Rydym wedi ymateb i’r Gwir Anrh. Nadine Dorries, AS, Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon heddiw ynghylch y sefyllfa yn Wcráin a safonau darlledu. Dyma gyfieithiad Cymraeg o’n llythyr Saesneg.
Annwyl Ysgrifennydd Gwladol,
Diolch am eich llythyr heddiw ynghylch yr argyfwng yn Wcráin. Cytunaf â chi bod cyfryngau rhydd yn un o gonglfeini ein democratiaeth. Mae Ofcom yn cymryd o ddifrif ein rôl fel rheoleiddiwr annibynnol cyfathrebiadau, a'n cyfrifoldeb dros gynnal rhyddid lleferydd ar yr un pryd â sicrhau bod cynulleidfaoedd teledu a radio yn cael eu diogelu rhag niwed.
A ninnau'n cydnabod natur ddifrifol yr argyfwng yn Wcráin, rydym wedi bod yn cadw'r sefyllfa'n destun adolygiad manwl ac eisoes wedi cynyddu ein goruchwyliaeth o'r sylw a roddir i'r digwyddiadau hyn gan ddarlledwyr yn y DU. Rydym yn hwyluso cwynion yn y maes hwn fel mater o frys a byddwn yn cymryd camau'n ddi-oed os bydd angen. Rwyf yn hyderus bod gennym yr ystod lawn o ddulliau gorfodi sydd ar gael i ni ac mae ein hanes yn dangos, pan fyddwn yn dod o hyd i dor rheolau, y gallwn ac yr ydym yn cymryd camau. Fel bob amser, byddwn yn hollol dryloyw am unrhyw ymchwiliadau y byddwn yn eu cychwyn, a chanlyniadau'r rheiny.
Mae Cod Darlledu Ofcom, sy'n adlewyrchu'r rheolau a bennir gan Senedd y DU yn y Ddeddf Cyfathrebiadau, yn mynnu i bob trwyddedai sicrhau bod newyddion – ar ba bynnag ffurf – yn cael ei adrodd yn gywir a'i gyflwyno'n ddiduedd. Mae'n dderbyniol i ddarlledwyr gyflwyno materion o safbwynt penodol ar yr amod bod barn a safbwyntiau amgen hefyd yn cael eu cynrychioli. Ni fyddai'n dderbyniol i unrhyw un o'n trwyddedeion ddarlledu propaganda unochrog.
A finnau'n nodi diddordeb Senedd y DU yn y materion hyn, yr wyf yn copïo'r llythyr hwn at Julian Knight AS a'r Gwir Anrhydeddus Y Farwnes Stowell o Beeston, fel cadeiryddion Pwyllgorau Dethol Tŷ'r Cyffredin a'r Arglwyddi yn y drefn honno.
Yn gywir
Y Fonesig Melanie Dawes