Datganiad: Adolygiad o’r rheolau yng Nghod Darlledu Ofcom ar gyfer gwarchodaeth orfodol yn ystod y dydd

Cyhoeddwyd: 14 Mawrth 2018
Ymgynghori yn cau: 9 Mai 2018
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

O dan adran 319 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (“y Ddeddf”), mae gan Ofcom ddyletswydd i osod safonau ar gyfer cynnwys a ddarlledir a fydd, yn ein tyb ni, yn fodd i sicrhau amcanion y safonau. Un o amcanion y safonau yw sicrhau bod “unigolion o dan ddeunaw oed yn cael eu hamddiffyn”. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn Adran Un y Cod Darlledu (“y Cod”). Rydym ni o’r farn bod y safonau rydym wedi’u gosod er mwyn amddiffyn plant ymysg y rhai pwysicaf yn y Cod, a byddan nhw’n dal yn flaenoriaeth i ni.

Mae rheol 1.4 y Cod yn datgan bod yn rhaid i ddarlledwyr teledu gadw at y trothwy 9pm. Mae hyn yn golygu na ddylid dangos deunydd teledu sy’n anaddas i blant cyn 21:00 nac ar ôl 05:30, yn gyffredinol.

Ers i’r Cod gael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 2005, mae wedi gadael i fathau penodol o gynnwys teledu sy’n anaddas i blant gael ei ddarlledu cyn y trothwy 9pm, os oes PIN gorfodol ar waith, hy PIN na ellir ei dynnu. Yn benodol, mae sianeli ffilmiau sy’n cynnig gwasanaeth premiwm i danysgrifwyr yn cael darlledu ffilmiau sydd wedi cael dosbarthiad o hyd at 15 gan y BBFC, neu rai sy’n cyfateb iddyn nhw, ar unrhyw adeg o’r dydd ar yr amod bod system warchod sy’n defnyddio PIN gorfodol ar waith rhwng 05:30 ac 20:00. Hefyd, caiff gwasanaethau talu wrth wylio ddarlledu ffilmiau hyd at ddosbarthiad 18 y BBFC, ar yr amod bod PIN gorfodol ar waith i gyfyngu ar y gwylio rhwng 05:30 a 21:00.

Mae gwarchodaeth orfodol yn ystod y dydd yn fesur diogelu effeithiol sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae’n ategu’r trothwy 9pm er mwyn gwarchod plant rhag cynnwys darlledu a allai fod yn anaddas iddynt.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Standards and Audience Protection team
CSLE, Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig