Cyfieithiad Cymraeg o Araith gan yr Arglwydd Grade i'r Gymdeithas Deledu Frenhinol, 27 Medi 2022.
[Gwiriwyd cyn cyflwyno]
Cyflwyniad
Bore da.
Yr arwyddair heddiw yw 'Ymladd dros Sylw’. Felly, mewn ymgais am eich sylw chi rwy'n gwneud y cyfaddefiad ysgytwol nad oeddwn i byth yn arfer hoffi rheoleiddwyr…
Deilliodd fy antipathi o'r oes bendefigaidd honno o reoleiddio darlledu sydd wedi hen ddiflannu pan, creda fe neu beidio, yr Awdurdod Darlledu Annibynnol oedd cyhoeddwr cyfreithiol popeth a drawsyrrwyd gennym ar ITV – un o gadarnleoedd olaf rheolaeth ar y celfyddydau a gwybodaeth gan y sefydliad.
Yr isafbwynt oedd cyfarfod dan gadeiryddiaeth yr Arglwyddes Plowden, goruwch-bendefig yr IBA. Eisteddodd y cynulliad o fawrion y 15 o gwmnïau ITV mewn arswyd wrth iddi fynnu i Crossroads, opera sebon mwyaf poblogaidd y DU, gael ei ddileu o'r amserlen. Roedd o fewn y pum slot uchaf o ran nifer y gwylwyr bob wythnos, ond ni fu'n sioe y gallai'r mawrion fod yn falch ohoni yn eu soirées cinio.
Gofynnodd yr Arglwydd Windlesham, MD y cwmni cynhyrchu Central TV, am ei rhesymu. Yn y diwedd cyfaddefodd hi, a dyfynnaf air am air: “Mae'r Awdurdod yn ei chael yn ofidus o boblogaidd”.
Wel, yn union fel y mae technoleg wedi ein symud ymlaen yn esbonyddol, rwy'n hapus i adrodd bod rheoleiddio darlledu hefyd wedi symud gyda'r oes. Felly, rwy'n falch ac yn freintiedig o gael siarad â chi nawr fel cadeirydd Ofcom, ar adeg bwysig yn ei hanes.
Bywyd mwy diogel ar-lein
Ar hyn o bryd, mae Ofcom yn paratoi ar gyfer her newydd. O dan Fesur Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU - ymhlith y deddfau cyntaf o'u math yn y byd - byddwn yn derbyn pwerau newydd i ddwyn rhai o gwmnïau technoleg mwyaf y byd o ran maint a phŵer i gyfrif.
Dengys einhymchwil fod pobl yn poeni fwyfwy am gynnwys ar-lein niweidiol – iddyn nhw eu hunain, ac i'w plant. Mae angen brys am reolau synhwyrol a chytbwys sy'n amddiffyn defnyddwyr rhag niwed difrifol.
Ni fu'r cynlluniau hyn heb eu beirniaid, yn Senedd y DU ac mewn mannau eraill. Dywed rhai na fydd gan Ofcom ddim effaith. Na all rheoleiddiwr yn y DU newid ymddygiad cewri technoleg byd-eang; neu fod faint y niwed ar-lein yn rhy fawr i fynd i'r afael ag ef.
Mae eraill yn dweud y bydd y Mesur yn cael gormod o effaith, drwy fygu rhyddid mynegiant.
Gadewch i mi ymateb, gan ddechrau gyda rhyddid lleferydd. Wedi'r cyfan, mae hynny'n enaid y rhyngrwyd.Yn Ofcom, mae gennym 20 mlynedd o brofiad o'i ddiogelu ar draws y byd darlledu.
Edrychwch ar y rhifau. Y llynedd, fe wnaethom asesu mwy na 11,000 darn o gynnwys teledu a radio. Ar ôl cymryd rhyddid mynegiant i ystyriaeth, daethon ni o hyd i ddim ond 29 fu'n torri ein rheolau. Yn aml, roedd y rheiny'n faterion difrifol iawn fel lleferydd casineb neu annog llofruddiaeth. Felly nid yw Ofcom yn rheoleiddiwr sy'n ymyrryd mewn dadl gyfreithlon.
