Complaints-of-the-year-2024-(Web)

Rhaglenni teledu y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt yn 2024 wedi’u datgelu’n swyddogol

Cyhoeddwyd: 19 Rhagfyr 2024

Yn 2024, roedd cwynion gan wylwyr a gwrandawyr am gynnwys a ddarlledwyd ar deledu a radio yn unol â niferoedd y llynedd. Gyda’i gilydd, mae’r 10 rhaglen y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt yn cynrychioli 61% o gyfanswm y cwynion eleni. Mae dwy raglen yn gyfrifol am bron i hanner yr holl gwynion.
Complaints of the Year 2024_Year in numbers CYM

Bydd gwylwyr a gwrandawyr bob amser wrth galon yr hyn a wnawn, ac rydyn ni’n ystyried pob cwyn a gawn yn ofalus. Mae pob darlledwr yn cael ei drin yn gyfartal ac yn deg ac yn gorfod cadw at yr un safonau uchel y mae gwylwyr a gwrandawyr y DU yn eu disgwyl.

Nid yw ffigurau heddiw yn cynnwys cwynion am raglenni ar y BBC. O dan Siarter y BBC, y BBC sy’n delio â’r rhain yn y lle cyntaf – gelwir y broses hon yn BBC yn gyntaf.

Cynnal safonau mewn blwyddyn etholiad

Yn gynharach eleni, aeth y DU i bleidleisio; roeddem wedi atgoffa darlledwyr o bwysigrwydd cynnal didueddrwydd dyladwy cyn yr Etholiad Cyffredinol, ac wedi cyhoeddi canllawiau cryfach i’r rheini sy’n defnyddio gwleidyddion fel cyflwynwyr.

Roedd cwynion am y sylw a roddwyd i’r Etholiad Cyffredinol ar y teledu a’r radio yn ddim ond 4% o’r holl gwynion eleni. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gwyliodd y DU wrth i’r Unol Daleithiau ethol Arlywydd newydd gyda chwynion am y sylw a roddwyd i’r etholiad yn yr Unol Daleithiau yn cynrychioli llai nag 1% o gyfanswm 2024.

Complaints of the Year 2024_Last 5 years complaints CYM

Nodi 500fed Bwletin Darlledu Ofcom

Eleni, fe wnaethom hefyd nodi 500fed Bwletin Darlledu Ofcom gan edrych yn ôl ar dros 700,000 o gwynion a dderbyniwyd ers ei sefydlu a’r rhaglenni y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt yn hanes Ofcom.

Y Bwletin Darlledu, sy’n cael ei gyhoeddi bob yn ail ddydd Llun, yw'r ffynhonnell i droi ati i gael manylion ymchwiliadau newydd, ein penderfyniadau a rhestrau o gwynion am raglenni nad ydynt yn codi materion o dan ein rheolau.

Yn 2024, fe wnaethom gyhoeddi 26 Bwletin Darlledu a wnaeth gyhoeddi 43 ymchwiliad newydd o dan y safonau darlledu, yn ogystal â chanlyniad 58 ymchwiliad. Gwnaethom ganfod bod cyfanswm o 40 o raglenni wedi torri ein rheolau darlledu ac rydym yn gweithio i ddod â’r ymchwiliadau eraill i ben cyn gynted â phosibl.

Nesaf: isdeitlau a safonau ar gyfer llwyfannau ffrydio

Yn 2025, byddwn yn dechrau gweld newidiadau i’r ffordd mae llwyfannau ffrydio mawr fel Netflix, Amazon Prime a Disney+ yn cael eu rheoleiddio. Y rheswm am hynny yw y bydd y Ddeddf Cyfryngau, a basiwyd ym mis Mai 2024, yn cyflwyno Cod fideo ar-alw newydd ar gyfer y llwyfannau hyn.

Am y tro cyntaf, bydd rhai llwyfannau ffrydio yn gorfod dilyn rheolau newydd, tebyg i’r rhai sy’n diogelu pobl rhag cynnwys niweidiol ar deledu wedi’i ddarlledu.

Bydd rhaid i wasanaethau ffrydio fodloni gofynion hygyrchedd newydd hefyd, fel isdeitlo, er mwyn i ragor o bobl allu mwynhau’r cynnwys hwn.

Yn 2025, byddwn yn ymgynghori ar sut bydd ein cod fideo ar-alw yn edrych – felly cadwch lygad am hynny.

Y rhaglenni y cafodd Ofcom y nifer mwyaf o gwynion amdanynt yn 2024

Complaints of the Year 2024_Complaints CYM

1. Julia Hartley-Brewer, TalkTV, 3 Ionawr – 17,366 o gwynion

Roedd sylwadau a wnaed gan Julia Hartley-Brewer yn ystod cyfweliad gyda Dr Mustafa Barghouti, ysgrifennydd cyffredinol Menter Genedlaethol Palesteina, wedi arwain at nifer sylweddol o gwynion i Ofcom. Fe wnaethom ddweud wrth TalkTV am gymryd gofal arbennig i sicrhau bod cyfiawnhad golygyddol dros sylwadau a allai beri tramgwydd mawr.

