Adran naw: Cyfeiriadau masnachol ar y teledu

Cyhoeddwyd: 19 Chwefror 2024

Mae'r adran hon yn ymwneud ag annibyniaeth olygyddol darlledwyr a'u rheolaeth dros raglennu gyda gwahaniaeth rhwng cynnwys golygyddol a hysbysebu.

(Ymhlith yr eitemau deddfwriaeth perthnasol y mae, yn benodol, adrannau 319(2)(fa), (i) a (j) a 319(4) (a), (c), (e) ac (f ), adran 321(1) a (4) ac adran 324(3) Deddf Cyfathrebiadau 2003; adran 202 Deddf Darlledu 1990 (paragraff 3 yn Rhan 1 Atodlen 2); Erthyglau 11, 13, 15, 17, 18 y Confensiwn Ewropeaidd ar Deledu Trawsffiniol (ar gyfer Gwasanaethau ECTT yn unig); rheoliad 3(4)(d) Rheoliadau Gwarchod y Defnyddiwr Rhag Masnachu Annheg 2008, adran 21(1) Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000; Erthygl 10 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol); a Siarter a Chytundeb y BBC.

Mae Cymal 49 Cytundeb y BBC yn darparu i wasanaethau'r BBC a gyllidir gan ffi’r drwydded gael eu cyllido’n rhannol gan rai dulliau cyllido eraill. Gan fod yr adran hon yn berthnasol i wasanaethau darlledu’r BBC yn y DU a gyllidir gan ffi’r drwydded a gwasanaethau rhaglenni ar-alw y BBC ("BBC ODPS"), rhaid i gynnwys o’r fath gydymffurfio â’r rheolau yn yr Adran hon.

Mae'r adran hon o'r cod yn ymdrin â'r holl raglennu teledu a rhaglennu clyweled ar wasanaethau rhaglenni ar-alw (ODPS) y BBC.

Mae Adran Deg y Cod yn berthnasol i radio’n unig[1]. Mae gofynion deddfwriaethol amrywiol ar y cyfryngau. Felly, pan ddefnyddir terminoleg debyg yn Adrannau Naw a Deg y Cod, nid oes iddi’r un ystyr o reidrwydd. Dylai darlledwyr edrych ar yr ystyron penodol a nodir ym mhob adran.

Noder: Mae adran hon y Cod yn cynnwys cyfres o egwyddorion a rheolau cyffredinol, trosgynnol sy’n berthnasol i'r holl gyfeiriadau masnachol mewn rhaglennu teledu. Mae hefyd yn cynnwys rheolau penodol ar gyfer gwahanol fathau o weithgarwch masnachol (e.e. gosod cynnyrch, deunydd cysylltiedig â rhaglenni, nawdd), boed yn cael ei wneud gan endidau masnachol neu anfasnachol, neu ar eu rhan. Mae’r rheolau’n sicrhau bod egwyddorion annibyniaeth olygyddol; y gwahaniaeth rhwng hysbysebu a chynnwys golygyddol; tryloywder trefniadau masnachol; a gwarchod defnyddwyr yn cael eu cynnal.

Ystyr "rhaglennu"

Yr holl gynnwys darlledu ac eithrio hysbysebu spot a thelesiopa. Rhaglenni, rhagflasau, trawshyrwyddiadau a chredydau nawdd i gyd yn ffurfiau ar raglennu

Ystyr “cyfeiriad masnachol”

Unrhyw gyfeiriad gweledol neu sain o fewn rhaglennu at gynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach (ni waeth p'un ai'n gysylltiedig ag endid masnachol neu anfasnachol).

Ystyr "nod masnach”

Mewn perthynas â busnes, mae'n cynnwys unrhyw ddelwedd (megis logo) neu sain sy'n gysylltiedig fel arfer â'r busnes hwnnw neu ei gynhyrchion neu wasanaethau.

Egwyddorion

Sicrhau bod darlledwyr yn cynnal annibyniaeth a rheolaeth olygyddol dros raglennu (annibyniaeth olygyddol).

Sicrhau bod gwahaniaeth rhwng cynnwys golygyddol a hysbysebu (gwahaniaeth).

Gwarchod cynulleidfaoedd rhag hysbysebu llechwraidd (tryloywder).

Sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu gwarchod rhag y risg o niwed ariannol (gwarchod y defnyddwyr).

Sicrhau bod nawdd anaddas yn cael ei atal (nawdd anaddas).

Rheolau

Rheolau cyffredinol

Noder: Mae Rheolau 9.1 i 9.5 yn berthnasol i bob cyfeiriad masnachol ar raglennu teledu. Maent yn adlewyrchu'r ffaith bod cynnwys cyfeiriadau masnachol mewn rhaglennu teledu’n creu risg benodol i’r egwyddorion allweddol gael eu tanseilio, neu ymddangos felly.