Beth am faint y niwed? Wrth gwrs, mae'n rhaid bod yn realistig. Byddai'n amhosib ceisio asesu cynnwys fel yr ydym yn ei wneud gyda theledu a radio. Yn yr ychydig funudau dwi wedi bod yn siarad, mae tua thair mil awr o fideo wedi cael eu huwchlwytho i YouTube yn unig.
Hyd yn oed pe gallem reoleiddio pob darn o gynnwys niweidiol, ni fyddem ond yn trin symptomau niwed ar-lein. Mae'n gywir bod Senedd y DU eisiau i ni gyrraedd yr achos, drwy daflu goleuni ar y penderfyniadau y mae cwmnïau'n eu gwneud wrth ddylunio a gweithredu eu gwasanaethau.
Mae'r Bil yn gosod y baich ar lwyfannau i leihau niwed. Felly rydym eisiau newid eu meddylfryd. Mae angen cyfnod newydd o atebolrwydd, lle mae'n rhaid i gwmnïau flaenoriaethu ymddiriedaeth a diogelwch ochr yn ochr â chliciau ac elw. Gwyddwn fod llawer o wasanaethau yn cymryd camau i ddiogelu eu defnyddwyr. Ond ni fu'r mentrau hyn yn ddigon i adfer ymddiriedaeth a hyder pobl.
Dros amser, mae'n rhaid i gwmnïau technoleg mawr symud eu cyfrifoldebau rheoleiddio o'r adrannau polisi cyhoeddus - sy'n gyfrifol amdanynt heddiw – i'r staff rheng flaen sy'n gyfrifol am ddylunio a gweithredu eu cynnyrch.
Ar hyn o bryd, rwy'n gweld y byd rheoleiddio ar-lein yn cael ei dderbyn a'i ddeall yn dda gan y rhai y mai eu swydd yw poeni am y fath bethau - sef y timau polisi a strategaeth.
Ond, fel bancwyr sy'n credu bod eu hadran gydymffurfio yn perthyn i alaeth bell, bell i ffwrdd, nid yw'r rhai sy'n dylunio ac yn gweithredu'r llwyfannau technoleg yn cael eu heffeithio fel mater o drefn gan reoliadau diogelwch. O dan y deddfau arfaethedig, bydd gan Ofcom bwerau i alw ar bobl sydd â chyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ddiogelwch defnyddwyr ar y gwefannau ac apiau eu hunain. Mae hyn yn cynrychioli newid pwrpasol iawn, yr oedd ei angen ers tro, yn niwylliant rheoleiddio technoleg fawr.
Nawr, bydd hyn oll yn cymryd amser. Nid oes swits hud i'w fflicio, wrth i'r mesur fynd yn Ddeddf; dim iachâd gwyrth i bob salwch sydd ar y rhyngrwyd.
Ond rwy'n credu, dros amser, y bydd y peiriannau chwilio ac apiau cyfryngau cymdeithasol y mae pobl yn eu defnyddio heddiw yn cael eu gwneud yn fwy diogel. A bydd angen i'r diwydiant hogi diwylliant o gyfrifoldeb tuag at ei ddefnyddwyr.
Fel y mae'r cwest presennol i farwolaeth drasig Molly Russell yn ein hatgoffa, mae hon yn dasg frys. Nid ydym yn aros am Gydsyniad Brenhinol i baratoi. Yn hytrach, rydym wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn paratoi. Mae Ofcom yn llogi meddyliau arbenigol o bob rhan o'r diwydiant technoleg. Rydym wedi adeiladu ar ein sylfaen sgiliau presennol trwy recriwtio doniau o Meta, Google ac Amazon, y byd academaidd a'r byd polisi.
