Cyfarfu Panel Cronfa Radio Cymunedol Ofcom (‘y Panel’) ddydd Mercher 11 Awst 2021 i ystyried ceisiadau yn y rownd gyntaf o gyllid ar gyfer 2021-22.
Ystyriodd y Panel bob cais a dyfarnu’r cyllid ar sail yr wybodaeth a oedd wedi cael ei chyflwyno, a gan gyfeirio at nodiadau cyfarwyddyd y Gronfa Radio Cymunedol (‘y Gronfa’). Ar gyfer pob cais am grant, penderfynodd y Panel a oedd am roi dyfarniad llawn, dyfarniad rhannol neu beidio â dyfarnu unrhyw gyllid.
Yn y cyfarfod:
- Cafodd 72 o geisiadau am grantiau eu hystyried;
- Roedd cyfanswm y cyllid roedd y ceisiadau hyn yn gofyn amdano yn £1,044,517
- Dyfarnwyd grantiau i 23 o ymgeiswyr a oedd yn rhoi cyfanswm o £221,467
- Ni ddyfarnwyd grantiau i 49 o ymgeiswyr
Roedd y grantiau a ddyfarnwyd yn amrywio o £2,000 i hyd at £19,760 ar gyfer swyddi unigol, ac roedd y cyfartaledd yn £9,629. Mae crynodeb o’r dyfarniadau ar gael ar ddiwedd y datganiad hwn.
Yn 2020-21, cafodd grantiau eu rhoi fel cyllid brys i gynorthwyo gorsafoedd a oedd yn wynebu trafferthion ariannol difrifol o ganlyniad i’r coronafeirws. Bellach mae'r Gronfa wedi mynd yn ôl i dalu am gostau craidd rhedeg gorsafoedd radio cymunedol sydd wedi cael eu trwyddedu gan Ofcom, fel y nodir yn y nodiadau cyfarwyddyd hyn.
Roedd y Panel o’r farn y dylai grantiau’r Gronfa helpu, cymaint ag y bo modd, i ddatblygu sefydlogrwydd ariannol gorsaf a’i chynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol. Felly, roedd y Panel yn ffafrio cynigion i hybu diogelwch ariannol tymor hir a swyddi a allai gynnal eu hunain ar draul ceisiadau ar gyfer swyddi cefnogaeth eraill.
O ran y ceisiadau a gafodd eu hystyried ar gyfer y rownd hon o gyllid, hoffai’r Panel wneud y pwyntiau canlynol:
Adborth | Nid yw’r Panel yn rhoi adborth unigol fel mater o drefn. Efallai y bydd rhywfaint o adborth llafar ar gael os ydy'r gorsafoedd yn dymuno cysylltu ag Ofcom. Fodd bynnag byddai’r Panel yn awgrymu bod y gorsafoedd yn gofyn am adborth os ydynt yn bwriadu ailgyflwyno cynigion ar gyfer yr un swydd neu brosiect yn y dyfodol. |
---|---|
Darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd | Cyflwynodd nifer o orsafoedd geisiadau am gyllid arian brys, er bod y canllawiau’n nodi’n glir na fyddai grantiau o’r fath yn cael eu hystyried yn y Rownd hon. |
Darparu'r holl wybodaeth y gofynnir amdani | Dylai ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth ategol y gofynnir amdani, gwybodaeth ariannol berthnasol o’r fath neu ddisgrifiad swydd os ydynt yn gwneud cais am gyllid ar gyfer swydd. Dylai’r ymgeiswyr ddarllen y nodiadau cyfarwyddyd i gael rhagor o fanylion ynghylch beth ddylid ei ddarparu. |
Eglurder ynghylch sefyllfa ariannol gorsaf | Roedd rhai ceisiadau yn cynnwys gwybodaeth ariannol a oedd i bob golwg yn dangos cronfeydd wrth gefn mawr neu incwm sylweddol. Nid oedd bob amser yn glir y gallai’r cronfeydd hyn gynnwys asedau sefydlog mawr fel eiddo neu offer, neu y gallai gorsafoedd fod wedi cynnwys ewyllys da neu oriau gwirfoddoli yn eu cyfrifiadau. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai’r diffyg eglurder hwn fod yn anfantais i’w cais, gan y gallai roi argraff gamarweiniol o gyflwr eu cyllid. Roedd y Panel hefyd yn nodi bod rhai gorsafoedd yn rhan o sefydliadau ehangach a allai gynnig cymorth ariannol iddynt. Nid oedd rhai gorsafoedd y glir am eu perthynas â’r sefydliadau mwy hyn. |
