Adran deg: Cyfathrebiadau masnachol ar y radio

Cyhoeddwyd: 8 Ionawr 2021
Diweddarwyd diwethaf: 22 Chwefror 2024

Mae'r adran hon yn ymwneud â darlledu radio'n unig a'i nod yw sicrhau tryloywder cyfathrebiadau masnachol fel modd o sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu gwarchod.

(Ymhlith yr eitemau deddfwriaeth perthnasol y mae, yn benodol, adrannau 319(2)(f), (i) a (j), 319(4)(e) ac (f) a 321 Deddf Cyfathrebiadau 2003, rheoliad 3(4)(d) Rheoliadau Amddiffyn y Defnyddiwr Rhag Masnachu Annheg 2008, adran 21(1) Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000, Erthygl 10 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a Siarter a Chytundeb y BBC.

Mae Cymal 49 Cytundeb y BBC yn darparu i wasanaethau'r BBC a gyllidir gan ffi’r drwydded gael eu cyllido’n rhannol gan rai dulliau cyllido eraill. Gan fod yr adran hon yn berthnasol i wasanaethau darlledu’r BBC yn y DU a gyllidir gan ffi’r drwydded a gwasanaethau rhaglenni ar-alw y BBC (“BBC ODPS”), rhaid i gynnwys o’r fath gydymffurfio â’r rheolau yn yr Adran hon.

Mae adran hon y Cod yn berthnasol i radio yn unig (gan gynnwys rhaglenni sain yn unig ar wasanaeth rhaglenni ar-alw (ODPS) y BBC.

Mae Adran Naw y Cod (Cyfeiriadau Masnachol mewn Rhaglenni Teledu) yn berthnasol i deledu yn unig.[1]

Mae radio a theledu’n destun gofynion deddfwriaethol gwahanol ac felly mae’r derminoleg yn Adran hon y Cod yn benodol i radio.

Egwyddor

Sicrhau tryloywder cyfathrebiadau masnachol fel ffordd o sicrhau diogelwch defnyddwyr.

Rheolau

Rheolau Cyffredinol

10.1  Os yw rhaglen yn destun trefniant masnachol, neu’n gysylltiedig â threfniant masnachol, rhaid dwyn sylw at hynny mewn modd priodol, er mwyn sicrhau bod y trefniant masnachol yn amlwg i’r gwrandawyr.

10.2  Rhaid gwahanu hysbysebion sbot yn glir oddi wrth rhaglennu.

10.3  Ni chaniateir dim cyfeiriad masnachol, na deunydd sy’n awgrymu trefniant masnachol, mewn, neu’n union cyn ac ar ôl bwletinau newyddion neu gyflwyniadau gan y ddesg newyddion.

Nid yw’r rheol hon yn berthnasol i:

  • gyfeiriad at gyflenwr newyddion er mwyn nodi bod y cyflenwr hwnnw’n ffynhonnell newyddion;
  • meysydd ffeithiol arbenigol nad ydynt yn fwletinau newyddion nac yn gyflwyniadau gan y ddesg newyddion, ond a all gael eu cynnwys mewn rhaglennu o’r fath, neu’n union cyn neu ar eu hôl;
  • defnyddio gwasanaethau cyfradd premiwm (e.e. ar gyfer arolygon darlledwyr/gorsafoedd); a
  • chyfeiriadau sy’n hyrwyddo cynhyrchion a/neu wasanaethau’r darlledwr a/neu’r orsaf ei hun (e.e. gwefan y rhaglen/darlledwr/gorsaf neu ddigwyddiad gan y darlledwr/gorsaf).

10.4  Ni chaniateir unrhyw gyfeiriad masnachol na deunydd sy’n awgrymu trefniant masnachol mewn gwasanaethau radio sydd wedi’u hanelu’n bennaf at blant neu mewn rhaglennu plant sy’n cael eu cynnwys mewn unrhyw wasanaeth.

Nid yw’r rheol hon yn berthnasol i:

  • gredydau ar gyfer cysylltiad trydydd parti â rhoi gwobr mewn cystadleuaeth mewn darllediad neu raglen;
  • defnyddio gwasanaethau cyfradd premiwm (e.e. ar gyfer cymryd rhan mewn cystadleuaeth a ddarlledir); a
  • chyfeiriadau sy’n hyrwyddo cynhyrchion a/neu wasanaethau’r darlledwr a/neu’r orsaf ei hun (e.e. gwefan y rhaglen/darlledwr/gorsaf neu ddigwyddiad gan y darlledwr/gorsaf).