Rydym wedi sefydlu uned arloesi data, a chanolfan dechnoleg ym Manceinion. Rydym wedi cyhoeddi ymchwil sy'n flaenllaw yn y byd o ran niwed ar-lein a sut i fynd i'r afael ag ef – o risgiau wrth ddylunio algorithmau i ddefnyddio AI wrth safoni cynnwys. Dim ond yr wythnos diwethaf fe wnaethom archwilio modelau ymchwil ar gyfer asesu niwed ar-lein. Yr hydref yma, byddwn yn rhyddhau astudiaethau ar ddiogelwch oedran, risgiau i blant, technoleg hashio, terfysgaeth ar-lein a lleferydd casineb. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein dadansoddiad fforensig o'r ymateb ar-lein i'r saethu yn Buffalo.
Mae'r holl ymchwil hwnnw'n helpu i ffurfio sylfaen dystiolaeth arbenigol. Bydd hefyd yn ein helpu i ragweld newid ac i ymateb i farchnad sy'n symud yn gyflym.
Meddyliwch... Ychydig o Nadoligau yn ôl, wrth i Lywodraeth y DU gadarnhau'r cynlluniau diogelwch ar-lein i Senedd y DU, roedd dau entrepreneur o Ffrainc yn lansio BeReal. Fel y gwyddoch, nid oes gan y llwyfan hon y gwrthdaro a'r curadu sydd ar rai gwefannau cyfryngau cymdeithasol eraill. Erbyn hyn mae wedi cyrraedd brig siart apiau Apple, fel rhan o newid diwylliannol yn y ffordd y mae pobl ifanc am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Felly mae arwyddion bod defnyddwyr wedi blino ar bwysau hunan-gyflwyno diddiwedd. Neu efallai, fel fi, maen nhw'n pryderu am dôn y rhyngweithio a'r dadlau ar y cyfryngau cymdeithasol.
A all cymunedau ar-lein fynd yn fwy goddefgar o safbwyntiau amrywiol, yn fwy agored eu meddwl i newid? Mae'r rhain yn gwestiynau mwy, sy'n trosgynnu rôl unrhyw reoleiddiwr. Ac eto maen nhw'n effeithio arnom ni i gyd, a gall yr atebion benderfynu rôl ein sector cyfryngau traddodiadol yn y dyfodol.
Gwareiddio'r ddadl
Credaf fod tôn y drafodaeth gymdeithasol ar-lein yn adlewyrchu polareiddio mewn cymdeithas ehangach. Mae'r hyn a oedd ar un adeg yn ddadleuon gwaraidd, cyfreithlon am wleidyddiaeth, cymdeithas a diwylliant bellach yn cael eu dwysau a'u nodweddu fel rhyfeloedd diwylliant. Mae grwpiau traddodiadol a blaengar wedi'u cloi mewn brwydr sydd i'w gweld yn ddiddiwedd i osod eu credoau, eu gwerthoedd, eu geirfa. Mae materion pwysig ond rhwygol – o Brexit i gyfyngiadau Covid neu hawliau personol – wedi mynd yn feysydd y gad dig o raniadau chwerw.
Nawr rwyf wedi cael dadleuon ar hyd fy oes gyda gwleidyddion. Efallai y byddwn i'n cyfaddef y bu rhai ohonyn nhw'n llosg hyd yn oed. Ond pan fydd y dadleuon pwysig hyn yn croesi'r llinell, pan gânt eu cynnal gydag ymosodedd, rhagfarn neu dôn sy'n ffinio ar atgasedd, byddwn ni i gyd ar ein colled.
Pan fyddant yn cael eu cyd-drafod yn lle hynny – ie, gydag angerdd – ond hefyd gyda pharch a meddwl agored, gallwn ddod â phobl at ei gilydd a dod o hyd i atebion sy'n ein helpu i symud ymlaen. Rwyf i fy hun wedi dysgu, mewn dadleuon yn Nhŷ'r Arglwyddi, bod tôn yn hollbwysig. Gyda chwrteisi gallwch gael eich clywed; nid yw dadl ddig ac anoddefgar yn mynd i unman. Fel y nododd Rory Stewart yn ei gyfres ddiweddar ar Radio 4, rydym wedi colli'r grefft o ddadleua yn waraidd.