2. Good Morning Britain, ITV1, 5 Awst – 16,851 o gwynion

Roedd y rhan fwyaf o bell ffordd o’r cwynion yn ymwneud â chyfweliad gyda Zarah Sultana, AS De Coventry. Canfu ein hasesiad fod Ms Sultana wedi cael digon o gyfle i fynegi ei barn ac ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd iddi. Cawsom hefyd oddeutu mil o gwynion am yr un rhaglen gan wylwyr a oedd yn gwrthwynebu i Ed Balls gyfweld ei wraig, Yvette Cooper, yr Ysgrifennydd Cartref. Fe wnaethom atgoffa ITV o’r angen i wneud cysylltiadau o’r fath yn glir i wylwyr ac i gymryd gofal arbennig i sicrhau bod unrhyw gyfweliadau o’r fath yn cydymffurfio a’r rheolau er mwyn gwneud yn siŵr bod didueddrwydd dyladwy yn cael ei gynnal.

3. Love Island, ITV2, 24 Gorffennaf – 1,832 o gwynion

Cwynodd gwylwyr am ymddygiad Joey Essex a Sean Stone yn y bennod hon. Roeddem yn cydnabod bod golygfeydd emosiynol neu wrthdrawiadol yn gallu ypsetio rhai gwylwyr. Ond, yn ein barn ni, ni chafodd ymddygiad negyddol yn y fila ei ddangos mewn ffordd gadarnhaol, a gwelwyd cystadleuwyr yn cefnogi ei gilydd neu’n ymddiheuro i’w gilydd.

4. Good Morning Britain, ITV1, 30 Mai – 1,777 o gwynion

Roedd cwynion yn dilyn trafodaeth rhwng dau westai, Mike Parry a Kay Taiwo, ynghylch a ddylid difa cŵn XL Bwli. Er bod sylwadau a wnaed gan Mr Parry o bosibl yn peri tramgwydd i rai gwylwyr, cawsant eu herio’n sylweddol gan hyfforddwr cŵn a pherchennog XL Bwli, Ms Taiwo, a gyflwynodd safbwynt cwbl wahanol.

5. Emmerdale, ITV1, 27 a 28 Mai – 1,193 o gwynion

Cawsom gwynion ar ôl gweld Tom yn chwistrellu ci â sylwedd anhysbys, fel rhan o stori dros gyfnod yn ymdrin â rheolaeth drwy orfodaeth. Er ein bod yn cydnabod bod gwylio’r olygfa hon yn brofiad anghyfforddus i rai gwylwyr, ni ddangoswyd unrhyw fanylion graffig am gam-drin anifeiliaid, ac ni chafodd gweithredoedd Tom eu portreadu mewn goleuni cadarnhaol. Roeddem hefyd wedi ystyried y byddai’r stori hon, a oedd yn para am gyfnod sylweddol, yn dangos rheolaeth drwy orfodaeth mewn perthynas wedi bod o fewn disgwyliadau’r gynulleidfa o’r opera sebon hon, sy’n aml yn mynd i’r afael â themâu a materion heriol. 

6. Big Brother, ITV2, 7 Tachwedd – 747 o gwynion

Gwnaethom asesu cwynion gan wylwyr am sylw gan Sarah, a oedd yn eu barn nhw yn peri tramgwydd hiliol. Roeddem yn deall pryderon gwylwyr, ond yn ein barn ni, tynnwyd sylw’n gyflym gan Big Brother at y potensial am dramgwydd a chafodd y cystadleuydd ei rhybuddio am ei hymddygiad annerbyniol. Ystyriwyd hefyd y ffaith fod Sarah wedi ymddiheuro’n ddiweddarach yn ystod y darllediad.

7. Sunak v Starmer: The ITV Debate, ITV1, 4 Mehefin – 710 o gwynion

Rhoesom ystyriaeth ofalus i gwynion am amrywiaeth o faterion. Yn ein barn ni, cafodd Rishi Sunak a Syr Keir Starmer ddigon o gyfle drwy gydol y rhaglen i ymateb yn unigol i’r cwestiynau polisi a godwyd. O ran cynlluniau treth Llafur, llwyddodd Syr Keir i herio dilysrwydd honiadau Rishi Sunak yn gadarn.

8. Good Morning Britain, ITV1, 2 Hydref – 705 o gwynion

Cawsom gwynion am gyfweliad gyda Nigel Farage. Er bod y drefn holi’n gadarn, roeddem o’r farn y byddai’r rhan fwyaf o wylwyr y rhaglen hon yn debygol o ddisgwyl y math hwn o gyfweliad gyda ffigurau gwleidyddol. Cafodd Mr Farage ddigon o gyfle hefyd i fynegi ei safbwynt yn glir.

9. This Morning, ITV1, 28 Mai – 647 complaints

Roedd rhai gwylwyr yn bryderus bod sylwadau a wnaed gan Nick Ferrari yn ystod y rhaglen yn bychanu alergeddau cnau. Fe wnaethom ystyried bod y sylwadau wedi cael eu gwneud mewn ymateb i senario damcaniaethol gan bersonoliaeth ar y cyfryngau sy’n adnabyddus am ei safbwyntiau pryfoclyd. Fe wnaethom hefyd nodi bod ymddiheuriad wedi cael ei ddarlledu y diwrnod canlynol.

10. Big Brother, ITV2, 22 Hydref – 553 o gwynion

Roedd y rhan fwyaf o’r cwynion yn ymwneud â delweddau ar ddillad cystadleuydd. Gan ystyried, ymysg pethau eraill, fod amlygrwydd y ddelwedd a pha mor hir yr oedd yn weladwy yn gyfyngedig, ei bod yn gyson â hawl yr unigolyn i fynegiant personol, ac nad oedd yn cynrychioli cysylltiad â sefydliad terfysgol, ni chanfuom sail i fynd ar drywydd hyn ymhellach.

Yn ôl i'r brig