10.5  Ni chaiff unrhyw drefniant masnachol sy’n cynnwys taliad, neu ddarparu ryw gydnabyddiaeth werthfawr arall, i’r darlledwr ddylanwadu ar ddethol neu gylchdroi cerddoriaeth sydd i'w darlledu.

10.6  Ni chaiff rhaglennu fod yn gysylltiedig â threfniant masnachol gyda thrydydd parti sydd wedi’i wahardd rhag hysbysebu ar y radio. Nid yw'r rheol hon yn berthnasol i sigaréts electronig a chynwysyddion ail-lenwi sy'n ddarostyngedig i Reol 10.6(a).

10.6 (a) Gwaherddir rhaglennu a noddir sydd â’r nod neu'r effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol o hyrwyddo sigaréts electronig a/neu gynwysyddion ail-lenwi.

10.7  Rhaid i gyfeiriadau masnachol mewn rhaglennu gydymffurfio â’r rheolau sy’n ymwneud ag amserlennu a chynnwys hysbysebion sy’n berthnasol i ddarlledu radio.

10.8  Rhaid i gyfeiriadau masnachol y mae’n rhaid eu cadarnhau neu eu cyfiawnhau cyn eu darlledu gael eu clirio ar gyfer eu darlledu yn yr un modd â hysbysebion.

Rhaglennu: Mae rhaglennu'n cynnwys yr holl ddeunydd a ddarlledir ar wahân i hysbysebion sbot.

Hysbysebion sbot: Hysbysebion sbot yw’r hysbysebion a ddarlledir yn ystod egwyliau masnachol.

Trefniant masnachol: Contract, neu unrhyw ddealltwriaeth ffurfiol arall, yw trefniant masnachol rhwng darlledwr (neu unrhyw asiant neu gyflogai i’r darlledwr), a thrydydd parti (neu drydydd partïon).

Mae noddi rhaglen, rhoi gwobr ar gyfer cystadleuaeth a darparu gwasanaeth cyfradd premiwm yn enghreifftiau o drefniant masnachol. Felly, yn gyffredinol, bydd rhaglen sy’n rhwym wrth drefniant masnachol yn cynnwys taliad a/neu ryw gydnabyddiaeth brisiadwy arall yn gyfnewid am gyfeiriad masnachol (pa un a yw’n hyrwyddol neu beidio).

Cyfeiriad masnachol: At ddibenion adran hon y Cod, cyfeiriad mewn rhaglen at frand, nod masnach, gynnyrch a/neu wasanaeth yw cyfeiriad masnachol:

  • sy’n destun trefniant masnachol; neu
  • sy’n hyrwyddo cynhyrchion neu wasanaethau’r darlledwr/gorsaf ei hun.

Ystyr “noddwr” (gweler Rheol 10.6(a))

Mae “noddwr” yn golygu unrhyw ymgymeriad cyhoeddus neu breifat neu unigolyn (ar wahân i ddarlledwr neu gynhyrchydd rhaglenni) sy’n cyfrannu at y costau rhaglennu gyda’r bwriad o hyrwyddo enw, delwedd, cynhyrchion, gwasanaethau, nodau masnach neu weithgareddau'r ymgymeriad neu unigolyn hwnnw.

Ystyr “rhaglennu a noddir” (gweler Rheol 10.6(a))

Ystyr “rhaglennu a noddir” yw rhaglennu (a all gynnwys rhaglen, sianel, darn o raglen neu floc o raglenni) y mae peth o’r costau, neu’r holl gostau, wedi’u talu gan noddwr. Mae’n cynnwys rhaglenni a gyllidir gan hysbysebwyr.

Ystyr “sigarét electronig” (gweler Rheolau 10.6 a 10.6(a))

Cynnyrch (i) y gellir ei ddefnyddio er mwyn cymryd anwedd sy'n cynnwys nicotin i mewn drwy ddarn ceg, neu unrhyw ran o’r cynnyrch hwnnw, gan gynnwys cetrisen, tanc a’r ddyfais heb getrisen na thanc (p’un ai a yw’n gynnyrch sy'n cael ei waredu, ei ail-lenwi drwy ddefnyddio cynhwysydd ail-lenwi a thanc, neu ei ail-wefru gyda chetris a ddefnyddir unwaith yn unig), ond (ii) cynnyrch nad yw’n gynnyrch meddygol o fewn ystyr rheoliad 2 Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 nac yn ddyfais feddygol o fewn ystyr rheoliad 2 Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002.