Pam mae hyn yn bwysig i Ofcom? Yma, rwyf am fod yn glir iawn: Nid yw Ofcom yn, ac ni ddylai Ofcom, reoleiddio'r rhyfeloedd diwylliant. Mae rhai yn ceisio ein consgriptio i'w hachos. Ond nid oes diddordeb gennym. Nid dyna ein gwaith ni. Waeth p'un a ydym yn barnu y bu sylwadau Piers Morgan am Dduges Sussex wedi'u cyfiawnhau gan ryddid mynegiant, neu deyrnged Diversity i'r Mudiad Black Lives Matter hefyd – dydyn ni byth yn gwneud penderfyniadau ar sail dewis personol, pwysau gwleidyddol, ofn na ffafr.
Yn hytrach, rydyn ni'n gadael ein gwahanol safbwyntiau i gyd wrth y drws. Rydyn ni'n canolbwyntio ar y fframwaith a'r dyletswyddau cyfreithiol a roddwyd i ni gan Senedd y DU, ac yn gwneud penderfyniadau gofalus a chytbwys yn seiliedig ar y dystiolaeth. Am yr un rheswm, ni ddylem geisio rheoleiddio tôn y ddadl ar gyfryngau cymdeithasol, naill ai nawr neu drwy ein dyletswyddau newydd.
Serch hynny, rwy'n frwd ar lefel bersonol - fel yr ydych chi hefyd rwy'n siŵr – dros yr angen am ddadleua oddefgar. Mae hynny'n bwysig i mi nid yn unig fel dinesydd a Seneddwr, ond hefyd fel rhywun sydd wedi ceisio hyrwyddo ein sector darlledu o safon fyd-eang. Gan fod gan ddarlledu allu unigryw i ddarparu llwyfan teg, cywir a dibynadwy ar gyfer lleisiau llonydd ac ystyriol. Mae angen y safbwyntiau hynny'n fwy nawr nag erioed ar gyfer cymdeithas sefydlog a democratiaeth gref.
Felly, mae angen 'didueddrwydd dyladwy’; ond mae angen ymddiriedaeth hefyd. Mewn geiriau eraill, mae canfyddiadau o ddidueddrwydd yn bwysig hefyd. A dengys ein hymchwil ddiweddaraf y gallent fod yn gryfach. Mae tua chwech o bob deg yn ymddiried mewn newyddion teledu – ychydig yn uwch gyda Sky News, sef saith o bob deg.
Pam nad yw ein ddarlledwyr i gyd yn gwneud hyd yn oed yn well ar y mesur hwn?
Mae didueddrwydd yn ardal hynod o gymhleth. Mae ymchwil Ofcom yn dangos bod llawer o ffactorau yn dylanwadu ar ganfyddiadau pobl yma, gan gynnwys pa mor gryf maen nhw'n teimlo am fater penodol.
Bu i ni gyhoeddi ymchwil ddiddorol ar ddidueddrwydd yr haf yma. Roedd yn seiliedig ar gynnwys y BBC, ond mae'r canfyddiadau'n berthnasol i bawb. Pan edrychodd cyfranogwyr ar adroddiad newyddion, roedd eu hargraffau o ddidueddrwydd dyladwy yn aml yn seiliedig ar signalau ynghylch sut y cafodd ei gyflwyno, megis tôn y cyflwynydd.
Yn yr un modd yn union ag ar y cyfryngau cymdeithasol, mae tôn yn bwysig. Rydyn ni i gyd eisiau i newyddiadurwyr teledu – ac yn wir radio – wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau: dwyn pobl i gyfrif, croesholi eu cymhelliannau a phrofi eu barn. Credaf y gallant wneud hyn oll mewn modd pwyllog.
