Cyhoeddwyd:
3 Gorffennaf 2024
Cawsom dros 270 o gwynion am Channel 4 News 'Undercover inside Reform's campaign'. O ystyried cyfnod yr etholiad, rydym wedi eu hasesu ar frys yn erbyn y rheolau cywirdeb dyladwy, didueddrwydd dyladwy a throseddau o dan y Cod Darlledu.
Ar gyfer pob un o'r cwynion hyn, rydym wedi dod i'r casgliad nad ydynt yn codi materion sylweddol sy'n cyfiawnhau ymchwiliad pellach. Mae gan unrhyw berson neu sefydliad y mae rhaglen yn effeithio’n uniongyrchol arno 20 diwrnod gwaith o’i darlledu i wneud cwyn tegwch a phreifatrwydd i Ofcom. Ni fyddem yn gwneud sylw pellach ar achosion tegwch a phreifatrwydd, yn unol â’n gweithdrefnau cyhoeddedig.