Ystyr “cynhwysydd ail-lenwi” (gweler Rheolau 10.6 a 10.6(a))

Cynhwysydd (i) sy’n cynnwys hylif â nicotin ynddo y gellir ei ddefnyddio i ail-lenwi sigarét electronig; ond (ii) nad yw’n gynnyrch meddyginiaethol o fewn ystyr rheoliad 2 Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 nac yn ddyfais feddygol o fewn ystyr rheoliad 2 Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002.

Tryloywder: Dylai’r gwrandawyr wybod pan fydd deunydd yn cael ei ddarlledu yn gyfnewid am dâl neu gydnabyddiaeth werthfawr arall. Er mwyn sicrhau tryloywder, rhoddir hysbysiad bod hyn yn digwydd.

Dylid sicrhau bod trefniant masnachol yn dryloyw drwy ddwyn sylw mewn modd priodol at frand, nod masnach, gynnyrch a/neu wasanaeth trydydd parti (neu drydydd partïon) sydd wedi talu i gael sylw mewn darllediad – drwy, er enghraifft: gynnwys credyd am nawdd; cyfeiriad at roddwr gwobr; hyrwyddo rhif cyfradd premiwm ar gyfer cael gwrandawyr i gyfrannu at raglennu.

Hysbysiadau: Ar adegau priodol, mae’n rhaid i ddarlledwyr roi gwybodaeth glir mewn rhaglennu i hysbysu'r gwrandawyr am unrhyw drefniant masnachol sy'n effeithio ar y rhaglennu hynny.

Gan hynny, mae hysbysiadau priodol yn hanfodol er mwyn cydymffurfio â Rheol 10.1. Mae pedair agwedd i'w hystyried wrth asesu pa fath o hysbysiadau sy'n briodol, er mwyn sicrhau cydymffurfiad:

  • Geiriad – rhaid i’r geiriad fod yn glir i sicrhau bod y trefniant masnachol yn dryloyw yn syth;
  • Lleoli – er mwyn i’r trefniant masnachol fod yn dryloyw, yn gyffredinol mae'n rhaid rhoi hysbysiad amdano ar ddechrau pob enghraifft o ddeunydd a ddarlledir sy'n ddarostyngedig i’r trefniant;
  • Amlder – mae'n bosib y bydd angen darparu hysbysiadau ar adegau priodol yn achos allbwn hirach sy'n destun trefniant masnachol;
  • Adnabod (y trydydd parti) - er mwyn i’r trefniant masnachol fod yn dryloyw mae'n rhaid nodi teitl perthnasol y trydydd parti ar yr awyr.

Dylai darlledwyr sicrhau bod deunydd a ddarlledir sy’n ymddangos naill ai fel petai’n ymgyrch gan orsaf neu’n darparu asesiad annibynnol o gynhyrchion/gwasanaethau yn wirioneddol annibynnol a heb fod yn destun trefniant masnachol. Felly wrth hysbysu am gyfeiriadau masnachol mewn, er enghraifft, rhaglennu materion defnyddwyr neu gyngor i ddefnyddwyr, mae’n rhaid bod yn ofalus iawn, gan ei bod yn hanfodol na rhagdybir bod darlledu hyrwyddiadau y telir amdanynt o nwyddau a gwasanaethau yn sylw/datganiad annibynnol.

Edafedd ffeithiol arbenigol:  Gallai edafedd ffeithiol arbenigol mewn bwletinau newyddion neu gyflwyniadau gan y ddesg newyddion, neu yn syth cyn ac ar eu hôl, gynnwys, er enghraifft, teithio, chwaraeon, cyllid a’r tywydd.

Rhaglennu ffeithiol, gan gynnwys materion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy’n bwnc llosg a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol:  Dylai darlledwyr gofio bod yn rhaid i bob rhaglen gydymffurfio ag Adran Pump y Cod. Mae cyfeiriadau masnachol a ddarlledir o dan drefniant o’r fath hefyd yn rhwym wrth Adran 7 Cod Hysbysebu mewn Darlledu’r DU y Pwyllgor Darlledu ar Arferion Hysbysebu. At hynny, atgoffir darlledwyr bod Rheol 2.2 yn berthnasol i bob rhaglen ffeithiol (h.y. mae'n rhaid i eitemau ffeithiol beidio â chamarwain y gynulleidfa'n faterol).