9.1  Mae’n rhaid i ddarlledwyr gynnal annibyniaeth y rheolaeth olygyddol dros raglennu.

Noder: Mae Rheol 9.1(a) yn berthnasol i Wasanaethau ECTT

9.1(a) Mae’n rhaid i ddarlledwyr sicrhau nad yw unrhyw hysbesebwr yn cael dylanwad golygyddol dros gynnwys rhaglenni

9.2  Mae’n rhaid i ddarlledwyr sicrhau bod y cynnwys golygyddol yn wahanol i hysbysebu.

Noder: Am ddiffiniad o “hysbysebu”, gweler Cod Ofcom ar gyfer amserlennu hysbysebion teledu (“COSTA (PDF, 257.6 KB)”).

9.2  Gwaherddir hysbysebu llechwraidd.

Ystyr “hysbysebu llechwraidd”

Mae hysbysebu llechwraidd yn ymwneud â chyfeiriad at gynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach o fewn rhaglen nad yw'r darlledwyr yn bwriadu i'r fath gyfeiriad fod yn hysbyseb ond nid yw hyn yn cael ei egluro i'r gynulleidfa. Mae'n debygol yr ystyrir bod y fath hysbysebu'n fwriadol o bydd yn digwydd yn gyfnewid am daliad neu ystyriaeth brisiadwy arall i'r darlledwr neu gynhyrchydd.

9.4  Ni ddylid hyrwyddo cynhyrchion, gwasanaethau na nodau masnach mewn rhaglennu.

Noder: Am eithriadau penodol i’r rheol hon, gweler y rheolau ar wasanaethau cyfradd premiwm (Rheolau 9.26 i 9.30) a’r rheolau ar ddeunydd cysylltiedig â rhaglenni (Rheolau 9.31 a 9.32).

9.5  Ni cheir rhoi amlygrwydd gormodol mewn unrhyw raglen i gynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach. Gellir cael amlygrwydd gormodol oherwydd:

  • presenoldeb cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach mewn rhaglennu, neu gyfeiriad atynt, heb gyfiawnhad golygyddol dros hynny; neu
  • y modd y mae cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach yn ymddangos neu’r modd y cyfeirir atynt mewn rhaglennu.

Gosod cynnyrch (a gosod propiau)

Dylai darlledwyr nodi bod yr ystyron a nodir isod yn ddiffiniadau statudol a geir yn neddfwriaeth y DU (oni nodir yn wahanol, Deddf Cyfathrebu 2003, fel y’i diwygiwyd).

Ystyr "gosod cynnyrch"

Cynnwys cyfeiriad at gynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach mewn rhaglen pan fydd eu cynnwys at ddiben masnachol, ac yn gyfnewid am wneud unrhyw daliad, nei roi unrhyw ystyriaeth brisiadwy, i unrhyw ddarparwr perthnasol neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig â darparwr perthnasol, ac nad yw’n osod propiau.

Ystyr "gosod propiau"

Cynnwys cyfeiriad at gynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach mewn rhaglen pan nad oes gan ddarparu’r cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach unrhyw werth arwyddocaol, ac nad yw unrhyw ddarparwr perthnasol, neu berson sy’n gysylltiedig â darparwr perthnasol, wedi derbyn unrhyw daliad neu ystyriaeth brisiadwy mewn perthynas â’i gynnwys, neu’r cyfeiriad ato, yn y rhaglen, gan ddiystyru’r costau a arbedir trwy gynnwys y cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach, neu gyfeiriad ato, yn y rhaglen

Bydd gosod propiau sy’n ymwneud â chyflenwi cynhyrchion neu wasanaethau sydd o “werth arwyddocaol” yn cael eu trin fel gosod cynnyrch ac mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â Rheolau 9.6 i 9.14.

Ystyr “gwerth arwyddocaol"

Gwerth gweddilliol sy’n fwy na dibwys.

Ystyr “gwerth gweddilliol"

Unrhyw werth ariannol neu werth economaidd arall sydd yn nwylo’r darparwr perthnasol ar wahân i arbediad cost sy’n deillio o gynnwys y cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach, neu gyfeiriad ato, mewn rhaglen.

Ystyr “darparwr perthnasol”

Darparwr y gwasanaeth rhaglenni teledu y mae’r rhaglen wedi’i cynnwys arno neu gynhyrchydd y rhaglen.