Wrth gwrs, mae angen i ddarlledwyr ddod o hyd i gynulleidfa ar gyfer eu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol. Wrth geisio cyrraedd pobl ifanc, sy'n gwylio saith gwaith yn llai o deledu llinol na phobl dros 65 oed, efallai bod cliciau'n fwy pwysig na nifer y gwylwyr.
Ond yn y frwydr am sylw, ni fydd darlledwyr traddodiadol byth yn cyrraedd capasiti'r cyfryngau cymdeithasol am ddrama ac ysgytwad. Ni ddylen nhw geisio gwneud hynny ychwaith. Yn hytrach, rydym yn troi atynt am ddadansoddi a chroesholi tawel a fforensig.
Bydd y ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain. Bydd yr hyn sy'n ffals, gwrthddweud a rhagrith yn dal i gael eu dinoethi. Gall, a bydd, gwylwyr a gwrandawyr yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain.
Yn fwy na hynny, efallai y bydd cynulleidfaoedd yn llai tueddol o gwestiynu cymhelliannau'r cyfwelydd, neu ddidueddrwydd y sianel. Trwy wneud hynny, gall ein darlledwyr gryfhau eu henw da eu hunain, ar yr un pryd â helpu i wareiddio'r ddadl genedlaethol.
Gobeithio y bydd hyn yn cael ei gymryd yn y ffordd iawn: fel arsylwad gan rywun sy'n angerddol iawn dros ein diwydiant darlledu, ac sydd wedi treulio degawdau lawer yn ein sector darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB). Rwy'n gwerthfawrogi ei werthoedd a'i werth.
Sy'n dod â fi at un cwestiwn olaf.
Sut y dylen ni, fel cenedl, drefnu'r system PSB orau i gynnal ei ddyfodol dros y deng mlynedd nesaf?
Dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus
Wel, cyn i mi ymuno ag Ofcom, neu hyd yn oed feddwl am ymgeisio, doeddwn i byth yn swil am fynegi barn ar hyn. Ond nid yw barn bersonol - yn enwedig fy rhai i - yn arian cyfred gwaith Ofcom. Ein rôl ni yw darparu ymchwil a thystiolaeth, addasu ein rheoleiddio a chyfeirio Senedd y DU o ran opsiynau polisi a'u heffaith.
Mae rhai agweddau ar PSB yn destun dadl ar hyn o bryd. Mae cwestiynau tymor hir i'w hateb: Cyllido'r BBC, perchnogaeth ar Channel 4, a sut y gallai deddfwriaeth codi'r gwastad o ran darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn cystadlu â ffrwdwyr o'r Unol Daleithiau. Materion i Lywodraeth a Senedd y DU, nid Ofcom, yw'r rhain.
Ond mae un peth y gallwn ni i gyd gytuno arno. Mae'r sector diwydiannau creadigol yn un o straeon llwyddiant mawr Prydain dros y 50 mlynedd diwethaf. Mae galw mawr am ddoniau ein diwydiant – o seiri, i gripiau, awduron sgrin, dylunwyr, colurwyr, effeithiau arbennig, cyfarwyddwyr ac actorion – ar draws y byd, boed dirwasgiad neu bandemig.
Mae gwylwyr a gwrandawyr Prydain yn mwynhau deiet cyfoethog ac amrywiol o raglenni a wnaed ym Mhrydain. Fel y nododd Ofcom yn ein hadolygiad y llynedd, Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr, cryfder ein darlledwyr traddodiadol yw eu gallu i wneud rhywbeth na all llwyfannau'r Unol Daleithiau ei wneud yn aml: apelio at bobl o bob cefndir, cyrraedd a gwasanaethu pob rhan o'r DU. PSB yw'r man lle mae diwylliant a masnach yn dod ynghyd. Rhaid i ni byth anghofio pwysigrwydd diwylliannol ei threftadaeth.
Ac er bod gan y diwydiant fwy i'w wneud ar amrywiaeth - yn enwedig y tu ôl i'r camera - ar y sgr6in rydym wedi gwneud cynnydd gwych ers i mi ddechrau yn y byd darlledu.
