A shocked looking person looking at their phone screen

Datgelu agweddau cyhoeddus at iaith dramgwyddus ar deledu a radio

Cyhoeddwyd: 22 Medi 2021
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023
  • Gwylwyr a gwrandawyr yn fwy goddefgar o rhegi damweiniol ar yr awyr
  • Cynulleidfaoedd yn pryderu mwy am iaith wahaniaethol, ac yn disgwyl cyd-destun a chyfiawnhad cryf 
  • Mae rhaglenni hŷn sydd â'r potensial i beri tramgwydd yn ysgogi safbwyntiau cymysg, gyda llawer yn teimlo y dylid rhoi rhybuddion

Mae gwylwyr a gwrandawyr wedi dweud wrth Ofcom eu bod yn gyffredinol yn pryderu'n llai am y rhan fwyaf o rhegi ar y teledu a'r radio, yn enwedig os yw'n ddamweiniol a bod ymddiheuriad yn dilyn yn gyflym, yn ôl ein hastudiaeth ymchwil fanwl ddiweddaraf.

Dywed cynulleidfaoedd eu bod eisiau o hyd i ddarlledwyr ystyried yn ofalus pryd, a sut, y defnyddir iaith dramgwyddus. Ond mae llawer o bobl yn cydnabod y gall, yn y cyd-destun cywir, chwarae rhan bwysig mewn rhaglenni.

Teimlai cyfranogwyr yn yr astudiaeth, yn unol â rhyddid mynegiant, y gellir defnyddio geiriau tramgwyddus i greu effaith ddramatig neu hiwmor, adlewyrchu bywyd go iawn, neu hyd yn oed hysbysu ac addysgu.

offensive-language-2021-cym

Roedd eu pryderon yn gyfyngedig cyn belled â bod yr iaith gryfaf yn cael ei darlledu ar ôl y trothwy a bod rhieni'n cael digon o rybuddion a gwybodaeth i rieni i'w helpu i benderfynu beth mae eu plant yn ei weld a'i glywed.

Roedd ymddiheuriadau amserol, diffuant hefyd yn bwysig i wylwyr a gwrandawyr mewn achosion lle darlledwyd iaith dramgwyddus yn fyw ar yr awyr yn ddamweiniol.

Iaith wahaniaethol ac ystrydebau

O gymharu, dywedodd cynulleidfaoedd wrthym fod ganddynt bryderon mwy difrifol am iaith wahaniaethol ar deledu a radio – yn enwedig o ran hil.

Yn ein grwpiau ffocws, cyfeiriodd gwylwyr a gwrandawyr at yr agweddau sylfaenol y mae iaith wahaniaethol yn eu hadlewyrchu, ac roedd ganddynt ddisgwyliadau uwch y byddai hyn yn cael ei osgoi, gan gynnwys yn ystod darllediadau byw. Dywedodd cynulleidfaoedd, pan fydd mathau cryf o iaith wahaniaethol yn ymddangos mewn rhaglenni, eu bod yn disgwyl i ddarlledwyr wneud eu gorau glas i'w roi yn ei gyd-destun yn ofalus ac felly diogelu gwylwyr a gwrandawyr rhag y tramgwydd y gall ei achosi.

Roedd barn ar raglenni hŷn â chynnwys ac iaith a allai fod yn broblemus yn gymysg. Dywedodd llawer o'r cyfranogwyr nad oeddent am weld y mathau hyn o raglenni'n diflannu o sgriniau'n llwyr – gan ddadlau na ddylid sensro na glanhau hanes ac y byddai cynulleidfaoedd yn ymwybodol eu bod yn perthyn i oes wahanol.

Awgrymodd cyfranogwyr eraill y gallai rhaglenni hŷn sy'n cynnwys safbwyntiau hen ffasiwn achosi tramgwydd diangen ac atgyfnerthu stereoteipiau. Cytunodd y mwyafrif o gyfranogwyr, fodd bynnag, fod rhybuddion clir a phenodol am y math o iaith a chynnwys a allai achosi tramgwydd yn bwysig wrth helpu cynulleidfaoedd i wneud dewis gwybodus.

Gall barn pobl am iaith dramgwyddus newid yn sylweddol dros amser. Felly er mwyn sicrhau ein bod yn gosod ac yn gorfodi ein rheolau'n effeithiol, mae'n hanfodol i ni gywain yr wybodaeth ddiweddaraf am sut mae gwylwyr a gwrandawyr yn meddwl ac yn teimlo.

Mae hawl darlledwyr a chynulleidfaoedd i ryddid mynegiant yn bwysig. Bydd y canfyddiadau hyn yn ein helpu i daro'r cydbwysedd cywir rhwng diogelu cynulleidfaoedd – plant yn arbennig – rhag tramgwydd heb gyfiawnhad, ac ar yr un pryd parhau i roi'r rhyddid creadigol i ddarlledwyr adlewyrchu bywyd go iawn yn eu rhaglenni.

Adam Baxter, Cyfarwyddwr Safonau a Diogelu Cynulleidfaoedd

Sut y byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau

Eleni, rydym wedi ymgysylltu â detholiad ehangach a mwy amrywiol o wylwyr a gwrandawyr nag erioed o'r blaen. Roedd hyn yn cynnwys mwy na 600 o bobl o bob oed a chefndir, yn byw ledled y DU, yn ogystal â rhai o amrywiaeth o grwpiau a chymunedau lleiafrifol. Gwnaethom hefyd ehangu ein grwpiau ffocws i gynnwys sesiynau pwrpasol gydag aelodau o'r cymunedau Iddewig a Tsieineaidd am y tro cyntaf.

Nid oes unrhyw hawl absoliwt i beidio â chael ein tramgwyddo gan bethau a ddarlledir ar y teledu a'r radio. Yn yr un modd â hawliau i ryddid mynegiant, gall darlledwyr gynnwys deunydd yn eu rhaglenni a allai fod yn dramgwyddus - ond, er mwyn aros o fewn ein rheolau, mae'n rhaid iddynt sicrhau eu bod yn darparu cyd-destun a diogelwch digonol i gynulleidfaoedd.

Bydd y canfyddiadau hyn yn helpu darlledwyr i ddeall disgwyliadau cynulleidfaoedd am y defnydd o iaith a allai fod yn dramgwyddus yn eu rhaglenni yn well, a pha gamau y gallai fod angen iddynt eu cymryd i ddiogelu gwylwyr a gwrandawyr.

Bydd yr adroddiad hefyd yn helpu tîm Safonau a Diogelu Cynulleidfaoedd Ofcom i ddeall ac ystyried barn cynulleidfaoedd cyfredol wrth wneud penderfyniadau am iaith a allai fod yn dramgwyddus ar y teledu a'r radio, gan roi ystyriaeth lawn i ryddid mynegiant.

Heddiw rydym yn cyhoeddi nodyn i ddarlledwyr i dynnu sylw darlledwyr at ganfyddiadau ein hymchwil.

Yn ôl i'r brig