Ystyr “person cysylltiedig”

Mae gan berson cysylltiedig yr un ystyr ag yn adran 202 Deddf Darlledu 1990 (paragraff 3 yn Rhan 1 Atodlen 2). Yn gryno, mae’r personau a ganlyn yn gysylltiedig â pherson penodol (mae ‘person’ yn cynnwys unigolyn yn ogystal â chorff corfforaethol ac endidau cyfreithiol corfforedig ac anghorfforedig eraill):

(a) person sy’n rheoli’r person hwnnw;
(b) person cyswllt i’r person hwnnw neu i’r person yn (a); a
(c) corff sydd wedi’i reoli gan y person hwnnw neu gan berson cyswllt i’r person hwnnw.

Mae gan reoli a pherson cyswllt yr ystyron a ddisgrifir ym mharagraff 1, Rhan 1, Atodlen 2 Deddf 1990.

Mae Rheolau 9.6 i 9.11 yn berthnasol i bob rhaglen

9.6  Gwaherddir gosod cynnyrch mewn:

a) rhaglenni newyddion;

b) rhaglenni plant.

Ystyr "rhaglen i blant"

Yn y cyd-destun hwn mae rhaglen i blant yn "rhaglen sy'n cael ei wneud ar gyfer gwasanaeth rhaglenni teledu neu wasanaeth rhaglenni ar-alw, ac i'w gwylio'n bennaf gan bersonau o dan un ar bymtheg oed".

Mae Rheol 9.7 yn berthnasol i raglenni, y dechreuodd y gwaith o’u cynhyrchu ar ôl 31 Hydref 2020.

9.7  Mae gosod cynnyrch wedi’i wahardd mewn:

a) rhaglenni crefyddol

b) rhaglenni materion defnyddwyr

c) rhaglenni materion cyfoes

Noder: Ar gyfer rhaglenni crefyddol, materion defnyddwyr a materion cyfoes a gynhyrchir o dan awdurdodaeth y DU, mae Rheol 9.12 yn berthnasol hefyd

Ystyr "rhaglen materion cyfoes"

Mae rhaglen materion cyfoes yn un sy’n cynnwys eglurhad a/neu ddadansoddiad o ddigwyddiadau a materion cyfoes, gan gynnwys deunydd sy’n ymdrin â materion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy'n bwnc llosg neu â pholisi cyhoeddus cyfredol.

9.8  Ni ddylai gosod cynnyrch ddylanwadu ar gynnwys ac amserlennu rhaglen mewn modd sy’n amharu ar gyfrifoldeb ac annibyniaeth olygyddol y darlledwr:

9.9  Wrth gyfeirio at osod cynhyrchion, gwasanaethau a nodau masnach, mae'n rhaid peidio â'u hyrwyddo.

9.10  Ni ddylai cyfeiriadau at gynhyrchion, gwasanaethau a nodau masnach a osodir fod yn rhy amlwg.

Noder: Dylai darlledwyr gyfeirio at y cyfarwyddyd sy’n cyd-fynd ag Adran Naw y Cod am ragor o wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio Rheolau 9.9 a 9.10.

9.11  Gwaherddir gosod y cynhyrchion, gwasanaethau neu nodau masnach a ganlyn:

a) sigaréts neu gynnyrch tybaco arall;

b) gosod gan neu ar ran ymgymeriad y mai ei brif weithgaredd yw cynhyrchu neu werthu sigaréts neu gynnyrch tybaco arall;

c) meddyginiaeth sydd ar gael trwy bresgripsiwn yn unig;

d) sigaréts electronig neu gynwysyddion ail-lenwi; neu

e) osod gan neu ar ran ymgymeriad y mai ei brif weithgaredd yw cynhyrchu neu werthu sigaréts electronig neu gynwysyddion ail-lenwi, os dechreuwyd ar gynhyrchu'r rhaglen y mae’r gosod yn digwydd ynddi ar ôl 31 Hydref 2020.

Ystyr “sigarét electronig”

Mae sigarét electronig yn gynnyrch (i) y gellir ei ddefnyddio er mwyn cymryd anwedd sy'n cynnwys nicotin drwy ddarn ceg, neu unrhyw gydran o’r cynnyrch hwnnw, gan gynnwys cetrisen, tanc a’r ddyfais heb getrisen na thanc (p’un ai a yw’n gynnyrch sy'n cael ei waredu, ei ail-lenwi drwy ddefnyddio cynhwysydd ail-lenwi a thanc, neu ei ail-wefru gyda chetris a ddefnyddir unwaith yn unig), a (ii) nad yw’n gynnyrch meddygol o fewn ystyr rheoliad 2 Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 nac yn ddyfais feddygol o fewn ystyr rheoliad 2 Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002.

Ystyr “cynhwysydd ail-lenwi”

Mae cynhwysydd ail-lenwi (i) yn gynhwysydd sy’n cynnwys hylif a nicotin ynddo y gellir ei ddefnyddio i ail-lenwi sigarét electronig; a (ii) yn gynnyrch nad yw'n gynnyrch meddyginiaethol o fewn ystyr rheoliad 2 Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 nac yn ddyfais feddygol o fewn ystyr 2 Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002.