Cyfeiriadau masnachol y mae’n rhaid eu cadarnhau neu eu cyfiawnhau:  Mae enghreifftiau'n cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: hawliadau ffeithiol cymhleth (gan gynnwys y y rhai y mae modd eu cadarnhau’n wrthrychol); hawliadau am arwain y farchnad; prisiau cynigion arbennig; cymariaethau â chystadleuwyr; hawliadau am ragoriaeth; hawliadau a chynigion sy’n cynnwys cyfyngiadau ac eithriadau sylweddol; hawliadau “am ddim”; tystebau; ardystiadau; a hawliadau a all fod o ddiddordeb penodol i blant.

Gwasanaethau Cyfradd Premiwm a reolir a gwasanaethau tebyg

Noder: Mae Gwasanaethau Cyfradd Premiwm a Reolir yn is-set o Wasanaethau Cyfradd Premiwm, sy’n cael eu rheoleiddio gan PhonepayPlus. Dylai trwyddedeion gyfeirio at y cyfarwyddyd am ragor o fanylion am y termau a ddefnyddir yn yr adran hon.

10.9  Rhaid i unrhyw ddefnydd o wasanaethau teleffoni cyfradd premiwm a reolir mewn rhaglenni gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ac unrhyw ofynion ychwanegol sy’n gysylltiedig â darlledu a roddir gan PhonepayPlus.

10.10  Pan fydd gwrandawyr yn defnyddio gwasanaethau teleffoni cyfradd premiwm a reolir, neu wasanaethau cyfathrebu eraill lle mae’r refeniw a gynhyrchir yn cael ei rannu rhwng y partïon perthnasol, rhaid i’r gost gael ei hegluro iddynt a'i darlledu fel y bo'n briodol.

Noder: Dylai trwyddedeion gyfeirio at yr arweiniad am ragor o fanylion am gymhywyso'r rheol hon, yn ogystal â'r arweiniad ar reolau perthnasol cysylltiedig (gweler yn arbennig yr arweiniad perthnasol ar Reolau 2.13 i 2.16).

Apeliadau gan elusennau

10.11: Caniateir darlledu gweithgarwch codi arian ar ran elusen (neu apêl argyfwng) dim ond os:

  • caiff ei ddarlledu yn rhad ac am ddim;
  • nad yw’n cynnwys unrhyw gyfeiriad masnachol sy’n destun trefniant masnachol â’r elusen berthnasol (neu apêl argyfwng); ac
  • os yw'r darlledwr wedi cymryd camau rhesymol i fodloni’i hun:
    • y gall y sefydliad dan sylw ddangos tystiolaeth foddhaol o statws elusennol neu, yn achos apêl argyfwng, fod cronfa gyhoeddus gyfrifol wedi’i sefydlu i ddelio ag ef; ac
    • nad yw’r sefydliad dan sylw wedi’i wahardd rhag hysbysebu ar y radio.

Apeliadau am gyllid ar gyfer rhaglennu neu wasanaethau

10.12  Caiff darlledwyr ddarlledu apeliadau am roddion i wneud rhaglennu neu i gyllido eu gwasanaeth. Rhaid dweud wrth y gwrandawyr beth yw pwrpas yr apêl a faint y bydd yn ei godi. Rhaid rhoi cyfrif ar wahân o’r holl roddion a’u defnyddio i’r diben y’u rhoddwyd ar ei gyfer.

Hyrwyddiadau ariannol ac argymhellion buddsoddi

10.13  Wrth ddarlledu hyrwyddiadau ariannol ac argymhellion buddsoddi, rhaid i ddarlledwyr gydymffurfio â’r darpariaethau perthnasol yn Atodiad 1 y Cod hwn.

Hyrwyddiad ariannol: Mae hyrwyddiad ariannol yn golygu gwahoddiad neu anogaeth i ymwneud â gweithgarwch buddsoddi (yn unol ag adran 21(1) Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Cyfyngiadau ar hyrwyddo ariannol)).

Argymhelliad buddsoddi: Mae argymhelliad yng nghyswllt buddsoddi’n digwydd pan fydd rhywun yn argymell penderfyniad buddsoddi penodol yn uniongyrchol, er enghraifft, prynu neu werthu cyfranddaliadau penodol neu warantu cynnig cyfranddaliadau penodol.

Yn ôl i'r brig