A lit 'on air' sign

Llythyr Ofcom at y Daily Telegraph ynghylch didueddrwydd dyladwy

Cyhoeddwyd: 16 Mehefin 2023
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mehefin 2023

Rydym wedi anfon llythyr at y Daily Telegraph, a gyhoeddwyd heddiw, sy'n nodi ein rheolau o ran didueddrwudd dyladwy mewn darlledu. Daw hyn yn sgil cyd-drafodaeth ddiweddar a llythyrau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar y mater. Gweler testun llawn y llythyr isod.

Syr,

Roedd dau gyflwyniad i'r Daily Telegraph o fewn yr wythnos ddiwethaf (Sylw, Mehefin 13, a Llythyr, Mehefin 14) a fu'n trafod rheolau didueddrwydd dyladwy Ofcom yn ein Cod Darlledu a sut y cânt eu cymhwyso.  Fel beirniad y rheolau pwysig hyn, rydym am egluro'r sefyllfa.

Mae'r gofyniad didueddrwydd dyladwy wedi'i bennu gan Senedd y DU. Mae wedi bodoli ers ymhell cyn i Ofcom gael ei sefydlu, ac mae'n sicrhau bod cynulleidfaoedd yn profi amrywiaeth eang o leisiau a safbwyntiau. Yn bwysig, nid yw'n golygu "hollol ddiduedd" neu "niwtral”. Nid yw ychwaith yn gystrawen fathemategol sy'n mynnu rhoi amser cyfartal ar yr awyr i bob safbwynt gwrthwynebol. Mae'r elfen 'dyladwy' yn bwysig tu hwnt.

Ystyr "dyladwy" yw digonol neu briodol i'r pwnc a natur y rhaglen. Nodir yn glir yn ein Cod Darlledu y gall ein hymagwedd at ddidueddrwydd dyladwy amrywio yn ôl natur y pwnc, y math o raglen a sianel, disgwyliadau tebygol y gynulleidfa o sianeli a rhaglenni penodol, ac i ba raddau y caiff y cynnwys a'r ymagwedd eu harwyddo i'r gynulleidfa. Mae hyn bob amser wedi bod yn wir ers cyflwyno'r Cod yn 2005 ac mae'n adlewyrchu ymagwedd y rheoleiddwyr cyn i Ofcom gael ei chreu.

Yn hollbwysig mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith, wrth gymhwyso'r rheolau hyn, i ni ystyried rhyddid golygyddol darlledwyr a hawl eu gwylwyr a'u gwrandawyr i ryddid mynegiant.

Mae Ofcom yn trwyddedu tua 2,000 o wasanaethau teledu a radio yn y DU. Mae pob un yn ddarostyngedig i'r rheolau didueddrwydd dyladwy hyn, ond nid ydym yn disgwyl iddynt fabwysiadu'r union un ymagwedd at ei warchod. Mae hynny, yn briodol, yn fater golygyddol i ddarlledwyr, a gallant ddefnyddio nifer o dechnegau. Nid oes ymagwedd 'un ateb i bopeth'.

Mae darlledu yn y DU yn mwynhau hanes cyfoethog o raglennu seiliedig ar farn a arweinir gan bersonoliaethau, ac wrth gymhwyso ein rheolau rydym am gefnogi trafodaeth gadarn a bywiog. Felly mae modd darparu ar gyfer ymagweddau golygyddol amrywiol at ddidueddrwydd dyladwy – fel rhywfaint o'r hyn a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf – ar yr amod bod y rhaglenni'n ddyladwy ddiduedd trwy gynnwys amrywiaeth briodol o safbwyntiau amgen.

Rydym yn cymhwyso ein rheolau didueddrwydd dyladwy heb ofn na ffafr, ac os bydd darlledwyr yn methu'r nod, ni fyddwn yn petruso cyn camu i'r adwy.

Siobhan Walsh, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a'r Cyfryngau, Ofcom

Llundain SE1

Yn ôl i'r brig