Yn ychwanegol at Reolau 9.6 i 9.11, mae Rheolau 9.12 i 9.13 hefyd yn berthnasol i osod cynnyrch yn yr holl raglenni a gynhyrchir o dan awdurdodaeth y DU:

Ystyr “rhaglenni a gynhyrchir o dan awdurdodaeth y DU”

Ystyr “rhaglenni a gynhyrchir o dan awdurdodaeth y DU” yw unrhyw raglen a gynhyrchir neu a gomisiynir gan naill ai:

a) darparwr y gwasanaeth rhaglenni teledu  neu  unrhyw  berson sy'n gysylltiedig â’ darparwr hwnnw (ac eithrio yn achos ffilm a wneir ar gyfer y sinema); neu

b) unrhyw berson arall gyda’r bwriad o’i dangos am y tro cyntaf fel rhan o wasanaeth rhaglenni teledu sydd o dan awdurdodaeth y Deyrnas Unedig.

9.12  Ni chaniateir gosod cynnyrch mewn rhaglenni a gynhyrchir o dan awdurdodaeth y DU os:

a) dechreuwyd ar gynhyrchu’r rhaglen cyn 1 Tachwedd 2020 ac os

b) yw’r rhaglen yn: i) rhaglen grefyddol; ii) rhaglen cyngor i ddefnyddwyr; neu iii) rhaglen materion cyfoes.

Noder: Ar gyfer rhaglenni crefyddol, cyngor i ddefnyddwyr neu faterion cyfoes a gynhyrchir o dan unrhyw awdurdodaeth ar ôl 31 Hydref 2020, mae Rheol 9.7 yn berthnasol.

9.13  Ni chaniateir gosod y cynnyrch a ganlyn:

a) diodydd meddwol;

b) bwyd neu ddiod sy’n cynnwys lefelau uchel o fraster, halen neu siwgr (“HFSS”);

c) hapchwarae;

d) llaeth fformiwla (llaeth babanod), yn cynnwys llaeth fformiwla dilynol;

e) pob cynnyrch meddyginiaethol;

f) tanwyr sigaréts, papurau sigarét neu getyn y bwriedir ei ysmygu; neu

g) unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach na chaniateir ei hysbysebu ar y teledu.

Noder: Diffinnir cynhyrchion bwyd a diod sy’n cynnwys lefelau uchel o fraster, halen neu siwgr gan y cynllun proffilio maethynnau a ddyfeisiwyd gan Asiantaeth Safonau Bwyd y DU i'w ddefnyddio gan Ofcom.

Mae Rheol 9.14 yn berthnasol i raglenni a gynhyrchir neu a gomisiynir gan ddarparwr gwasanaeth rhaglenni teledu neu unrhyw berson cysylltiedig â’r darparwr hwnnw:

9.14  Mae’n rhaid darparu hysbysiad clir o osod cynnyrch, ar ffurf logo niwtral cyffredinol, fel a ganlyn:

a) ar ddechrau’r rhaglen y mae’r gosod cynnyrch yn digwydd ynddi;

b) pan fo’r rhaglen yn ailgychwyn ar ôl egwyliau masnachol; ac

c) ar ddiwedd y rhaglen.

Noder: Diffinnir y logo niwtral cyffredinol gan y meini prawf a ddisgrifir yn Atodiad 1 i’r cyfarwyddyd sy’n cyd-fynd ag Adran Naw y Cod.

Rhaglenni a brynir a thynnu sylw: Pan fydd darlledwr yn caffael rhaglen sy’n cynnwys gosod cynnyrch (h.y. nid yw’r darlledwr wedi cynhyrchu na chomisiynu’r rhaglen ac nid yw’r rhaglen wedi’i chynhyrchu na’i chomisiynu gan berson cysylltiedig), nid oes angen darparu hysbysiad o hyn. Fodd bynnag, dylid nodi bod yn rhaid i bob rhaglen o’r fath gydymffurfio ag unrhyw reolau perthnasol eraill yn y Cod. Os bydd darlledwr yn caffael rhaglen gan drydydd parti ar yr amod bod y gosod cynnyrch yn y rhaglen yn cael ei ddarlledu (gan ddibynnu ar gydymffurfio â rheolau perthnasol), dylid nodi gofynion Rheol 9.3 (hysbysebu llechwraidd). O dan y fath amgylchiadau, mae Ofcom yn disgwyl i ddarlledwyr sicrhau yr hysbysir cynulleidfaoedd bod y rhaglen yn cynnwys gosod cynnyrch.

