Mae Ofcom wedi canfod bod y BBC wedi torri rheolau didueddrwydd dyladwy mewn perthynas ag eitem newyddion a ddarlledwyd ar The World at One, BBC Radio 4, ar 24 Chwefror 2021.
Roedd yr eitem newyddion yn trafod yr anghydfod rhwng Llywodraeth Yr Alban a'r cyn-Brif Weinidog, Alex Salmond ynghylch y ffordd y deliodd â chwynion aflonyddu yn ei erbyn ac ymchwiliad Holyrood o ganlyniad.
Roedd yn cynnwys cyfweliad â’r Farwnes Ruth Davidson a fynegodd, yn helaeth, safbwyntiau beirniadol cryf am Lywodraeth yr Alban heb roi sylw dyledus i safbwyntiau amgen.
Fe wnaethon ni dderbyn cwyn am y rhaglen, oedd wedi cwblhau proses BBC yn Gyntaf.
Ar ôl ymchwilio i'r gŵyn yn erbyn ein rheolau darlledu, gwelsom fod y BBC wedi methu â chadw didueddrwydd dyladwy.
Ynglŷn â'n hymchwiliad
Wrth ddod i'n penderfyniad, gwnaethom ystyried yn ofalus hawliau'r darlledwr a'r gynulleidfa i ryddid mynegiant.
Gwnaethom ystyried hefyd y ffactorau canlynol:
- Difrifoldeb cyhuddiadau Ruth Davidson ynglŷn â Llywodraeth yr Alban a'i beirniadaeth gref a pharhaus
- Y ffaith ei bod yn gallu mynegi ei barn yn helaeth heb i safbwyntiau amgen gael sylw dyledus
- Absenoldeb dolen glir i'r rhaglen brynhawn dilynol a barhaodd i drafod y stori.
Dysgwch fwy am y Cod Darlledu a sut rydym yn asesu cwynion.