![View of a camera monitor during a filming session](/siteassets/resources/images/-news-centre/thumbnail-images/tv-and-on-demand/view-of-camera-monitor-during-filming-session.jpg?width=1920&height=577&quality=80)
Heddiw, rydym wedi gosod cosb ariannol o £25,000 ar sianel loeren grefyddol, Loveworld, ar ôl i'n hymchwiliad ganfod ei bod wedi torri ein rheolau darlledu.
Yn ystod dwy bennod o'r rhaglen materion cyfoes, Full Disclosure, gwnaeth y cyflwynwyr nifer o ddatganiadau heb dystiolaeth, hynod gamarweiniol a allai fod yn niweidiol am bandemig a brechlynnau'r Coronafeirws (Covid-19), a ddarlledwyd heb ddarparu diogelwch digonol i wylwyr.
Gwnaethom yn glir ei bod yn ddilys i ddarlledwyr drafod a chraffu ar ymateb iechyd y cyhoedd Llywodraeth y DU i’r pandemig– gan gynnwys sgil-effeithiau posibl brechlynnau – a gallai fod er lles y cyhoedd i wneud hynny. Fodd bynnag, roedd cyflwyniad Loveworld o hawliadau camarweiniol heb ddigon o her na chyd-destun yn gallu achosi niwed posibl difrifol i wylwyr, yn enwedig ar adeg pan oedd pobl yn debygol o fod yn chwilio am wybodaeth ddibynadwy yn ymwneud â rhaglen frechu'r DU.
Yn flaenorol, gwnaethom gyfarwyddo Loveworld i beidio ag ailadrodd y rhaglenni, ac i ddarlledu crynodeb o'n penderfyniad. Oherwydd difrifoldeb y toriadau, rydym hefyd yn ystyried bod angen cosb statudol bellach. Rhaid i Loveworld dalu cosb ariannol o £25,000, a fydd yn cael ei drosglwyddo i Drysorlys EM. Mae lefel y ddirwy yn adlewyrchu, ymhlith pethau eraill, y camau rhagweithiol y mae'r sianel wedi'u cymryd ers hynny i sicrhau cydymffurfiaeth â'n rheolau yn y dyfodol.
Mae mwy o fanylion ar benderfyniad ein sancsiwn ar gael.