Nawdd

Ystyr “rhaglennu a noddir”

Ystyr rhaglennu a noddir (a all gynnwys rhaglen, sianel, darn o raglen neu floc o raglenni) yw rhaglennu y mae peth o’r costau, neu’r holl gostau, wedi’u talu gan noddwr. Mae’n cynnwys rhaglenni a gyllidir gan hysbysebwyr.

Ystyr “noddwr”

Unrhyw ymgymeriad cyhoeddus neu breifat neu unigolyn (ar wahân i ddarlledwr neu gynhyrchydd rhaglenni) sy’n cyllido’r rhaglennu gyda’r bwriad o hyrwyddo ei gynhyrchion, ei wasanaethau, ei nodau masnach a/neu ei weithgareddau.

Ystyr “costau”

Unrhyw ran o’r costau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu neu ddarlledu’r rhaglennu

Noder:

1) Mae’r rheolau’n ceisio sicrhau bod annibyniaeth olygyddol yn cael ei gwarchod a bod gwahaniaeth yn cael ei gynnal rhwng golygyddol a hysbysebu. Maent hefyd yn ceisio gwarchod rhag nawdd anaddas a sicrhau bod trefniadau nawdd yn cadw at yr egwyddor o dryloywder.

2) Ac eithrio’r gydnabyddiaeth o nawdd, bydd unrhyw gyfeiriad at noddwr, ei gynnyrch, ei wasanaethau neu ei nodau masnach, mewn rhaglen a noddir o ganlyniad i drefniant masnachol gyda’r darlledwr, gwneuthurwr y rhaglen neu berson cysylltiedig yn cael ei drin fel gosod cynnyrch ac mae’n rhaid iddo gydymffurfio â Rheolau 9.6 i 9.14.

Cynnwys na cheir ei noddi

9.15  Mae’n rhaid peidio â noddi rhaglenni newyddion a materion cyfoes.

(Gweler ystyr "rhaglen materion cyfoes" o dan Reol 9.7 uchod.)

Noddwyr gwaharddedig a dan gyfyngiad

9.16  Ni chaiff unrhyw raglenni (yn cynnwys sianel) dderbyn nawdd gan unrhyw noddwr sydd wedi’i wahardd rhag hysbysebu ar y teledu. Nid yw'r rheol hon yn berthnasol i sigaréts electronig a chynwysyddion ail-lenwi sy'n ddarostyngedig i Reol 9.16(a).

a) Gwaherddir rhaglennu a noddir sydd â’r nod neu'r effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol o hyrwyddo sigaréts electronig a/neu gynwysyddion ail-lenwi.

(Gweler ystyr “sigarét electronig” a “cynhwysydd ail-lenwi” o dan Reol 9.11 uchod.)

9.17  Rhaid i nawdd gydymffurfio â’r rheolau cynnwys ac amserlennu sy’n berthnasol i hysbysebu ar y teledu.

Cynnwys darllediadau a noddir

9.18  Mae’n rhaid i noddwr beidio â dylanwadu ar gynnwys a/neu amserlennu sianel neu raglennu mewn modd sy’n amharu ar gyfrifoldeb ac annibyniaeth olygyddol y darlledwr.

Noder:Dylid darllen y rheol hon ar y cyd â Rheolau 9.1 i 9.5.

Ni ddylai’r trefniadau nawdd arwain at greu nac aflunio cynnwys golygyddol fel yr aiff yn gyfrwng hyrwyddo’r noddwr neu ei fuddiannau.

Ceir amgylchiadau cyfyngedig lle gellir cyfeirio at noddwr (neu ei gynhyrchion, ei wasanaethau neu ei nodau masnach) yn ystod rhaglen y mae’n ei noddi o ganlyniad i drefniant masnachol gyda’r darlledwr neu wneuthurwr y rhaglen. Er enghraifft, yn achos trefniant gosod cynnyrch (gweler Rheolau 9.6 i 9.14) neu pan gaiff y trefniant nawdd ei ddatgan (gweler Rheolau 9.19 i 9.25).

Mae'n rhaid i gyfeiriad golygyddol at noddwr (neu ei gynhyrchion, ei wasanaethau neu ei nodau masnach) mewn rhaglen nad yw'n deillio o drefniant masnachol gyda’r darlledwr, gwneuthurwr y rhaglen neu berson cysylltiedig, gydymffurfio â Rheolau 9.1 i 9.5.

Cydnabyddiaeth o nawdd

9.19  Mae’n rhaid i nawdd gael ei ddatgan yn glir drwy gyfrwng cydnabyddiaeth o’r nawdd. Mae’n rhaid i’r gydnabyddiaeth ddatgan yn glir:

a) pwy yw’r noddwr drwy gyfeirio at ei enw neu ei nod masnach; a

b) y berthynas rhwng y noddwr a’r cynnwys a noddir.

9.20  Yn achos rhaglenni a noddir, rhaid darlledu’r gydnabyddiaeth ar ddechrau a/neu yn ystod ac/neu ar ddiwedd y rhaglen.

