Weithiau mae pobl sydd wedi gweld rhywbeth roedden nhw'n ei weld yn niweidiol neu'n sarhaus ar wasanaeth ffrydio - sydd hefyd yn cael ei alw'n fideo ar-alw (VOD) – fel Netflix, eisiau gwybod pa gamau y gallai Ofcom eu cymryd. Yr ateb syml yw nad yw Ofcom yn rheoleiddio Netflix er ein bod yn rheoleiddio llawer o wasanaethau tebyg eraill.
Rydym yn esbonio beth yw ein rôl o ran cynnwys ar wefannau ffrydio/VOD isod.
Sut mae rheolau darlledu Ofcom yn gweithio
Fel y rheoleiddiwr darlledu, mae gennym bwerau a roddwyd i ni gan Senedd y DU sy'n ein galluogi i ddiogelu gwylwyr a gwrandawyr.
Mae Ofcom yn gorfodi'r rheolau a nodir yn y Cod Darlledu sy'n berthnasol i deledu a radio.
Mae'r rheolau hyn wedi'u dylunio i'ch amddiffyn rhag niwed, ond hefyd i gydnabod rhyddid mynegiant. Mae'n debyg eu bod yn fwyaf adnabyddus am y trothwy 9pm, ond maent hefyd yn cwmpasu lleferydd casineb, iaith sarhaus a gosod cynnyrch.
Ac maen nhw'n golygu y gallwch chi gwyno i ni os ydych chi'n gweld rhywbeth sy'n peri gofid i chi.
Mae'r rheolau hyn hefyd yn berthnasol i deledu a radio'r BBC yn ogystal â sioeau y gallwch eu gwylio ar BBC iPlayer. Ond mae'r cwynion yma'n cael eu trin gan y BBC yn y lle cyntaf, yna gall pobl ddod atom ni os nad ydyn nhw'n fodlon ar y canlyniad. BBC yn Gyntaf yw enw'r broses hon.
Ble mae Netflix yn ffitio i mewn i'r system hon?
Nid yw Ofcom yn rheoleiddio Netflix – mae eu pencadlys Ewropeaidd yn yr Iseldiroedd ac felly mae'n cael ei reoleiddio gan reoleiddiwr cyfryngau'r Iseldiroedd, y Commissariaat voor de Media.
Yn ôl ein hymchwil, Netflix yw'r gwasanaeth ffrydio drwy danysgrifiad mwyaf poblogaidd yn y DU. Mae gan tua 17 miliwn o aelwydydd (60%) danysgrifiad Netflix, wedi'i ddilyn gan Amazon Prime Video (46%) a Disney+ (23%). Mae un o bob pump o gartrefi (5.2 miliwn) yn tanysgrifio i'r tri.
Dylid cyfeirio unrhyw gwynion am sioeau sydd ar gael ar Netflix at awdurdodau'r Iseldiroedd, nid Ofcom.
Felly pa wefannau ffrydio (neu VOD) ydyn ni'n eu rheoleiddio, a beth mae hyn yn ei olygu i chi fel gwyliwr?
Mae Amazon Prime Video, Disney+, Paramount+, Discovery +, Hayu, ITV X a gwasanaethau ffrydio eraill yn dod o dan gwmpas y rheolau statudol a orfodir gan Ofcom.
Nid yw'r Rheolau'r ODPS mor eang â'r Cod Darlledu ac mae cwynion fel arfer yn mynd i'r darparwr yn gyntaf, yn hytrach nag i Ofcom. Ond gallwch chi ddod yn syth at Ofcom os ydych chi'n poeni bod rhaglen yn niweidiol i blant neu'n debygol o ysgogi casineb.
Rydyn ni'n gwybod bod y ffaith y ceir rheolau gwahanol a safonau gwahanol gan ddibynnu ar sut rydych chi'n gwylio gallai rhaglen yn peri dryswch i wylwyr. Mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn ymchwilio iddo. Cyhoeddodd Bapur Gwyn yn gynharach eleni a nododd y bydd y Llywodraeth y DU yn rhoi pwerau i Ofcom ddrafftio a gorfodi Cod VOD newydd sy'n debyg i'r Cod Darlledu, er mwyn sicrhau y bydd cynnwys sy'n debyg i deledu, waeth sut y bydd cynulleidfaoedd yn dewis ei wylio, yn destun safonau tebyg.