Cronfeydd anghyfyngedig | Gwnaeth sawl gorsaf geisiadau i’r Gronfa ar gyfer swyddi a oedd â photensial masnachol cryf, ond roedd yn ymddangos bod ymgeiswyr yn gallu ariannu’r swyddi hyn o gronfeydd anghyfyngedig. Dywedodd rhai ymgeiswyr wrthym mai eu polisi oedd cadw cronfeydd mawr wrth gefn. Mater polisi i’r gorsafoedd hynny yw hwn ond, gan fod y sector yn dod i’r amlwg o gyfnod lle mae refeniw masnachol wedi gostwng, roedd y Panel yn fwy tebygol o gynnig cyllid i’r gorsafoedd hynny yr oedd yn ymddangos eu bod yn llai hunangynhaliol. |
Rhwydweithiau | Mewn cylchoedd blaenorol, mae’r Panel wedi ariannu nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio sydd wedi bod yn boblogaidd ac yn llwyddiannus. Dylid canmol y ffaith bod y rhwydweithiau hyn yn tyfu erbyn hyn, ac mae’n debygol y bydd gorsafoedd nawr yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau rhwydweithio: rhai ar-lein a wyneb yn wyneb. Mae’r Panel yn gobeithio y bydd rhwydweithiau o’r fath yn hunangynhaliol yn y dyfodol. Mae’n debygol mai’r rownd hon fydd y tro olaf i’r Gronfa gefnogi digwyddiadau rhwydweithio. |
Cyllid dro ar ôl tro ar gyfer swyddi | Nod y Panel yw cefnogi ceisiadau am swyddi y bwriedir iddynt fod yn hunangynhaliol. Am y rheswm hwn, anaml y bydd y Panel yn cynnig cyllid sy’n cael ei ailadrodd, oni bai fod ymgeiswyr yn cyflwyno sail resymegol gref. Yn y Rownd hon, roedd y Panel wedi ystyried nifer o geisiadau o’r fath ac wedi penderfynu cynnig estyniadau tymor byr i’r grant er mwyn rhoi cyfle i orsafoedd roi hwb i’w refeniw wrth iddyn nhw ddod allan o gyfyngiadau’r pandemig. Nododd y Panel hefyd fod nifer fach o orsafoedd yn honni, yn anghywir, nad oedd swyddi wedi cael eu hariannu o’r blaen gan y Gronfa Radio Cymunedol. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod y Panel yn rhoi sylw manwl i’w benderfyniadau cyllido blaenorol. |
Ffocws clir ar gyfer swyddi | Roedd y Panel o blaid ceisiadau am swyddi lle’r oedd eu disgrifiadau swydd yn dangos ffocws ac yn meddu ar ddigon o adnoddau i fod yn llwyddiannus. Roedd ceisiadau aflwyddiannus yn rhai lle’r oedd gan ddeiliad y swydd ystod enfawr o gyfrifoldebau gan gynnwys rheoli gwirfoddolwyr, rhaglennu a hyd yn oed cyflwyno rhaglenni bob dydd, ochr yn ochr â datblygu refeniw. Ceisiadau ar gyfer swyddi Rheolwyr Gorsafoedd oedd y rhain yn aml. Nid oedd y Panel yn debygol o ffafrio ceisiadau o’r fath gan nad oedd deiliad y swydd yn debygol o roi digon o amser i gynhyrchu incwm, gan wneud y buddsoddiad yn anghynaliadwy. Roedd ymgeiswyr aflwyddiannus eraill yn dymuno creu swyddi datblygu masnachol o chwe awr yr wythnos, a oedd yn ymddangos yn annhebygol o fod yn ddigon o amser ar gyfer