Noder: Hefyd gellir darlledu’r gydnabyddiaeth ar ddechrau neu ddiwedd egwyl fasnachol yn ystod y rhaglen a noddir.

Ar gyfer unrhyw gynnwys arall a noddir (e.e. sianeli), dylid darlledu'r gydnabyddiaeth o'r nawdd ar adegau priodol yn ystod yr amserlen, er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd yn deall bod y cynnwys wedi’i noddi.

9.21  Mae’n rhaid i’r gydnabyddiaeth o nawdd fod yn wahanol i gynnwys golygyddol.

9.22  Mae’n rhaid i’r gydnabyddiaeth o nawdd fod yn wahanol i hysbysebu. Yn benodol:

a) Mae'n rhaid i gydnabyddiaeth o nawdd o amgylch rhaglenni a noddir beidio â chynnwys negeseuon hysbysebu neu alwadau i weithredu. Yn benodol, mae'n rhaid i gydnabyddiaeth beidio ag annog rhywun i brynu neu rentu cynhyrchion neu wasanaethau’r noddwr neu drydydd parti. Mae’n rhaid i ffocws y gydnabyddiaeth fod ar y trefniant nawdd ei hun. Gall cydnabyddiaeth o’r fath gynnwys cyfeiriad penodol at gynhyrchion, gwasanaethau neu nodau masnach y noddwr at ddibenion helpu i ddatgan pwy yw’r noddwr a/neu’r trefniant nawdd yn unig.

b) Mae'n rhaid i gydnabyddiaeth o nawdd a ddarlledir yn ystod rhaglenni beidio â bod yn rhy amlwg. Mae’n rhaid i'r fath gydnabyddiaeth gynnwys datganiad gweledol neu lafar cryno a niwtral sy'n nodi'r trefniant nawdd. Dim ond graffig o enw, logo neu symbol nodedig arall y noddwr y gellir ei gynnwys gyda hyn. Mae’n rhaid i gynnwys y graffig fod yn statig a rhai iddo bedio â chynnwys unrhyw negeseuon hysbysebu, galw i weithredu neu unrhyw wybodaeth arall am y noddwr, ei gynhyrchion, ei wasanaethau neu ei nodau masnach.

9.23  Os yw noddwr wedi’i wahardd rhag gosod cynnyrch yn y rhaglen y mae’n ei noddi, ni ellir dangos cydnabyddiaeth o’r nawdd yn ystod y rhaglen a noddir.

9.24  Os oes cydnabyddiaeth o nawdd wedi’i chynnwys mewn rhagflas o raglen, mae’n rhaid i’r gydnabyddiaeth fod yn fyr ac yn eilaidd.

9.25  Caniateir noddi deunydd gysylltiedig â rhaglenni a gellir cydnabod y noddwr pan ddangosir manylion y dull o sicrhau’r deunydd. Rhaid i unrhyw gydnabyddiaeth fod yn fyr ac yn eilaidd, a rhaid iddi fod ar wahân i unrhyw gydnabyddiaeth i noddwr y rhaglen.

Defnyddio Gwasanaethau Cyfradd Premiwm a Reolir

Noder: Mae Gwasanaethau Cyfradd Premiwm a Reolir yn is-set o Wasanaethau Cyfradd Premiwm, sy’n cael eu rheoleiddio gan PhonepayPlus. Dylai’r trwyddedeion edrych ar y cyfarwyddyd am ragor o fanylion am y termau a ddefnyddir yn yr adran hon.

9.26  Pan fydd darlledwr yn gwahodd gwylwyr i gymryd rhan yn ei raglenni neu ryngweithio fel arall â'i raglenni, dim ond drwy gyfrwng gwasanaethau ffôn ar y gyfradd premiwm a reolir neu wasanaethau teleffoni eraill lle rhennir y refeniw a gynhyrchir rhwng y partïon perthnasol, y gall godi am gyfranogiad neu gysylltiad o’r fath.

9.27  Fel arfer ystyrir bod gwasanaethau teleffoni cyfradd premiwm a reolir yn gynhyrchion neu’n wasanaethau, ac felly rhaid iddynt beidio ag ymddangos mewn rhaglenni, ac eithrio:

a) pan fyddant yn galluogi gwylwyr i gyfranogi’n uniongyrchol yn y rhaglen neu fel arall gyfrannu’n uniongyrchol at gynnwys golygyddol y rhaglen; neu

b) pan fyddant yn dod o fewn cwmpas ystyr deunydd sy’n gysylltiedig â rhaglen.

Noder: Mae pob un o’r eithriadau uchod yn rhwym wrth y rheol amlygrwydd gormodol.