Am y rhesymau hyn i gyd, mae'n rhaid profi unrhyw newidiadau arfaethedig i'n trefniadau PSB yn erbyn eu heffaith bosib ar fuddsoddi yn ein diwydiannau creadigol. Yn syml iawn, bu'r cyflawniadau hyn yn fuddugoliaeth polisi cyhoeddus. Mae'n rhaid i ni wneud dim byd i'w peryglu. Rwy'n sicr y bydd gan y Senedd y DU hynny mewn golwg wrth iddi adolygu'r trefniadau presennol.
Mae'n rhaid i'r rhai sy'n llunio polisi ddysgu o hanes. Rwy'n gobeithio ein bod i gyd yn cofio gwersi penderfyniad y Comisiwn Cystadleuaeth yn 2009 i beidio â chaniatáu i'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus lansio'r gwasanaeth ffrydio 'Kangaroo' ar y cyd. Fy marn i yw bod y camfarnu byrolwg hwn wedi rhoi'r farchnad ffrydio werthfawr i UDA ar blât rheoleiddio.
Ers hynny, mae ffrydwyr yr Unol Daleithiau wedi trawsnewid a goresgyn marchnad y DU. Mae llwyfannau ar-lein yn ail-siapio'r ffordd yr ydym yn darganfod ac yn defnyddio cynnwys, gan ddarparu dewis digynsail, ond hefyd yn ei gwneud hi'n anoddach i ddarparwyr cynnwys domestig gystadlu.
Felly rydym wedi bod yn gweithio gydag olynydd y Comisiwn, yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, ar God Ymarfer newydd, gan gynnwys rhai rheolau sylfaenol ar y berthynas gyda chyhoeddwyr. Y nod yw helpu i sicrhau bod y berthynas fasnachu rhwng llwyfannau ar-lein mawrion a chyhoeddwyr yn deg ac yn rhesymol. Bydd hyn yn gweddu i'n gwaith ar blwraliaeth y cyfryngau, lle rydym yn ystyried ehangder darparwyr newyddion y DU.
Casgliad
Yn gryno, mae 'na waith i'w wneud - ond rwy'n obeithiol am y dyfodol.
Mae Llywodraeth y DU wedi clywed ein hargymhellion, ac mae'r Mesur Cyfryngau'n darparu cyfle i ddiffinio dyfodol newydd ar gyfer darlledu gwasanaethau cyhoeddus. Bydd Ofcom yn rhoi benthyg tystiolaeth a dadansoddiad clir i'r ddadl, gan archwilio'r farchnad a defnyddio ein pwerau cystadleuaeth i ymyrryd lle bo angen.
A byddwn yn parhau i weithio gyda chi i wneud y diwydiant yn gadarn.
O dan fy oruchwyliaeth, bydd Ofcom yn ymdrechu i gynnal ei henw da, yn anad dim, er annibyniaeth wleidyddol; er penderfyniadau a dyfarniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil. A byddwn yn parhau â'n gwaith o hyrwyddo twf, cystadleuaeth a buddsoddiad, ac ar yr un pryd sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu gwobrwyo, ac – yn enwedig yn yr oes sydd ohoni - bod gwasanaethau'n parhau'n fforddiadwy.
Ni all unrhyw wlad arall gystadlu â doniau, creadigrwydd a threftadaeth ein sector darlledu. I bob un ohonoch sy'n gweithio ynddo, fy neges yw y gallwch ffynnu drwy ganolbwyntio ar eich cryfderau: drwy wneud rhaglenni rhagorol ar gyfer cynulleidfaoedd y DU, a dod â didueddrwydd llonydd i'r ddadl genedlaethol. Yn hynny o beth, ni fu arnom eich angen chi fwy.
Felly diolch, RTS, am y gwahoddiad hwn, a diolch i chi am wrando. Dim ond gobeithio y ces i'r tôn yn iawn!