y rôl; rhannodd eraill ddyletswyddau datblygu masnachol ar draws nifer o rolau arfaethedig, ac roedd y rhain i gyd yn cynnwys swyddogaethau gweinyddol cyffredinol. Nododd y Panel hefyd fod rhai disgrifiadau swydd yn dioddef o ddefnydd gormodol o jargon a bod rhai swyddi wedi tueddu i ganolbwyntio ar strategeiddio yn hytrach na chodi arian. *Fe wnaeth y Panel ariannu un rôl Rheolwr Gorsaf y rownd hon ond dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol mai eithriad oedd hyn a bod y disgrifiad swydd yn ymwneud yn llwyr â datblygu masnachol. |
Tystiolaeth o asesiad o’r farchnad | Gwnaeth nifer o geisiadau argraff ar y Panel a oedd yn dangos llawer iawn o feddwl am gyfleoedd posibl ar gyfer refeniw masnachol. Roedd hyn yn cael ei adlewyrchu mewn cynlluniau gwaith wedi’u cynllunio’n dda a thargedau cyraeddadwy. Llwyddodd ceisiadau o’r fath i gael cyllid. |
Dyfarniad | Diben | Enw'r orsaf | Lleoliad |
---|---|---|---|
£18,400 | Rheolwr Datblygu Busnes a Grantiau | Ambur Radio | Ambur Community Radio Ltd |
£9,808 | Rheolwr Gorsaf* | Coast FM | North West Student & Youth Community Radio Ltd |
£16,218 | Rheolwr Masnachol | Dales Radio | Dales Radio Ltd |
£11,000 | Swyddog Datblygu | Erewash Sound | Erewash Sound Community Interest Company |
£4,000 | Rheolwr Prosiect a Chynaliadwyedd | Future Radio | The NR5 Project |
£3,500 | Radio Hub | Gateway 97.8 | Gateway Community Media CIC |
£6,000 | Cydlynydd Grantiau a Chyllid | Hitmix Radio | Hit Mix Radio Ltd |
£9,949 | Swyddog Codi Arian a Chynaliadwyedd | Hot Radio | Dorset Community Radio Ltd |
£19,760 | Swyddog Gweithredol Datblygu Busnes | Jorvik Radio | Jorvik Radio Ltd |
£8,500 | Gwerthwr Nawdd Sioeau a Hysbysebu | Kane FM | Kane FM Ltd |
£6,500 | Rheolwr Busnes | Legacy 90.1 FM | Peace Full Media Ltd |
£6,000 | Rheolwr Prosiect a Chodi arian | Meridian FM | Meridian FM Radio |
£2,000 | Cyfarfodydd a digwyddiadau Rhwydwaith Radio Cymunedol y DU | NLive Radio | The University of Northampton Enterprises Ltd |
£7,563 | Swyddog Datblygu Busnes | Park Radio | Park Radio Ltd |
£9,550 | Rheolwr Codi Arian a Datblygu | Platform B | Platform B Ltd |
£11,700 | Rheolwr Datblygu Busnes | Pulse Community Radio | Pulse Community Radio Ltd |
£11,304 | Rheolwr Datblygu Busnes Cymdeithasol | Reprezent 107.3FM | Reprezent Ltd |
£12,500 | Rheolwr Cyfrifon Gwerthu | Riviera FM | Riviera FM Ltd |
£8,553 | Cynorthwyydd Prosiect ‘Prynu’ a Thymor Byr Amser Academaidd | Salford City Radio | Salford Community Radio Ltd |
£12,500 | Rheolwr Cyfrifon Gwerthu | Seahaven FM | Seahaven FM Broadcasting |
£5,262 | Cynorthwyydd Prosiect ‘Prynu’ a Thymor Byr Amser Academaidd | Switch Radio | SWITCH RADIO |
£15,000 | Rheolwr Codi Arian a Chynaliadwyedd | Vanny Radio | Vanny Radio – Community Broadcasters |
£5,900 | Rheolwr Datblygu Busnes | Vectis Radio | Vectis Radio CIC |
*Dangosodd yr ymgeiswyr sut y byddai’r swyddi hyn yn helpu i ddatblygu cynaliadwyedd ariannol ar gyfer yr orsaf dan sylw, er na fyddai’r Panel yn eu hariannu fel arfer.