9.28  Pan geir gwasanaeth teleffoni cyfradd premiwm a reolir mewn rhaglen, mae’n rhaid iddi fod yn amlwg mai golygyddol yw prif bwrpas y rhaglen o hyd. Mae’n rhaid dangos yn glir bod hyrwyddo’r gwasanaeth dan sylw’n eilaidd i’r prif bwrpas hwnnw.

9.29  Rhaid i unrhyw ddefnydd o rifau ffôn cyfradd premiwm a reolir gydymffurfio â’r Cod Ymarfer a gyhoeddwyd gan PhonepayPlus.

Costau galwadau nad ydynt yn rhai daearyddol

9.30  Mae’n rhaid datgan y gost i wylwyr am ddefnyddio'r gwasanaethau teleffoni nad ydynt yn ddaearyddol yn glir, a'i darlledu fel y bo'n briodol.

Noder: Rhifau ffôn nad ydynt yn gysylltiedig â lleoliad penodol yw gwasanaethau teleffoni nad ydynt yn ddaearyddol. Dylai’r trwyddedeion edrych ar y cyfarwyddyd am ragor o fanylion am y defnydd o’r rheol hon, yn ogystal â chyfarwyddyd y rheolau cysylltiedig perthnasol (gweler yn arbennig y cyfarwyddyd perthnasol i Reolau 2.13 i 2.16).

Deunydd cysylltiedig â rhaglenni

Ystyr “deunydd cysylltiedig â rhaglenni”

Mae deunydd cysylltiedig â rhaglenni’n cynnwys cynhyrchion neu wasanaethau sy’n deillio’n uniongyrchol o raglen ac y bwriedir yn benodol iddynt alluogi gwylwyr i elwa'n llawn o’r rhaglen honno neu ryngweithio â hi.

Nodiadau:

1) Gall darlledwyr gyfeirio at argaeledd deunydd gysylltiedig â rhaglenni heb i gyfeiriadau o’r fath gyfrif tuag at faint o hysbysebu y caniateir iddynt ei ddarlledu (fel y manylir yng Nghôd Ofcom mewn perthynas ag amserlennu hysbysebion ar y teledu (“COSTA”). Mae’r rheolau a ganlyn yn cefnogi’r egwyddor allweddol o annibyniaeth olygyddol drwy sicrhau bod cyfeiriadau at ddeunydd cysylltiedig â rhaglenni’n cael eu gwneud am resymau golygyddol yn bennaf, ac nid rhesymau hysbysebu.

2) Gall deunydd cysylltiedig â rhaglenni gael ei noddi (gweler Rheol 9.25).

9.31  Dim ond yn ystod neu o amgylch y rhaglen y mae’n deillio’n uniongyrchol ohoni y gellir hyrwyddo deunydd cysylltiedig â rhaglenni, a dim ond os oes modd cyfiawnhau hynny’n olygyddol.

Noder: Dylai darlledwyr edrych ar y diffiniad statudol o osod cynnyrch (gweler yr ystyron a’r rheolau cyn Rheol 9.6). Pan y gallai cynnwys cyfeiriadau at ddeunydd gysylltiedig â rhaglenni yn ystod rhaglenni fodloni’r diffiniad o osod cynnyrch, dylid sicrhau gwahaniaeth clir rhwng y fath hyrwyddo a chynnwys golygyddol, er mwyn osgoi codi'r materion o dan Reol 9.9.

Yn yr un modd, os yw deunydd gysylltiedig â rhaglenni’n cynnwys hyrwyddo argaeledd cynhyrchion neu wasanaethau ymhlith y gynulleidfa, yn gyfnewid am daliad, mae'n bosibl y gallai hyn gyfateb i'r diffiniad o hysbysebu ar y teledu (gweler COSTA). Felly, dylid sicrhau gwahaniaeth clir rhwng hyrwyddo o’r fath a chynnwys golygyddol (gweler Rheol 9.2).

9.32  Mae’n rhaid i’r darlledwr fod yn gyfrifol o hyd am sicrhau priodoldeb hyrwyddo deunydd gysylltiedig â rhaglenni.

Trawshyrwyddiadau

Noder: Ymdrinnir â thrawshyrwyddo rhaglenni, sianeli a gwasanaethau eraill gysylltiedig â darlledu’n mewn rheolau penodol sydd wedi'u cynnwys yn y Cod Trawshyrwyddo.

Dylai darlledwyr nodi y dylai trawshyrwyddiadau gydymffurfio hefyd â’r holl ofynion perthnasol yn y Cod Darlledu ac, yn benodol, Rheolau 9.1 i 9.5.

Apeliadau gan elusennau

Noder: Dim ond os ydynt yn cael eu darlledu am ddim y caniateir apeliadau elusennol mewn rhaglenni.

