Beth yw'r trothwy?

Cyhoeddwyd: 6 Tachwedd 2020

Children watching TVUn o ddyletswyddau pwysicaf Ofcom yw diogelu plant rhag deunydd niweidiol ar y teledu a'r radio.

Mae ein Cod Darlledu yn gosod safonau ar gyfer rhaglenni teledu a radio ac mae'n rhaid i ddarlledwyr gadw at ei reolau.

Mae rheolau llym ynghylch yr hyn y gellir ei ddangos ar y teledu cyn y trothwy 9pm. Ond beth yn union yw'r trothwy a sut mae'n gweithio?

Ystyr y trothwy yw'r adeg y mae modd darlledu rhaglenni teledu a allai fod yn anaddas i blant.

Mae'r trothwy yn dechrau am 9pm ac ni ddylai deunydd sy'n anaddas i blant gael ei ddangos, yn gyffredinol, cyn 9pm neu wedi 5.30am.

Mae deunydd anaddas yn gallu cynnwys unrhyw beth o gynnwys rhywiol i drais, delweddau graffig neu ofidus, a rhegfeydd. Er enghraifft, rhaid peidio â darlledu’r iaith fwyaf tramgwyddus cyn y trothwy yn achos teledu, neu, yn achos radio, pan fydd plant yn arbennig o debygol o fod yn gwrando. Dylid osgoi defnyddio iaith dramgwyddus yn aml cyn y trothwy, ac mae'n rhaid i'r cyd-destun ei chyfiawnhau bob amser.

Nac oes. Rhaid i’r newid at ddeunydd sy’n fwy addas i oedolion beidio â bod yn rhy sydyn, a dylai'r deunydd cryfaf ymddangos yn hwyrach gyda'r nos. Hyd yn oed bryd hynny mae rheolau Ofcom yn diogelu gwylwyr rhag cynnwys tramgwyddus a niweidiol.

Ers 2003, mae Ofcom wedi cymryd camau gweithredu mewn dros 300 o achosion lle mae darlledwyr wedi dangos cynnwys anaddas cyn y trothwy neu'n syth ar ei ôl. Mewn nifer o achosion, dangoswyd fideos cerddoriaeth anaddas yn gynnar yn y prynhawn.

Mae'r trothwy yn parhau i helpu rhieni i ddiogelu eu plant rhag deunydd a allai fod yn anaddas iddynt, neu'n niweidiol hyd yn oed. Ddwywaith y flwyddyn, bob blwyddyn, rydyn ni'n holi rhieni a'r cyhoedd yn ehangach ynghylch eu barn am safonau ar y teledu. Mae bron i bawb (93 y cant) yn deall y trothwy, ac mae 74 y cant yn cytuno mai 9pm yw'r amser cywir. Wrth ofyn i rieni'n unig, mae'r ganran honno'n codi i 76 y cant.

Yn ôl i'r brig