Wrth i'r gaeaf gydio, mae'r pandemig Covid-19 yn parhau i ddominyddu bwletinau newyddion. Yn y cyfnod ansicr sydd ohoni, mae'n hanfodol bod darlledwyr yn gallu trafod y materion allweddol, dwyn y rhai sydd mewn grym i gyfrif, a sicrhau y gall gwylwyr a gwrandawyr ddibynnu ar wybodaeth gywir a chyfredol. Yma rydym yn esbonio sut mae ein harweiniad i ddarlledwyr yn helpu i wneud i hynny ddigwydd.
Y llynedd, ar adeg o bwysau difrifol ar y GIG a gwybodaeth anghywir eang am Covid-19, fe wnaethom gynghori darlledwyr i gymryd gofal wrth dynnu sylw at honiadau heb eu dilysu am y feirws – gan gynnwys datganiadau a oedd yn ceisio tanseilio cyngor cyrff iechyd cyhoeddus neu ymddiriedaeth mewn ffynonellau gwybodaeth cywir.
Nid yw hyn yn golygu na all darlledwyr dynnu sylw at honiadau di-sail, darlledu safbwyntiau dadleuol, herio a beirniadu gwahanol bolisïau na chynnig barn sy'n gwyro oddi wrth y cyngor gan gyrff cyhoeddus. Yn hytrach, noda ein harweiniad y dylai'r fath safbwyntiau "gael eu rhoi mewn cyd-destun bob amser, a pheidio â chael eu cyflwyno mewn ffordd a allai danseilio ffydd gwylwyr mewn cyngor iechyd swyddogol a allai... yn y cyd-destun presennol, arwain at ddeilliannau difrifol i iechyd y cyhoedd”.
Mae rhyddid mynegiant yn ganolog i'n gwaith yn y maes hwn: dyma'r lens yr ydym yn edrych ar yr holl gwynion darlledu a dderbynion drwyddo. Mae darlledwyr yn rhydd i herio polisi iechyd y cyhoedd, a chwestiynu'r angen am gyfnodau clo a chyfyngiadau at y cyhoedd. Yn wir, credwn fod y cyfyngiadau hynny ar fywydau bob dydd pobl yn amlygu pwysigrwydd hanfodol cynnal trafodaeth agored a thrafodaeth mewn cynnwys darlledu.
Mae Ofcom yn atebol i Senedd y DU a'r llysoedd, a chefnogwyd ein harweiniad i ddarlledwyr ym mis Rhagfyr 2020 gan yr Uchel Lys.
Mae'r rhifau'n siarad drostynt eu hunain. O'r miloedd lawer o oriau o raglenni ar y coronafeirws yn benodol dros y ddwy flynedd ddiwethaf a ddarlledwyd ar draws cannoedd o sianeli a gorsafoedd, dim ond wyth darllediad a welsom yn groes i'n rheolau. Roedd y rhaglenni hyn yn cynnwys honiadau niweidiol a ffug a fu'n cysylltu Covid-19 â gwasanaethau symudol 5G.
Mae'r pandemig yn debygol o barhau'n bwnc llosg i ddarlledwyr yn ystod y misoedd i ddod, gyda materion heriol a dadleuol yn cael eu cyd-drafod mewn rhaglenni. Trwy gydol hyn oll a'r tu hwnt, byddwn yn parhau i gefnogi hawliau darlledwyr a chynulleidfaoedd i ryddid mynegiant. Ond ni fyddwn yn ymwrthod rhag cymryd camau pan welwn dystiolaeth o honiadau a allai fod yn niweidiol ac yn ddi-sail a wneir heb her na chyd-destun priodol.