Mae’r rheolau a ganlyn yn cydnabod bod elusennau’n wahanol i endidau masnachol pur ond ceir risg o hyd y bydd y gynulleidfa’n dioddef niwed ariannol o ganlyniad i'r fath apeliadau (gwarchod y defnyddwyr). Ar ben hynny, mae llawer o elusennau’n cystadlu yn erbyn ei gilydd ac mae'r rheolau felly'n ceisio sicrhau bod apeliadau gan elusennau o fudd i amrywiaeth o elusennau. Lle bo hynny'n briodol, mae'n rhaid i ddarlledwyr roi sylw arbennig hefyd i Adran Pump y Cod (Didueddrwydd Dyladwy).

9.33  Caniateir apeliadau gan elusennau a ddarlledir am ddim mewn rhaglennu ar yr amod bod y darlledwr wedi cymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun:

a) y gall y corff dan sylw dangos tystiolaeth foddhaol o statws elusennol neu, yn achos apêl argyfwng, fod cronfa gyhoeddus gyfrifol wedi’i sefydlu i ymdrin â'r mater; ac

b) nad yw’r corff dan sylw wedi’i wahardd rhag hysbysebu ar y teledu; ac

c) ar gyfer gwasanaethau ECTT, os yw’r apêl yn hyrwyddo’r darlledwr ei hun, ni all arddangos, yn weledol neu ar lafar, personau sy’n cyflwyno rhaglenni newyddion a materion cyfoes yn rheolaidd.

9.34  Pan fo'n bosib, dylai apeliadau gan elusennau a ddarlledir, naill ai’n unigol neu o’u cymryd gyda’i gilydd dros amser, fod o fudd i ystod eang o elusennau.

Hyrwyddiadau ariannol ac argymhellion buddsoddi

Ystyr “hyrwyddiad ariannol”

Mae hyrwyddiad ariannol yn wahoddiad neu anogaeth i ymwneud â gweithgarwch buddsoddi (yn unol ag adran 21(1) Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Cyfyngiadau ar hyrwyddiadau ariannol).

Ystyr “argymhelliad buddsoddi”:

Ceir argymhelliad buddsoddi pan fydd rhywun yn argymell penderfyniad buddsoddi penodol yn uniongyrchol, er enghraifft, prynu neu werthu cyfranddaliadau penodol neu warantu cynnig cyfranddaliadau penodol.

Noder: Mae’r rheolau sy’n berthnasol i'r fath hyrwyddiadau ac argymhellion yn adlewyrchu’r risg benodol y gallai'r fath gyfeiriadau arwain at niwed ariannol i’r gynulleidfa (gwarchod defnyddwyr), a’r angen o ganlyniad i hynny, am gynnal a gwarchod annibyniaeth olygyddol a thryloywder.

9.35  Wrth ddarlledu hyrwyddiadau ariannol ac argymhellion buddsoddi, rhaid i ddarlledwyr gydymffurfio â’r darpariaethau perthnasol yn Atodiad 1 y Cod hwn.

Apeliadau am gyllid ar gyfer rhaglennu neu wasanaethau

Noder: Yn ystod rhaglennu, caiff darlledwyr ddarlledu apeliadau am roddion i wneud cynnwys golygyddol neu i gyllido eu gwasanaeth.

Mae Rheolau 9.36 i 9.39 yn adlewyrchu’r potensial am niwed ariannol pan fydd darlledwyr yn apelio am gyllid gan wylwyr (gwarchod defnyddwyr) ac yn sicrhau annibyniaeth olygyddol, tryloywder, a chynnal y gwahaniaeth rhwng hysbysebu a chynnwys golygyddol.

9.36  Mae'n rhaid dweud wrth wylwyr beth yw diben yr apêl a faint y mae’n ei godi.

9.37  Mae'n rhaid rhoi cyfrif ar wahân o’r holl roddion a’u defnyddio at y diben y’u rhoddwyd ar ei gyfer.

9.38  Mae'n rhaid i ddarlledwyr beidio â chynnig unrhyw fanteision ychwanegol nac ysgogiadau eraill i gyfranwyr.

9.39  Mae'n rhaid peidio â rhoi amlygrwydd gormodol i apeliadau am gyllid ar gyfer rhaglennu neu wasanaethau mewn perthynas ag allbwn cyffredinol y gwasanaeth.

Noder: Mae Gwasanaethau Cyfradd Premiwm a Reolir yn is-set o Wasanaethau Cyfradd Premiwm sy’n cael eu rheoleiddio gan PhonePay Plus. Dylai trwyddedeion gyfeirio at yr arweiniad i gael manylion pellach y termau a ddefnyddir yn yr adran hon


Troednodyn:

[1] Gan gynnwys cynnwys sain yn unig ar wasanaeth rhaglenni ar-alw (ODPS) y BBC.

Yn ôl i'r brig