws clir ar gyfer swyddi

Roedd y Panel o blaid ceisiadau am swyddi lle’r oedd eu disgrifiadau swydd yn dangos ffocws ac yn meddu ar ddigon o adnoddau i fod yn llwyddiannus.  Roedd ceisiadau aflwyddiannus yn rhai lle’r oedd gan ddeiliad y swydd ystod enfawr o gyfrifoldebau gan gynnwys rheoli gwirfoddolwyr, rhaglennu a hyd yn oed cyflwyno rhaglenni bob dydd, ochr yn ochr â datblygu refeniw.  Ceisiadau ar gyfer swyddi Rheolwyr Gorsafoedd oedd y rhain yn aml.  Nid oedd y Panel yn debygol o ffafrio ceisiadau o’r fath gan nad oedd deiliad y swydd yn debygol o roi digon o amser i gynhyrchu incwm, gan wneud y buddsoddiad yn anghynaliadwy.  Roedd ymgeiswyr aflwyddiannus eraill yn dymuno creu swyddi datblygu masnachol o chwe awr yr wythnos, a oedd yn ymddangos yn annhebygol o fod yn ddigon o amser ar gyfer y rôl; rhannodd eraill ddyletswyddau datblygu masnachol ar draws nifer o rolau arfaethedig, ac roedd y rhain i gyd yn cynnwys swyddogaethau gweinyddol cyffredinol.

Nododd y Panel hefyd fod rhai disgrifiadau swydd yn dioddef o ddefnydd gormodol o jargon a bod rhai swyddi wedi tueddu i ganolbwyntio ar strategeiddio yn hytrach na chodi arian.

*Fe wnaeth y Panel ariannu un rôl Rheolwr Gorsaf y rownd hon ond dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol mai eithriad oedd hyn a bod y disgrifiad swydd yn ymwneud yn llwyr â datblygu masnachol.

Tystiolaeth o asesiad o’r farchnad

Gwnaeth nifer o geisiadau argraff ar y Panel a oedd yn dangos llawer iawn o feddwl am gyfleoedd posibl ar gyfer refeniw masnachol.  Roedd hyn yn cael ei adlewyrchu mewn cynlluniau gwaith wedi’u cynllunio’n dda a thargedau cyraeddadwy.  Llwyddodd ceisiadau o’r fath i gael cyllid.

Dyfarniad

Diben

Enw'r orsaf

Lleoliad

£18,400

Rheolwr Datblygu Busnes a Grantiau

Ambur Radio

Ambur Community Radio Ltd

£9,808

Rheolwr Gorsaf*

Coast FM

North West Student & Youth Community Radio Ltd

£16,218

Rheolwr Masnachol

Dales Radio

Dales Radio Ltd

£11,000

Swyddog Datblygu

Erewash Sound

Erewash Sound Community Interest Company

£4,000

Rheolwr Prosiect a Chynaliadwyedd

Future Radio

The NR5 Project

£3,500

Radio Hub

Gateway 97.8

Gateway Community Media CIC

£6,000

Cydlynydd Grantiau a Chyllid

Hitmix Radio

Hit Mix Radio Ltd

£9,949

Swyddog Codi Arian a Chynaliadwyedd

Hot Radio

Dorset Community Radio Ltd

£19,760

Swyddog Gweithredol Datblygu Busnes

Jorvik Radio

Jorvik Radio Ltd

£8,500

Gwerthwr Nawdd Sioeau a Hysbysebu

Kane FM

Kane FM Ltd

£6,500

Rheolwr Busnes

Legacy 90.1 FM

Peace Full Media Ltd

£6,000

Rheolwr Prosiect a Chodi arian

Meridian FM

Meridian FM Radio

£2,000

Cyfarfodydd a digwyddiadau Rhwydwaith Radio Cymunedol y DU

NLive Radio

The University of Northampton Enterprises Ltd

£7,563

Swyddog Datblygu Busnes

Park Radio

Park Radio Ltd

£9,550

Rheolwr Codi Arian a Datblygu

Platform B

Platform B Ltd

£11,700

Rheolwr Datblygu Busnes

Pulse Community Radio

Pulse Community Radio Ltd

£11,304

Rheolwr Datblygu Busnes Cymdeithasol

Reprezent 107.3FM

Reprezent Ltd

£12,500

Rheolwr Cyfrifon Gwerthu

Riviera FM

Riviera FM Ltd

£8,553

Cynorthwyydd Prosiect ‘Prynu’ a Thymor Byr Amser Academaidd

Salford City Radio

Salford Community Radio Ltd

£12,500

Rheolwr Cyfrifon Gwerthu

Seahaven FM

Seahaven FM Broadcasting

£5,262

Cynorthwyydd Prosiect ‘Prynu’ a Thymor Byr Amser Academaidd

Switch Radio

SWITCH RADIO

£15,000

Rheolwr Codi Arian a Chynaliadwyedd

Vanny Radio

Vanny Radio – Community Broadcasters

£5,900

Rheolwr Datblygu Busnes

Vectis Radio

Vectis Radio CIC

*Dangosodd yr ymgeiswyr sut y byddai’r swyddi hyn yn helpu i ddatblygu cynaliadwyedd ariannol ar gyfer yr orsaf dan sylw, er na fyddai’r Panel yn eu hariannu fel arfer.

Yn ôl i'r brig