Heddiw, mae Ofcom wedi dirymu trwydded RT i ddarlledu yn y DU, yn effeithiol ar unwaith.
Rydym wedi gwneud hynny ar y sail nad ydym yn ystyried bod trwyddedai RT, ANO TV Novosti, yn addas ac yn briodol i ddal trwydded ddarlledu yn y DU.
Daw'r penderfyniad heddiw yn sgil 29 o ymchwiliadau parhaus gan Ofcom i ddidueddrwydd dyladwy darllediadau newyddion a materion cyfoes RT o ymosodiad Rwsia ar Wcráin. Rydym o'r farn bod maint a natur ddifrifol bosib y materion a godwyd o fewn cyfnod mor fyr yn peri pryder mawr – yn enwedig o ystyried hanes cydymffurfio RT, sydd wedi gweld y sianel yn cael dirwy o £200,000 am achosion blaenorol o dorri didueddrwydd dyladwy.
Yn y cyd-destun hwn, bu i ni lansio ymchwiliad ar wahân i benderfynu a yw ANO TV Novosti yn addas ac yn briodol i gadw ei drwydded i ddarlledu.
Mae'r ymchwiliad hwn wedi cymryd nifer o ffactorau i ystyriaeth, gan gynnwys perthynas RT â Ffederasiwn Rwsia. Mae wedi cydnabod bod RT yn cael ei ariannu gan wladwriaeth Rwsia, sydd wedi ymosod ar wladwriaeth sofran gyfagos yn ddiweddar. Nodwn hefyd gyfreithiau newydd yn Rwsia sydd i bob pwrpas yn gwneud unrhyw newyddiaduraeth annibynnol sy'n gwyro oddi wrth naratif newyddion gwladwriaeth Rwsia ei hun, yn enwedig mewn perthynas â'r ymosodiad ar Wcráin, yn drosedd. O ystyried y cyfyngiadau hyn, rydym o'r farn ei fod i'w weld yn amhosib i RT gydymffurfio â rheolau didueddrwydd dyladwy ein Cod Darlledu o dan yr amgylchiadau.
Rydym yn cydnabod bod RT oddi ar yr awyr yn y DU ar hyn o bryd, o ganlyniad i sancsiynau a bennwyd gan yr UE ers dechrau'r ymosodiad ar Wcráin. Rydym yn ystyried bod pwysigrwydd hawl darlledwr i ryddid mynegiant a hawl y gynulleidfa i dderbyn gwybodaeth a syniadau heb ymyrraeth amhriodol yn fater o ddifri yn ein cymdeithas ddemocrataidd. Rydym hefyd yn ystyried bod pwysigrwydd cynnal ffydd cynulleidfaoedd a hyder y cyhoedd yn nhrefn reoleiddio darlledu'r DU yn fater o ddifri.
Gan gymryd hyn oll i ystyriaeth, yn ychwanegol at ein pryderon cydymffurfio uniongyrchol a lluosog, rydym wedi dod i'r casgliad na allwn gael ein bodloni y gall RT fod yn ddarlledwr cyfrifol o dan yr amgylchiadau presennol. Gan hynny, mae Ofcom yn dirymu trwydded RT i ddarlledu, yn effeithiol ar unwaith.
Mae rhyddid mynegiant yn rhywbeth yr ydym yn ei warchod yn frwd yn y wlad hon, ac mae'r trothwy ar gyfer cymryd camau ynghylch darlledwyr wrth reswm wedi'i osod yn uchel iawn. Gan ddilyn proses reoleiddio annibynnol, rydym wedi dod i'r casgliad heddiw nad yw RT yn addas ac yn briodol i ddal trwydded yn y DU. O ganlyniad, rydym wedi dirymu trwydded ddarlledu RT yn y DU.
Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom